Staff

Sian Owen

Arweinydd / Leader


Nia Jones

Cymhorthydd

Louise Edwards

Cymhorthydd

Elin Jones

Dwylo ychwanegol/ 

Staff wrth gefn

Bio: Sian Owen

Fy enw i yw Sian Owen, fi yw arweinydd Cylch Meithrin Tremadog. Merch leol ydw i a gafodd fy magu yn Nhremadog. Dechreuais yn y Cylch yn Ionawr 2016 yn gwneud 16 awr tra'n gwneud fy nghymhwyster lefel 3 gyda Cam wrth Gam. Gorffennais fy nghymhwyster yn 2017 a chefais fy nghyflogi gan y Cylch fel cynorthwyydd 1:1. O fis Medi 2018 cefais y rôl o uwch gynorthwyydd, a roddodd y cyfle i mi wneud fy nghymhwyster lefel 5, gorffennais fy nghymhwyster lefel 5 yn Ebrill 2019. Medi 2019 cefais y rôl arweinydd y Cylch ynghyd â dau aelod newydd o staff. Rwyf wedyn wedi mynd ymlaen i wneud cwrs rheoli lefel 5 ac mae gennyf y cymhwyster llawn. Rwyf ar hyn o bryd yn cwblhau cwrs arweinydd ysgol goedwig lefel 3, byddaf yn gwbl gymwys erbyn mis Ebrill 2024. Rwyf wrth fy modd bod yn yr awyr agored ac yn hoffi meddwl y tu allan i'r bocs, rwy'n meddwl bod hyn yn gweithio'n dda gyda'r lleoliad ac mae'n sicrhau bod y lleoliad yn aros yn gyfoes ac yn sicrhau bod y plant i gyd yn cael bob math o gyfleoedd. Rydym ni fel tîm yn gweithio'n wych gyda'n gilydd ac mae gennym ni i gyd rywbeth gwahanol i'w gynnig i'r lleoliad.

Yn fy amser rhydd dwi'n hoffi mynd am dro, mynd i'r traeth, cael picnic a mynd i wersylla. Yn y tywydd cynnes dwi'n hoffi padl-fyrddio, reidio beic a choginio yn yr awyr agored!


--

My name is Sian Owen, I am the leader of Cylch Meithrin Tremadog. I am a local girl who grew up in Tremadog. I started in the Cylch in January 2016 doing 16 hours while doing my level 3 qualification with Cam wrth gam. I finished my qualification in 2017 and was employed by the Cylch as a 1:1 assistant. From September 2018 I was given the role of senior assistant, which gave me the opportunity to do my level 5 qualification, I finished my level 5 qualification in April 2019. In September 2019 I was given the role of leader of the Cylch together with two new members of staff. I have then gone on to do a level 5 management course and have the full qualification. I am currently completing a level 3 forest school leader course, I will be fully qualified by April 2024. I love being outdoors and like to think outside the box, I think this works well with the setting and ensures that the setting stays up to date and ensures that all the children have all kinds of opportunities. We as a team work great together and we all have something different to offer the setting.

In my free time I like to go for a walk, go to the beach, have a picnic and go camping. In the warm weather I like to paddle board, ride a bike and cook outdoors!


Bio: Nia Jones

Nia dwi, rwyf yn byw yn Porthmadog gyda fy ngwr a dau o blant. Rydw i’n mwynhau cadw’n heini  a chymdeithasu yn fy amser rhydd .Rwyf wrth fy modd yn gweithio gyda plant ac wedi bod yn gweithio yn y maes gofal plant ers bron i 20 mlynedd bellach.

 

Mi es i goleg Meirion Dwyfor yn Pwllheli a chwbwlau cwrs BTEC Diploma yn y blynyddoedd cynnar. Ers gorffen yn y coleg mi es i syth i weithio mewn sawl lleoliad gofal plant ond wedi treulio 11 mlynadd mewn meithrinfa leol. Pan oeddwn yn is-reoli yn y feithrinfa mi wnes i gwbwlhau cwrs Lefel 5 diploma mewn arweinyddiaeth mewn gofal, dysgu a datblygiad plant.  Unwaith cefais teulu fy hun, mi es ati ac agor busnes fy hun fel gwarchodwraig plant yn fy nghartref. Ar ol bod ar gyfnod mamolaeth am yr ail dro cefais gynnig swydd mewn cylch meithrin rhan amser. Roedd oraiu gweithio y cylch yn gweithio yn well i mi a nheulu, felly mi es i weithio llawn amser fel cymhorthydd i’r cylch, cyn ymgeisio am swydd yma nes i adra yn y Gorlan Fach.

