Hil-laddiad

Beth yw hil-laddiad?

Dydy hil-laddiad byth yn digwydd dros nos. Ym mhob achos, mae yna gyfres o amgylchiadau sy'n digwydd neu sy'n cael eu hachosi gan bobl er mwyn creu'r hinsawdd ar gyfer hil-laddiad.

Hil-laddiad = Genocide

7 Ionawr

Yr Holocaust 1941-45

Rhwng 1941 a 1945, ceisiodd y Natsïaid ddifa pob Iddew yn Ewrop. Yr Holocost yw'r enw ar yr ymgais systematig a threfnus hon a oedd wedi'i chynllun i lofruddio Iddewon Ewrop.

O'r adeg y daethon nhw i rym yn 1933m defnyddiodd y Natsïaid bropaganda, erledigaeth a deddfwriaeth i wadu hawliau dynol a sifil Iddewon. Fe ddefnyddion nhw ganrifoedd o wrth-semitiaeth fel sail i hyn i gyd. Erbyn 1941 roedd Iddewon wedi cael eu crynhoi a'u gorfodi i fyw mewn getos gorlawn. Fel rhan o'r 'Ateb Terfynol', caewyd y getos ac anfonwyd yr Iddewon i wersylloedd, megis Auschwitz-Birkenau. Mewn canolfannau lladd, anfonwyd y rhai a oedd yn cael eu hystyried yn rhy hen neu'n rhy wan i weithio - gan gynnwys menywod a phlant - yn syth i'r siambrau nwy. Cafodd rhai a ystyriwyd yn ddigon cryf eu hanfon i weithio o dan amodau erchyll.

Erbyn diwedd yr Holocost, roedd chwe miliwn o ddynion, menywod a phlant Iddewig wedi'u lladd mewn getos, drwy gael eu saethu mewn grwpiau mawr, mewn gwersylloedd crynhoi ac mewn gwersylloedd difodi.

14 Ionawr

Erledigaeth y Natsiaid 1933-1945

Fe wnaeth y Natsiaid erlid pobl roedden nhw'n eu gweld fel bygythiad i'w delfryd o Almaenwyr o 'dras Ariaidd pur'/



21 Ionawr

Ellie Wiesel

Fel bachgen, llwyddodd Elie Wiesel i oroesi gwersylloedd Auschwitz a Buchenwald. Fel oedolyn, ymrwymodd i goffáu’r Holocost a sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu. Roedd yn awdur o fri ac yn enillydd Gwobr Heddwch Nobel. Bu farw ar 2 Gorffennaf 2016, yn 87 oed.

‘The survivors had every reason to despair of society; they did not. They opted to work for humankind, not against it.’

Darn Darllen: Pwy oedd Elie Wiesel?

28 Ionawr: Diwrnod Cofio'r Holocaust (27 Ionawr 2019)

Cofio dewrder Henry Wermuth

Ganwyd Henry Wermuth ym 1923 yn yr Almaen. Roedd yn byw gyda’i rieni, Bernhard ac Ida, a’i chwaer, Hanna. Roedd Henry a’i deulu’n Iddewon. Roedd Henry’n Almaenwr balch. Ym 1933, daeth y blaid Natsïaidd i rym yn yr Almaen, dan arweiniad dyn o’r enw Adolf Hitler. Byddai milwyr yn gorymdeithio ar hyd y strydoedd yn canu am lofruddio Iddewon. Doedd Henry ddim yn gallu credu bod ei wlad wedi pleidleisio i’r bobl hyn. Un noson, cafodd teulu Henry eu dihuno gan y Natsiaid. Fe gawson nhw eu gorfodi i adael eu cartref a’u hanfon ar y trên yn ôl i Wlad Pwyl, o lle’r oedd rhieni Henry yn hanu. Ym 1939 dechreuodd y Natsïaid yr Ail Ryfel Byd drwy ymosod ar Wlad Pwyl. Fe orfodon nhw Iddewon i wisgo band gwyn gyda Seren Dafydd las arni ar eu braich a chlirio eira ac iâ oddi ar y strydoedd. Clywodd y teulu sôn fod y Natsïaid yn lladd Iddewon.

Defnyddiodd Henry gardbord i wneud cuddfan fach ar gyfer Ida a Hanna mewn ystafell fach fach yn y llofft. Cafodd Henry a Bernhard eu gorfodi i weithio i’r Natsïaid. Roedden nhw’n poeni y byddai’r milwyr yn dod ac yn mynd â’r Iddewon i gyd. Wrth iddyn nhw adael, dywedodd Henry wrth ei fam am addo mynd i’r man cuddio. Wythnos yn ddiweddarach, dychwelodd Henry a Bernhard adref a dod o hyd i ffotograffau o Ida a Hanna yn y man cuddio. Ar gefn pob llun roedd neges ffarwel.

