Yn ystod y tymor yma rydym wedi bod yn dysgu am lawer o bethau fel Martin Luther King Jr, Ras yr Ofod, Andy Warhol a llawer mwy. Rydym wedi mwynhau dysgu am yr holl bynciau gwahanol oherwydd rydym yn hoffi dysgu am bethau newydd ym mlwyddyn 6. Felly, dyma ein gwefan arbennig i ddathlu ein gwaith.
MWYNHEWCH!!!
1960- LEGO yn dod i Brydain.
1960- Seren cyntaf ar restr o enwogion Hollywood.
1961- Wal Berlin yn cael ei adeiladu.
1962- Spider-man yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn Amazing Fantasy 15.
1962- Nelson Mandela yn cael ei arestio.
1962- Andy Warhol yn arddangos Campbell's soup can.
1963- Martin Luther King Jr yn rhoi ei araith 'I have a dream'.
1963- Llofruddiwyd arlywydd America, John F. Kennedy.
1964- Y Beatles yn cymryd drosodd America.
1966- Lloegr yn ennill Cwpan y Byd
1968- Llofruddiwyd Martin Luther King Jr.
1969- Y gofodwyr Neil Armstrong yw'r dyn cyntaf i gerdded ar y lleuad.
Roedd y Ras Ofod yn gystadleuaeth rhwng yr Undeb Sofietaidd a'r Unol Daleithiau America i sicrhau'r cyntaf i allu teithio i'r gofod. Yr Undeb Sofietaidd gyrrodd y dyn cyntaf i'r gofod ar y 12fed o Ebrill, 1961 sef Yuri Gagarin. Hefyd, yr Undeb Sofietaidd gyrrodd y ddynes gyntaf i'r gofod ar y 16eg o Fehefin, 1963 sef Valentina Tereshkova. Ond yn 1969, yr Unol Daleithiau America cipiodd y camp gan yrru criw Apollo 11 i'r lleuad. Roedd y digwyddiad yma yn rhywbeth cyffrous a hanesyddol iawn. Roedd miliynau o bobl yn gwylio ar draws y byd.
Gwasgwch y botwm i wylio'r fideo.
Neil Armstrong oedd y gofodwr cyntaf i roi ei droed ar y lleuad.
Cafodd Neil Armstrong ei eni ar y 5ed o Awst, 1930 a bu farw ar 25ain o Awst, 2012.
Bu yn y gofod am y tro cyntaf ar Gemini 8 yn 1966. Neil Armstrong oedd y pennaeth ar Apollo 11 a laniodd ar y lleuad ar 20ain o Orffennaf, 1969. Treuliodd dwy awr a hanner ar wyneb y lleuad. Mae ei ddywediad yn rhan o hanes heddiw sef:
''One small step for man, one giant leap for mankind''
Cafodd Michael Collins ei eni ar y 31ain o Hydref, 1930.
Michael Collins oedd yn gyfrifol am hedfan yr Apollo 11 'Command Module' tra bod ei gyd-ofodwyr, Neil Armstrong a Edwin Aldrin yn glanio ar y lleuad.
Aeth Michael Collins i'r gofod dwywaith. Aeth ar ei daith gyntaf yn 1966 ar Gemini 10.
Cafodd Edwin 'Buzz' Aldrin ei eni ar yr 20fed o Ionawr, 1930.
Edwin 'Buzz' Aldrin oedd yr ail i gerdded ar y lleuad. Cerddodd ar wyneb y lleuad am ddwy awr a hanner gyda Neil Armstrong.
Aeth i'r lleuad 3 gwaith yn ei yrfa fel gofodwr.
Cafodd Martin Luther King (MLK) ei eni ar y 15ed o Ionawr ,1929 yn Atlanta, Georgia. Roedd gan MLK brawd a chwaer . Enw ei fam oedd Alberta Williams King ac enw ei dad oedd Martin Luther king Sr. MLK oedd CEO y symudiad hawliau sifil. Cynlluniodd MLK y "Montgomery Bus Boycott". Roedd y boicot wedi para am 380 diwrnod. Hefyd, ysgrifennodd MLK yr araith " I have a dream". Cafodd MLK ei lofruddio gan James Earl Ray ar 4ydd o Ebrill, 1968 tu allan i'w westy yn Memphis.