 

Dwi wrth fy modd yma yng nghwmni y plant ac yn mwynhau cyd-weithio gyda gweithwyr a ffrindiau mor arbennig. Mae pob diwrnod yn wahanol yma ac mae’n bleser cael gweld y plant yn mhwynhau a datblygu sgiliau yma yn ein cwmni.

--

I'm Nia, I live in Porthmadog with my husband and two children, in my free time I enjoy attending fitness classes and spending time with family and friends. I love working with chil dren and have been working in childcare for almost 20 years now.

 

I went to coleg Meirion Dwyfor in Pwllheli and completed the BTEC Diploma course in the early years. Since finishing college, I went straight into work in several childcare settings but spent 11 years in a local nursery. When I was given the supervisor role I completed a Level 5 diploma course in leadership in child care, learning and development. After starting my own family, I went ahead and opened my own business as a childminder in my home. After being on maternity leave for the second time I was offered a part-time job in a local Cylch . Working in the cylch worked better for me and my family, so I went to work full-time as an assistant for the cylch, before applying for a job here in the Gorlan Fach.

 

I love being here in the company of the children and enjoy working with such special employees and friends. Every day is different here and it is a pleasure to see the children enjoying themselves and developing skills here in our company.




Bio: Louise Edwards

Helo Anti Louise ydw i neu fel mae llawer o blantos y Gorlan yn dweud Anti Lou,

Rwy’n byw yn Penrhyndeudraeth gyda fy ngwr a tri o blant. Yn fy amser fy hyn rwy’n hoffi treulio amser hefo fy nheulu a ffrindiau drwy fynd amdro, ffermio a cael llwyth o chwerth.

Yn 2015 mi wnes i gwrs cam wrth gam lefel 3 ac arol pasio mi roeddwn yn lwcus iawn o gael cynnig swydd mewn cylch, ar Ôl hyny cefais swydd mewn ysgol gynradd, lle roeddwn yn cael y cyfle i weithio gyda plant ADY. Yn 2019 cefais swydd cymhorthydd yn Cylch Meithrin Tremadog.

Rwy’n berson amyneddgar ac yn cynnal perthynas dda efo plant ac oedolion. Dwi bob tro y n barod am unrhyw her! Mae gen i lawer o brofiad yn gweithio gyda plant o bob oedran a dwi bob tro yn barod  am sgwrs. Dwi yn deall pwysigrwydd modelu iaith da.

Dwi’n lwcus iawn o gael dweud fy mod yn mwynhau dod i fy ngwaith, ac yn edrych ymlaen am ei’n antur gwahanol bob dydd! Nid oes un diwrnod fel ei gilydd yn y gwaith hwn ac rwyf wrth fy modd!

 

 -

 

Hi I'm Auntie Louise or as many Gorlan children say Auntie Lou,

I live in Penrhyndeudraeth with my husband and three children. In my free time I like to spend time with my family and friends by going for walks, farming and getting plenty of laughs.

In 2015 I completed a level 3 Cam wrth Gam course and after passing I was very lucky to be offered a job in a cylch, after a while I got a job in a primary school, where I had the opportunity to work with ALN children. In 2019 I started at Cylch Meithrin Tremadog.

I am a patient person and maintain a good relationship with children and adults. I have a lot of experience working with children of all ages, and I am ready for any challenge. I am very open to conversation, and understand the importance of modeling good language.

I am very lucky to be able to say that I enjoy coming to work, and look forward for different adventure every day. No day is the same in this job and I love it!

Committee

Meinir Raine  

Person cofrestredig a Cadeirydd 

Lindsay Ireland-Roberts

Person cofrestredig a Trysorydd 

Nicola Smith

Ysgrifenyddes 

Amanda Cope

Îs ysgrifenyddes. 

Mae croeso i chi gysylltu efo'r pwyllgor dryw ebost os oes ganddo chi unhryw gwestiynau neu angen gwybodaeth am ein gwasaneth ar Gorlanfach@hotmail.com
-

you can contact any of the committee members through emailing  Gorlanfach@hotmail.comif you have any queries.