Disgyblion Hapus Bro Edern

Blog mis Ebrill

Mae arholiadau ar y gweill, tasgau asesu i'w orffen a llwyth gwaith cartref yn cynyddu.

Dyma 'top tips' Cyngor Ysgol Bro Edern sut i gadw'n hapus ac yn iach!

Athrawon cofiwch bod angen i chi ymlacio hefyd!

Athrawon hapus = Disgyblion hapus!

Darllenwch lyfr! Oes, mae gennych lwyth o waith ond sicrhewch eich bod yn ymlacio hefyd. Mae darllen llyfr da, bendant yn eich cynorthwyo i YMLACIO!!!! Dyma hoff lyfrau aelodau'r cyngor...

'Fangirl'

gan Rainbow Rowell

'Hunger Games'

gan Suzanne Collins

'Speak' gan Laurie Halse Anderson

Podcast y mis: Gwrandewch ar podcast Lauren a Ryan (i ddod)

Bwyd y mis:

BANANA! Brenin y ffrwythau!

  1. Llawn potasiwm (467mg): lleihau pwysau gwaed, cryfhau'r galon!
  2. Gofalu am y stumog - 'sneb eisiau bola tost ar ddiwrnod arholiad!
  3. Llawn egni - mae athletwyr yn bwyta ein ffrind, y banana, er mwyn rhyddhau egni.
  4. Gall eich cynorthwyo i gysgu a rheoli tymer. Mae noson dda o gwsg yn allweddol er mwyn canolbwyntio a llwyddo!

Ymarfer Corff

Dyma 3 ymarfer gallwch wneud yn eich ystafell wely er mwyn cadw'n heini a iach!

Diolch Skye, Paige a Miss Price #joio (i ddod)

Siaradwch..!

Cofiwch fod yna lwyth o bobl ar gael i'ch helpu - ffrindiau, teulu ac athrawon. Cofiwch fod yna nifer o wefannau gall eich cynorthwyo hefyd...

https://youngminds.org.uk/find-help/looking-after-yourself/asking-for-help/

https://www.meiccymru.org/get-help/

https://www.mind.org.uk/information-support/helplines/

Gallwch hefyd drefnu sgwrs gyda chwnselydd yr ysgol - mae cardiau bach i'w lenwi wrth ymyl y swyddfa.

Caneuon Hapus

#joiomasdraw