Tymor yr Haf 2020

20 Ebrill - Aberfan

Ar yr 21ain o Hydref 1966, fe lithrodd gwastraff o domen lo rhif 7 Glofa Ynysowen i lawr y mynydd a llyncu'r ysgol gynradd leol ynghyd â fferm ac ugain o dai cyfagos.

Digwyddodd y drychineb ar fore Gwener, yn union ar ôl i wasanaeth dyddiol Ysgol Pantglas orffen a’r plant newydd ddechrau ar eu gwaith. Clywyd sŵn taranllyd wrth i filoedd o dunelli o lo slyri du deithio’n gyflym tuag at yr ysgol.

Ymhen dim, roedd y plant a'r oedolion yn gaeth o dan y mwd a'r slyri a lenwodd yr ystafelloedd dosbarth.

Cyrhaeddodd achubwyr o'r cymoedd cyfagos yn gyflym, gan ddechrau cloddio yn y gobaith o dynnu’r plant ac athrawon allan o'r ysgol a oedd, erbyn hyn, wedi ei chladdu yn y slyri. Cloddiodd y dynion yn wyllt gyda'u dwylo wrth iddynt glywed sŵn y plant yn crio.

Brysiodd glowyr eraill o byllau glo ardal Merthyr Tudful i ymuno yn yr ymgais i achub y plant. Gweithiodd pawb gyda'i gilydd i dwnelu i mewn i rannau gwahanol o’r ysgol.

Darganfuwyd rhai plant yn fyw yn y cyfnod yn syth ar ôl y drychineb ac roedd llawer o ambiwlansys wedi cyrraedd yno i'w trin. Ond, ar ôl 11 gloch y bore, ni ddaethant o hyd i unrhyw un arall yn fyw. Aeth popeth yn dawel.

Bu farw 144 o bobl yn y drychineb.


Sut gallwn gofio y rhai bu farw yn Aberfan?

27 Ebrill - Canlyniadau Aberfan

Ar ôl y drychineb, ceisiodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol ddweud nad oedd ganddynt unrhyw beth i wneud â’r digwyddiad. Fodd bynnag, roedd pobl y pentref eisoes wedi codi pryderon ynglŷn â diogelwch y tomenni hyn. Canlyniad y tribiwnlys oedd condemnio'r Bwrdd Glo am ei fethiant i weithredu ar y pryderon a godwyd ynglŷn â diogelwch y tomenni. Cafodd y llywodraeth ei beirniadu hefyd am beidio â gweithredu ar y wybodaeth oedd ganddynt. Fodd bynnag, ni chafodd unrhyw un ei erlyn na'i ddirwyo ar ôl y drychineb.

Cafodd ymgyrch i gael gwared ar y tomenni cyfagos yn Aberfan ychydig o gefnogaeth. Teimlai bobl Aberfan nad oedd y llywodraeth yn eu cefnogi ac fe adawon nhw domen o slyri ar fwrdd yn y Swyddfa Gymreig, fel protest.

Ar ôl trychineb Aberfan, fe wnaeth y diwydiant glo wella diogelwch y pyllau a‘r tomenni. Fodd bynnag, fe wnaeth 116 o blant a 28 oedolyn golli eu bywyd cyn i’r gwelliannau hyn gael eu cwblhau.


Sut gellir sichrau nad oes trychineb tebyg yn digwydd eto?

4 Mai - Capel Celyn

Beth ddigwyddodd yng Nghapel Celyn?

Roedd cenedlaethau o deuluoedd wedi byw mewn pentref bach o’r enw Capel Celyn, yng Nghwm Tryweryn yng Ngogledd Cymru ers blynyddoedd lawer. Roedd hi’n gwm hyfryd a thawel gydag ysgol, swyddfa bost, capel, mynwent, ffermdai a bythynnod. Roedd pawb yn adnabod ei gilydd yno ac roedd yn bentref bach Cymreigaidd a chyfeillgar.

Ym 1955 penderfynodd aelodau Cyngor Dinas Lerpwl eu bod am foddi Tryweryn er mwyn cyflenwi dŵr i’w dinas. Ysgydwodd hyn Cymru gyfan heb sôn am drigolion Cwm Tryweryn. Protestiodd y bobl yn ffyrnig am dros i 10 mlynedd. Pleidleisiodd 35 allan o 36 Aelod Seneddol yn erbyn boddi’r cwm (ni phleidleisiodd un aelod). Teithiodd cannoedd i brotestio yn Lerpwl.

