Cyflwyniad i'r cynllun Cerdyn Teyrngarwch - Siopa yn Gymraeg
Beth am gymryd ran yn ein cynllun sirol a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y gymdeithas?
Why not take part in our county scheme to increase the use of Welsh in society?
Manylion y Cynllun
Rydym am fynd a gwaith y Siarter allan o ffiniau'r Ysgol ac i'r gymuned ehangach.
Cefndir
Rydym am weld cynnydd yn y nifer o blant sydd yn defnyddio'u Cymraeg yn y gymuned.
Y syniad yw cynnig cerdyn teyrngarwch a chyfle i blant gasglu sticeri wrth ddefnyddio eu CYMRAEG wrth siopa yng Ngheredigion.
Er mwyn cael sticer, bydd disgwyl i blant ddechrau sgwrs yn Gymraeg gyda'r aelod o staff a hynny drwy gyfarch, holi cwestiwn, prynu, neu thalu yn y Gymraeg. Cofiwch y bydd angen dangos y cerdyn teyrngarwch yn y siop i gael sticer.
Cam 1
Cyngor Cymreictod i benderfynu os am fod yn rhan o'r cynllun Sirol
Os am fod yn rhan o'r cynllun, cysylltwch gydag Anwen Eleri yn holi am gardiau teyrngarwch i'r disgyblion ac am wobrau.
Cam 2
Hyrwyddo ac egluro'r cynllun yn y gwasanaeth, dosbarth ......
Dosbarthu cardiau i'r disgyblion (cewch chi ddewis pa flynyddoedd)
Cam 3
Unwaith i ddisgybl gasglu 10 sticer ar y cerdyn, y bydd y cerdyn hwnnw yn dod nôl i'r Ysgol at y Cyngor Cymraeg er mwyn cynnig gwobr iddynt.
Cynnal gwasanaeth gwobrwyo i gyflwyno gwobr a thystysgrif
Cam 4
Mae modd datblygu y cynllun mor bell a mynnoch o fewn yr Ysgol. Er enghraifft gellid cynnig ail, trydydd cerdyn i blentyn. Gwobrwyo drwy dystysgrif yn y gwasanaeth ar ddiwedd tymor. Cadw sgôr / system pwyntiau o fewn yr ysgol. Cadw'r holl gardiau y flwyddyn a gwneud raffl fawr ........ cewch chi drafod
Cam 5
Cynnig adborth am y cynllun i Anwen Eleri
Siopau
Yn amlwg nid yw pob siop yn rhan o'r cynllun. Gweler y siopau sydd yn cefnogi'r cynllun ar hyn o bryd.
Os gwyddoch am unrhyw siop yn eich cymuned sydd â diddordeb i gefnogi ac i fod yn rhan o'r cynllun, cysylltwch ag Anwen Eleri