Roedd y Natsïaid wedi mynd ag Ida a Hanna, ynghyd â holl Iddewon y dref, i wersyll lladd, lle cawsant eu llofruddio. Ym 1942, clywodd Henry sïon y byddai Hitler yn teithio ar drên yn agos i’r man lle’r oedd yn gweithio. Er gwaetha’r perygl enbyd, roedd Henry’n teimlo bod rhaid iddo wneud rhywbeth. Aeth Henry drwy’r goedwig at y rheilffordd, gan osgoi’r gardiau. Defnyddiodd gerrig a darnau mawr o bren i rwystro’r lein. Drannoeth, arhosodd Henry am sŵn y trên yn taro’r rhwystr ond yn ofer. Ddaeth e byth i wybod beth ddigwyddodd. Yn fuan wedyn, cafodd Henry a Bernhard eu hanfon i sawl un o wersylloedd y Natsïaid, gan gyrraedd Auschwitz-Birkenau yn y diwedd. Roedd hi’n anodd aros yn fyw yn Auschwitz. Roedden nhw’n cael darnau bach iawn o fara a chawl dyfrllyd. Roedd pobl yn marw o newyn.

Ym mis Ionawr 1945, aeth y milwyr â’r carcharorion i gyd allan o Auschwitz. Cafodd Henry a Bernhard eu symud o un gwersyll i’r llall. Un bore, fe wnaeth y dyn a oedd yn gyfrifol am eu grŵp daro Bernhard ar ei ben a bu farw. Digwyddodd hyn 11 diwrnod cyn i’r rhyfel ddod i ben. Fe laddodd y Natsïaid Bernhard, Hanna ac Ida, fel rhan o’r Holocost. Erbyn diwedd y rhyfel, roedden nhw wedi lladd chwe miliwn o Iddewon. Pan gafodd Henry ei achub o ddwylo’r Natsïaid yn y pen draw, roedd e’n sâl iawn. Roedd rhaid iddo ddechrau ei fywyd o’r newydd heb ffrindiau na theulu. Daeth Henry i Brydain. Daeth yn ddyn busnes llwyddiannus, priodi, a chael teulu. Ym 1995, cyflwynwyd medal iddo am ei ymgais i ladd Hitler. Mae wedi ysgrifennu llyfr am ei fywyd.

4 Chwefror

Hil-laddiad yng Nghambodia 1975-1979

Pan gipiodd Pol Pot rym yn y wlad ym 1975, fe wnaethon nhw ddechrau rhaglen 'Blwyddyn Sero'. Y bwriad oedd ail-gychwyn y wlad gan gynnwys trigolion y wlad.

Fe wnaethant ddechrau wagio'r trefi a'r dinasoedd, gan orfodi dynion, merched a phlant cefn gwlad i weithio ar ffermydd. Cafodd pobl sâl, pobl anabl, yr hen a'r ifanc iawn eu gorfodi i adael, dim ots beth oedd eu cyflwr corfforol. Fe wnaethon nhw dargedu grwpiau lleiafrifoedd ethnig, yn cynnwys pobl ethnig o Tsieina, Fietnam a Gwlad Thai.

Cafodd crefydd ei wahardd gan y gyfundrefn newydd a chafodd hanner y boblogaeth Fwslimaidd a Christnogol eu llofruddio.

Cafodd pobl gydag addysg eu llofruddio hefyd fel meddygon, cyfreithwyr ac athrawon. Cafodd hyd yn oed pobl oedd yn gwisgo sbectol eu llofruddio.

Amcangyfrifir bod dwy filiwn a mwy o bobl wedi marw.

Darn darllen: Stori Arn Chorn-Pond

11 Chwefror

Hil-laddiad yn Rwanda 1994

Mewn 100 diwrnod ym 1994, llofruddiwyd tua miliwn o Twtsis a Hwtws yn Rwanda. Digwyddodd yr hil-laddiad ar ol blynyddoedd o anghydfod rhwng y Hwtws a Twtsis/ Ar 6 Ebrill 1994, cafwyd awyren roedd Arlywydd Rwanda yn teithio arni ei saethu lawr. Cyhuddodd arweinwyr Hwtws y Twtsis o ladd yr Arlywydd a dywedodd y Hwtws dros y radio ei bod hi'n ddyletswydd arnynt i gael gwared ar y Twtsis.


Cyflawnwyd y hil-laddiad yn bennaf gyda sgwadiau lladd. Roeddent yn crynhhoi'r diddefwyr a sicrhau lleoliad addas i'w lladd.


Yn aml iawn lladdwyd menywod a phlant mewn ysgolion neu eglwysi gan deulu neu ffrindiau - ond achos eu bod yn perthyn i llwyth (tribe) gwahanol.


Darn darllen: Stori Eric Eugene

18 Chwefror

Hil-laddiad ym Mosnia