Ond er gwaethaf y protestio, penderfynwyd ddechrau dinistro pentref bach Capel Celyn ac adeiladu argae. Roedd y teuluoedd yn llawn tristwch. Cerddai blant i’r ysgol fechan gan fynd heibio peiriannau mawr yn dymchwel cartrefi a sŵn coed yn sgrechian wrth gael eu llifio i lawr. Eisteddai’r plant yn yr ysgol wrth i’r desgiau grynu gyda sŵn drilio’r peiriannau.

Ar eu diwrnod olaf yn yr ysgol roedd nifer o newyddiadurwyr yn tynnu lluniau’r plant yn gadael yr ysgol am y tro olaf.

11 Mai

Pam oedd y Cymry'n anhapus?

Ar Fedi 22ain, 1962 ymdrechodd David Pritchard a David Walters o Gwent i ddinistrio peiriannau ar y safle er mwyn stopio’r gwaith. Ond fe’u harestiwyd a chawsant ddirwy o £50.

Yn 1963 carcharwyd Emyr Llywelyn Jones, Owain Williams a John Albert Jones am 12 mis oherwydd iddynt ffrwydro’r argae gan achosi difrod mawr. Collodd 70 o bobl eu cartrefi. Gwagiodd y cwm, gorffennwyd adeiladu’r argae ac yn 1965 daeth y dŵr i fewn a boddwyd y cwm. Roedd pobl Cymru’n lloerig ond eto yn drist iawn o weld 800 acer yn mynd o dan ddŵr er mwyn cyflenwi Lerpwl gyda dŵr.

18 Mai

Ein gwlad, ein mynyddoedd. Pam ei fod yn bwysig dysgu am ddirwedd ein gwlad?

Mynyddoedd Cymru

Mae Cymru’n enwog am y mynyddoedd hardd a luniwyd tua 10,000 o flynyddoedd yn ôl yn Oes yr Iâ. Mae pobl Cymru, mynyddywr, arlunwyr ac athletwyr Olympaidd yn eu mwynhau ac yn rhyfeddu arnynt.

Eryri

Lleolir mynyddoedd Eryri yng Ngogledd Cymru. Yma ceir mynydd uchaf Cymru, sef yr Wyddfa sy’n 1085 metr o uchder. Ceir 6 llwybr swyddogol sy’n 8 milltir o hyd i gyrraedd y copa. Gellir hefyd cyrraedd y copa ar drên bach yr Wyddfa. Mae Caffi Hafan ar y copa sy’n agored rhwng y Gwanwyn a’r Hydref.

Ceir mynyddoedd enfawr eraill yn Eryri hefyd. Mae copa Tryfan yn 918 metr. Mae Cadair Idris yn 893 metr ac yn edrych dros Afon Mawddach. Mae’r Eryri yn enwog hefyd am rhaeadrau, dyffrynoedd a llynnoedd godidog. Mae llyn fwyaf naturiol Cymru sef Llyn Tegid a Rhaeadr fwyaf Cymru, sef Rhaeadr Pistyll yma hefyd. Mae amryw o chwareli llechi ar fynyddoedd Eryri. Ar un tro allforwyd llechi o Ogledd Cymru i bedwar ban o’r byd.

1 Mehefin

Beth ydych wedi dysgu am fynyddoedd Cambria?

Lleolir yng Nghanolbarth Cymru, mae’n ymestyn o fynyddoedd Pumlumo sy’n 752 metr ger Machynlleth i fynydd Mallaen sy’n 462 metr ger Llanymddyfri. Mae Afon Hafren ac Afon Gwy yn tarddu o fynyddoedd Cambria. Yma hefyd mae cronfeydd dŵr hyfryd Cwm Elan. Ceir milltiroedd o fywyd gwyllt sy’n gynefin i dylluanod o bob math gan gynnwys adar ysglyfaethus. Copa Plynlimon, sy’n 752 metr yw’r uchaf, yr ail yw mynydd Pen Pumlumon Arwystli sy’n 741 metr o uchder. Mae’r ardal yn enwog yn ryngwladol am ffosiliau trilobit.