Yn 1964, perfformiodd MLK ei araith enwog "I have a dream". Yn yr araith, siaradodd am bethau roedd angen cael ei newid. Roedd MLK am i bawb cael eu trin yn gyfartal, beth bynnag eu cefndir neu lliw eu croen. Roedd MLK am i Alabama fod yn rhywle hapus. Roedd dros 250,000 o bobl yn gwylio'r araith. Roedd MLK yn ail-adrodd y dywediad 'I have a dream' yn ei araith. Nod mwyaf MLK oedd i gael cydraddoldeb.
Roedd 150,000 tunnell o lo wedi lladd 116 o blant a 28 oedolyn.
Dyddiad y trychineb: 21ain o Hydref, 1966.
Nifer o farwolaethau: 144
Lleoliad: Aberfan, De Cymru.
Dros gyfnod o 50 mlynedd, roedd gwastraff o faes glo wedi cael ei gasglu ar fynydd Merthyr.
Ysgol Pantglas Junior oedd yr ysgol a chafodd ei dinistrio.
Rydym yn cofio'r digwyddiad trist yma pob blwyddyn ar y 21ain o Hydref.
Ganwyd Muhammad Ali ar y 17eg o Ionawr 1942. Bu farw ar Fehefin y 3ydd 2016. Pan fu farw roedd yn 74 oed.
Cyn bocsiwr o'r Unol Daleithiau America oedd Muhammad Ali. Ei enw genedigol oedd Cassius Marcellus Clay Jr. Roedd yn bencampwr y byd tair gwaith.
Gorffennodd Portiwgal yn drydydd gan golli 2-1 i Loegr yn y rownd gyn-derfynol.
Cafodd y rownd derfynol ei chwarae rhwng Lloegr a Gorllewin yr Almaen. Erbyn diwedd y 90 munud, roedd y sgor yn 2-2. Ond yn yr amser ychwanegol sgoriodd Lloegr 2 gol gyda Geoff Hurst yn sgorio'r ddau. Mae'r digwyddiad yma yn hanesyddol yn Lloegr oherwydd dyma'r unig dro iddynt ennill Cwpan y Byd.
Ei enw llawn oedd John Fitzgerald Kennedy. J.F.K oedd 35ain llywydd yr USA. Cafodd ei eni yn Brooklyn ar y 29ain o Fai, 1917. Enwau ei rieni oedd Joseph Patrick Kennedy a Rose Elizabeth Kennedy. Roedd yn eithaf sal trwy gydol ei blentyndod. John F. Kennedy oedd ail blentyn ei rieni allan o naw o blant . Roedd gan frodyr a chwiorydd J.F.K swyddi bwysig hefyd. Yn yr ysgol, roedd J.F.K yn chwarae pêl fas gyda'i law dde. Enillodd John F. Kennedy y medalau canlynol am ei gyfnod yn yr Llynges: Medal Llynges a Marine Corps, Medal Purple Hearts, Medal American Defense Service, Medal American Campaign, Medal Asiatic-Pacific Campaign a Medal World War 2 Victory.
Cafodd Walter Elias Disney ei eni ar 5ed o Ragfyr 1901.
Bu farw Walter Elias Disney ar 15fed o Ragfyr 1966.
Roedd gan Walt Disney syniadau mawreddog ar gyfer parciau thema Florida i ddilyn ei barc Disneyland llwyddianus yn Anahem, California .
Mae 11 o barciau Disney o amgylch y byd erbyn hyn sydd yn dangos effaith Walt Disney.
Yn 1928, daeth Mickey Mouse yn weledol am y tro cyntaf gan Walt Disney. Cafodd y syniad o Mickey Mouse ei ysbrydoli gan lygoden roedd Walt Disney yn ei cadw fel anifail anwes.
Mae llawer o ffilmiau Disney erbyn hyn gan gynnwys 'The Lion King', 'Pocahontas', 'Pinocchio' a 'Dumbo'.
Dechreuodd ser Hollywood ar y 9fed o Chwefror, 1960 ond daeth y syniad o sêr Hollywood yn 1953. Y seren Hollywood gyntaf oedd Joanne Woodward. Mae yna mwy na 2,690 o sêr wedi cael ei gwobrwyo. Pobl enwog Hollywood megis Michael Jackson, Harrison Ford, Tom Cruise, Tom Hanks a Johnny Depp sydd wedi derbyn seren. Norman Lloyd yw seren hynaf Hollywood. Y seren ieuengaf yw Patty McCormack sydd yn 15 mlwydd oed. Yr Youtuber gyntaf i dderbyn seren yw Fabin. Y seren talaf yw Dwayne Johnson sydd yn 6 troedfedd a 5 modfedd.
