Mae Llanfach angen eich help!
Mae pwyllgor Neuadd Llanfach yn benderfynol i wella’r neuadd o ran ei chyflwr ffisegol a’r amwynderau sydd ar gael i ddefnyddwyr presennol, ac i bawb yn y gymuned sydd am ddefnyddio’r neuadd yn y dyfodol. Ond mae angen eich help.
Rydym wedi creu rhestr o waith sydd angen cwblhau, ac mae’r holl aelodau o’r pwyllgor wedi cytuno cyfrannu ei amser at yr achos. Nawr rydym yn gofyn i aelodau’r gymuned os ydyn yn fodlon gwirfoddoli i helpi. Yn gychwynnol bydd angen glanhau, paentio, garddio a bach o waith trwsio.
Yn ychwanegol, hoffwn ofyn unrhyw fasnachwyr crefftus yn y gymuned e.e. trydanwyr, plymwyr, saer coed ayyb., sy’n fodlon gwirfoddoli i gynorthwyo a lle mae’n addas rhoi pris i gwblhau gwaith o fewn ei arbenigedd.
Bydd rhai aelodau o'r pwyllgor yn y neuadd o 10yb 29ain Hydref i ddechrau paentio rhywfaint. Felly galwch mewn i helpi neu ddarganfod mwy am ein cynlluniau fel penwythnos o waith ar y 12/13eg o Dachwedd. Bydd unrhyw ddiweddariadau yn dod trwy’r sianelu arferol yn cynnwys gwefan Llanfach (www.llanfach.co.uk), dros y cyfryngau cymdeithasol, hysbysfyrddau, papur pawb ac yn obeithiol trwy’r ffordd gorau: y gair llafar.
Gyda llawer o ddiolch a gwerthfawrogiad i bawb sydd gall helpu.
Allwch gysylltu ag unrhyw aelod o’r pwyllgor i adael gwybod eich bod am helpu neu cysylltwch ag ysgrifennydd y pwyllgor:
David Wyn Griffiths
Ffon: 01970832446
Mob: 07852858521
E-bost: wyn.griff@icloud.com
Pwyllgor Neuadd Llanfach