8 Mehefin -

Beth ydych wedi dysgu am y Bannau Brycheiniog?

Lleolir yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn Ne Cymru. Yma ceir rhai o’r mynyddoedd uchaf ac enwocaf ym Mhrydain a daw miloedd o bobl i’w cerdded yn flynyddol. Gellir cerdded am filltiroedd heb weld yr un enaid byw.

Ceir yma chwe prif gopa, sef

  • Corn Du (873 metr)

  • Pen y Fan (886metr)

  • Cribyn (795 metr)

  • Fan y Big (719 metr)

  • Bwlch y Ddwyallt (754 metr)

  • Waun Rydd (769 metr)

15 Mehefin - Peryglon Ysmygu

Pam mae pobl yn ysmygu heddiw?

Mae miliynau o bobl yn y Deyrnas Unedig yn ysmygu. Er hyn, mae ysmygu yn beryglus i’n hiechyd ac yn gostus iawn hefyd. Dyna pam bod llawer o bobl yn ceisio rhoi’r gorau i ysmygu.

Faint Mae Sigarennau’n Costio? Mae person sy’n ysmygu 20 sigarét y dydd yn gwario bron £50 bob wythnos ar sigarennau. Mewn blwyddyn gall hyn fod yn £2000.

Sut Ellid Gwario’r Arian Yma Mewn Ffordd Wahanol? Gwyliau, hamddena, dyddiau allan neu bethau eraill cyffrous! Mae ysmygu hefyd yn gostus i’r wlad oherwydd y gofal meddygol sydd ei angen ar y bobl sy’n sâl o ganlyniad i ysmygu.

Sut Mae Ysmygu’n Beryglus i Iechyd? Gall y cemegau mewn sigarennau achosi pob math o anawsterau iechyd. Gall achosi peswch, anawsterau anadlu ac afiechydon sydd llawer mwy difrifol, megis cancr.

Sut Mae Nicotin Yn Effeithio ar y Corff? Mae nicotin yn gaethiwus. Dyna pam bod pobl yn cael trafferth rhoi’r gorau i ysmygu. Mae nicotin yn effeithio ar yr ymennydd. Pan fydd person yn ysmygu, mae celloedd yr ymennydd yn anfon negeseuon i rannau eraill o’r corff i wneud i berson ymlacio. Pan fydd y teimlad yma o ymlacio’n cilio, mae pobl sy’n ysmygu’n teimlo eu bod angen sigarét arall.

22 Mehefin - Sut Gall Rhywun Roi’r Gorau i Ysmygu?

Mae’n anodd iawn rhoi’r gorau i ysmygu ond mae llawer iawn o gymorth i’w gael. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn cynnig llawer o gymorth a chefnogaeth. Weithiau, bydd pobl yn defnyddio plastr nicotin fel eu bod yn gallu dod i arfer yn raddol hefo cael llai o nicotin yn eu corff. O fewn 1-9 mis o roi’r gorau i ysmygu, bydd eu hysgyfaint yn dechrau gwella.

Ystadegau

  • Mae 1 o bob 5 oedolyn yn y DU yn ysmygu.

  • Mae 20% o ddynion yn ysmygu o’i gymharu â 17% o ferched.

  • Mae oddeutu 9.6 miliwn o oedolion yn ysmygu yn y DU.

  • Mae’r nifer o bobl sy’n ysmygu wedi haneru ers 1974.

29 Mehefin - Sut gallwch edrych ar ol eich hunain? Pa un sydd fwyaf pwysig a pham?

  • Gofalu am ein glendid personol

  • Siarad gydag eraill am sut yr ydym yn teimlo

  • Ymarfer y corff

  • Bwyta deiet cytbwys

  • Meddwl am yr hyn sydd angen i ni wisgo

  • Gorffwys a chysgu digon

6 Gorffennaf - Dywedwch rhwbeth positif am eich hunain

Ysgrifennwch hyn yn eich llawlyfrau.

13 Gorffennaf - Y Brodyr Wright

Sut gallwn ddilyn esiampl y Brodyr Wright?


Brodyr Wright