Rydym yn gymuned o gantorion brwdfrydig sy’n croesawu aelodau o bob gallu a chyrhaeddiad, o sopranos i faswyr.
Gyda blynyddoedd o brofiad o ganu gyda’i gilydd, mae gan y côr rhaglen egnïol ac eang. Chwiliwch ein gwefan a chysylltwch â ni i wybod mwy.
gyda Bridgend Male Choir
7pm @ Tabernacl
Ffurfiwyd Cor Tabernacl yn 1990, i fod yn gôr i gapel y Tabernacl, ond erbyn hyn mae’n cynnwys nifer o gantorion o’r gymuned ehangach sy’n frwd dros ganu corawl.
Mae gan y côr rhaglen eang o gerddoriaeth, sy’n cynnwys gweithiau corawl clasurol a chyfoes, caneuon sioeau cerdd, trefniannau caneuon gwerin a chaneuon cyfoes poblogaidd.
Cynhelir tair cyngerdd yn arferol dros y flwyddyn, gyda chyngerdd yr haf yn cynnwys un o’r prif weithiau corawl neu Offeren gyda cherddorfa.
Bu Matthew yn astudio cerdd ym Mhrifysgol Bryste gan arbenigo mewn perfformio a chyfansoddi. Ef yw arweinydd Côr y Tabernacl, Côr Meibion Llantrisant ac All Aloud, côr cymunedol. Gyda’r gallu i gyfansoddi cerddoriaeth, y mae nifer o'i gyfansoddiadau a threfniannau wedi eu perfformio mewn lleoliadau ar draws y DU.
Mae Ryan wed bod yn gweithio am dros 30 mlynedd fel cyfeilydd llawrhydd a chyfarwyddwr cerdd. Ef yw Cyfarwyddwr Cerdd Côr Meibion Penybont a chyfeilydd Côr Meibion Treorci, yn ogystal a chyfeilio i Gôr y Tabernacl. Mae'n perfformio’n aml gyda’r ensembl Ileisiol buddugol, Only Men Aloud.
Dewch i un o'n hymarferion (7pm nos Fawrth, yn ystod y tymor) yn Eglwys Tabernacl, Derwen Road, Bridgend
Neu e-bostiwch ni am ragor o wybodaeth:
cor.tabernacl@gmail.com