Un o'r ffyrdd gorau y gallwch ledaenu'r gair am yr apêl yw recordio fideo neu rannu stori ar Instagram.
Dyma ambell beth i'ch helpu i wneud hynny.
Dyma syniad o beth y gallwch ei ddweud os am recordio fideo.
Cofiwch fod y DEC yn sefydliad anwleidyddol, sy'n canolbwyntio ar gefnogi anghenion dyngarol yn unig.
Helo bawb,
Fel y gwyddoch dwi'n siŵr, ar ddydd Gwener 28ain o Fawrth bu daeargryn maint 7.7 ym Myanmar - gan achosi dinistr na welwyd mo'i debyg yn Asia ers dros ganrif.
Hyd yn oed cyn y daeargryn, roedd Myanmar eisoes yn wynebu argyfwng dyngarol enbyd, gyda thraean y boblogaeth angen cymorth dyngarol.
Mae’r sefyllfa bellach yn drychinebus.
Mae nifer y rhai sydd wedi eu lladd yn codi o hyd. Mae cannoedd o bobl yn dal ar goll. Mae teuluoedd yn cysgu tu allan, yn byw mewn ofn o ôl-gryniadau, a'u tai wedi eu dinistrio neu eu difrodi'n enbyd. Mae ysbytai a chyfleusterau meddygol wedi eu llethu yn llwyr.
Ond gallwn wneud rhywbeth i helpu.
Mae'r Disasters Emergency Committee - y Pwyllgor Argyfyngau Brys - wedi lansio apêl brys i ddarparu cymorth hanfodol i'r rhai mewn angen ym Myanmar.
Mae’r DEC yn bartneriaeth arbennig sy'n dod â 15 o brif elusennau cymorth y DU at ei gilydd i godi arian yn gyflym ac yn effeithlon mewn ymateb i argyfyngau dyngarol tramor.
Ar ôl gweithio ym Myanmar am ddegawdau, mae gan elusennau DEC bartneriaethau cryf gyda phartneriaid lleol yn y cymunedau sydd wedi eu heffeithio, ac mewn lle i ymateb ar frys.
Faint bynnag y gallwch roi, plîs cyfrannwch heddiw er mwyn eu helpu i gyrraedd mwy o bobl sydd angen cymorth. Bydd pob cyfraniad yn gwneud gwahaniaeth. Gallwch gyfrannu ar wefan DEC (dee-ee-cee / dî-î-sî) sef dec.org.uk. Diolch.
Wrth rannu eich fideo, tagiwch y DEC os gwelwch yn dda! Gallwch ein ffeindio ni yma:
X - @DECCymru
Facebook - DEC Cymru
Instagram - @disastersemergencycommittee (Cyfrif canolog y DEC)
Bluesky - https://bsky.app/profile/deccymru.bsky.social