Croeso i wefan

Cylch Meithrin Y Gorlan Fach

Welcomes you to their website!

Facebook

Rhif cofrestru / Registration Number: W1400003233                                        Rhif Elusen / Charity Number: 1194844


Cyflwyniad / Introduction

Mae Cylch Meithrin Y Gorlan Fach wedi ei leoli ar safle’r ysgol ac yn gallu darparu gofal i 16 o blant bob dydd.Rydym ar agor 8:45yb- 3:30yh Dydd Llun i Ddydd Gwener yn ystod tymor Ysgol yn unig. Mae’r Cylch yn manteisio ar y cyfle i gydweithio gyda’r ysgol er mwyn cael trosglwyddiad esmwyth i’r disgyblion o’r Cylch i’r dosbarth Meithrin. Rydym yn cynnig sesiynau Cylch ac addysg yn ystod y bore ac yn cynnig gofal gwarchod hyd at 3.30yh. Rydym yn derbyn plant yn 2 oed hyd at eu bod yn mynd i’r dosbarth meithrin.


Rydym yn ran o’r cynllyn 12.5 awr am ddim i blant 2 oed, i wirio eich bod yn gymwys rhowch eich côd post yn y ddolen isod :

Rydym hefyd yn rhan o’r cynllyn gofal 30 awr i blant 3 oed gweler mwy o wybodaeth isod

Mae’r cylch yn cael ei redeg gan bwyllgor sy’n cynnwys rhieni a gwirfoddolwyr. Bydd digwyddiadau codi arian yn digwydd yn rheolaidd er mwyn ein cefnogi a helpu tuag at offer a deunyddiau i’r cylch.


Mae modd dod a pecyn bwyd neu mwynhau cinio cynnes gan yr Ysgol am £2.50. Mae’r plant yn cael dod a byr bryd neu ffrwyth gyda nhw ac mi fydden ni yn Cynnig llefrith am ddim i bob plentyn.


Rydym hefyd yn cynnig sesiynau coedwig dau fore yr wythnos yn o gystal a llawer o brofiadau tu allan i’r dosbarth ac ymweld ar gymuned megis sesiwn nofio, ymweld a’r llyfrgell leol a plannu a tyfu bwydydd yn ein plot garddio yn Penmorfa.


Mae tair aelod o staff yn gweithio llawn amser yma ac yn dîm da sy’n llawn egni ac yn sicrhau gofal arbennig a hwyl bob dydd.

 

Anti Sian – Arweinydd

Anti Louise – Cymhorthydd

Anti Nia - Cymhorthydd

Introduction [English]


Cylch Meithrin Tremadog is located on the school site and can provide care for 16 children every day. We are open 8:45am - 3:30pm Monday to Friday during the School term only. The Cylch takes advantage of the opportunity to collaborate with the school in order to have a smooth transition for the pupils from the Cylch to the nursery class. We offer Cylch sessions and education during the morning and offer a wrap around service until 3.30pm. We accept children from the age of 2.

We are part of the 12.5 hour free scheme for 2 year olds, to check you are eligible enter your postcode in the link below:



We are also part of the 30 hour care scheme for 3 year olds see more information below:

The cylch is run by a committee made up of parents and volunteers. Fundraising events will take place regularly in order to support us and help towards equipment and materials for the cylch.


You can bring a packed lunch or enjoy a warm lunch from the School for £2.50. The children are allowed to bring a snack or fruit with them and we would offer free milk to all children.


We also offer forest sessions two mornings a week as well as many experiences outside the classroom and community visits such as a swimming session, visiting the local library and planting and growing food in our gardening plot in Penmorfa.


Three members of staff work full time here and are full of energy and ensure special care and fun every day.


Anti Sian – Leader

Anti Louise – Assistant

Anti Nia - Assistant


I gofrestru eich Plentyn, cysylltwch a ni yn defnyddio'r linc isod / To register your child with us, contact us by clicking the link below!

Oriau Agor / Opening Times

Dydd Llun - Dydd Gwener

08:45-10:45 - Addysg - £8

8:30-11:00 (gofal plant 2 oed yn unig)

11:00-12:45 - £8

11:00-15:30 - £18

8:45 - 15:30 - £26

Monday - Friday

08:45-10:45 - Education - £8

8:30-11:00 ( 2 year old childcare only)

11:00-12:45 - £8

11:00-15:30 - £18

8:45 - 15:30 - £26

Ble rydym ni? 

Where are we?


Cylch Meithrin Tremadog

Y Gorlan Fach

Tremadog

Gwynedd 

LL49 9RN

 

Atodiadau Defnyddiol / Useful Links