Cafodd Andy warhol ei eni yn Pittsburgh Pennsylvania ar y 4ydd o Awst, 1928.
Ei hoff gelf bop oedd y tun cawl a llun Marilyn Monroe.
Mi sylweddolodd ei rieni yn fuan iawn fod ganddo dalent am arlunio.
Bu farw Andy Warhol ar yr 22ain o Chwefror, 1987.
Symudodd Andy Warhol i Efrog Newydd yn 1956.
Ei hoff beth i wneud oedd celf bop (pop art).
Roedd Andy Warhol yn creu ffilmiau hefyd. Un o'i ffilmiau oedd dyn yn cysgu am chwe awr.
Aeth Andy Warhol yn enwog iawn am ei gelf.
Aeth i goleg celf lle ddysgodd am ddarlunio a chynllunio ac yna datblygodd ei ffurf unigryw o arlunio.
Y 60au oedd y cyfnod 'ffasiwn i fenywod'. Yn y 60au cynnar y ffasiwn oedd gwisgo jins. Ond tuag at ddiwedd y degawd roedd ffrogiau lliwgar yn ffasiynol iawn.
Yn ystod y 60au, dechreuodd y cyfnod hipi. Roedd patrwm blodeuog yn boblogaidd iawn. Roedd y menywod yn hoff iawn o wisgo 'tie - die', jins a ffabrig lliwgar yn gyffredinol.
Dylunydd ffasiwn o etifeddiaeth Gymreig yw Mary Quant. Daeth yn enwog ac yn boblogaeth yn y 60au am ddylunio sgertiau bach. Yn 1963, Mary Quant oedd enillydd cyntaf y wobr 'gwisg y flwyddyn'. Ganwyd Mary Quant ar yr 11eg o Chwefror 1930. Roedd ei rhieni Jack a Mildread Quant yn dod o deuluoedd mwyngloddio. Fodd bynnag, roeddent wedi derbyn ysgoloriaethau i ysgol ramadeg ac roedd y ddau wedi ennill gradd ddosbarth cyntaf ym Mhrifysgol Caerdydd cyn iddynt symud i Lundain i weithio fel athrawon.
Wal Berlin oedd yr enw a rhoddodd ar y wal anferth a godwyd yn 1961 ym Merlin rhwng Gorllewin a Dwyrain Berlin i atal ffoaduriaid rhag croesi i'r Gorllewin. Cafodd lawer o bobl ei ladd am geisio dringo'r wal. Disgynnodd y wal ar ddamwain yn Nhachwedd 1989.
'Space war' oedd y gêm gyfrifiadurol gyntaf. Roedd gan y gêm 2 llong ofod yn ymladd yn erbyn ei gilydd. Nod y gêm oedd i saethu'r llong ofod arall. Cafodd y gêm ei greu yn 1961 gan Martin Graets, Stephen Russell, a Wayne Wiitanen. Mae gemau gyfrifiadurol wedi datblygu llawer ers hynny e.e. y PS4 a Xbox
Ysgrifennodd y Beatles 229 o ganeuon ac roedden nhw yn rhyddhau llawer o gloriau a oedd wedi eu dylunio gan artistiaid.
Roedd y Beatles yn fand roc Saesneg. Nhw oedd band mwyaf llwyddiannus yr 20fed ganrif.
Wnaethon nhw ryddhau caneuon fel 'Hey Jude', 'Here comes the sun', 'A day in the life' a llawer mwy.
Y 1960au oedd yr oes aur i deganau. Roedd llawer mwy o deganau ar gael nag o'r blaen ac roedd rhieni yn gwario llawer mwy o arian ar deganau hefyd. Mae llawer o deganau'r 1960au wedi aros o gwmpas am amser hir. Mae rhai dal o gwmpas nawr.
Daeth LEGO i Brydain yn gyntaf yn y 60au. Mae LEGO yn degan poblogaidd iawn heddiw gyda nifer o ysgolion a theuluoedd yn defnyddio LEGO ar gyfer addysg.
Teganau arall poblogaidd yn ystod y 60au:
Action Man
Hot Wheels
Barbie & Accessories
Teganau Disney
Gan flwyddyn 6 Ysgol Gymraeg Sant Curig 2020/2021.
@1MrMPrice
@MrsSSampson1