(Dafydd Iwan)
1.
Pan fydd haul ar y mynydd,
Pan fydd gwynt ar y môr,
Pan fydd blodau yn y perthi,
A'r goedwig yn gôr;
Pan fydd dagrau f'anwylyd
Fel gwlith ar y gwawn,
Rwy'n gwybod, bryd hynny,
mai hyn sydd yn iawn.
[Cytgan] :
Rwy'n gwybod beth yw rhyddid,
Rwy'n gwybod beth yw'r gwir
Rwy'n gwybod beth yw cariad,
At bobol ac at dir.
Felly peidiwch â gofyn eich cwestiynnau dwl,
Peidiwch edrych arna'i mor syn
Dim ond ffwl sydd yn gofyn
Pam fod eira'n wyn.
2.
Pan fydd gwiriau fy nghyfeillion
Yn felus fel y gwin,
A'r seiniau mwyn, cynefin,
Yn dawnsio ar eu min.
Pan fydd nodau hen alaw
Yn lleddfu fy nghlyw,
Rwy'n gwybod beth yw perthyn
Ac rwy'n gwybod beth yw byw!
[Cytgan]
3.
Pan welaf gwaith y glöwr,
A'r gwaed ar y garreg las,
Pan welaf lle bu'r tyddynnwr
Yn cribo gwair i'w das.
Pan welaf bren y gorthrwm
Am wddf y bachgen tlawd,
Rwy'n gwybod bod rhaid i minnau
Sefyll dros fy mrawd.
[Cytgan]
Oes gafr eto?
Oes heb ei godro,
Ar y creigiau geirwon
Mae'r hen afr yn crwydro.
Gafr wen, wen, wen,
Ie finwen, finwen, finwen,
Foel gynffonwen, foel gynffonwen
Ystlys wen a chynffon,
Wen, wen, wen.
Oes gafr eto?
Oes heb ei godro,
Ar y creigiau geirwon
Mae'r hen afr yn crwydro
Gafr las, las, las.
Ie finlas, finlas, finlas.
Foel gynffonlas, foel gynffonlas,
Ystlys las a chynffon
Las, las, las.
Gafr wen, wen, wen.
Ie finwen, finwen, finwen.
Foel gynffonwen, foel gynffonwen,
Ystlys wen a chynffon
Wen, wen, wen.
Oes gafr eto?
Oes heb ei godro?
Ar y creigiau geirwon
Mae’r hen afr yn crwydro.
3.
Gafr goch, goch, goch
Ie fingoch, fingoch, fingoch
Foel gynffongoch, foel gynffongoch,
Ystlys goch a chynffon
Goch, goch, goch.
Gafr las, las, las
Ie finlas, finlas, finlas
Foel gynffonlas, foel gynffonlas,
Ystlys las a chynffon
Las, las, las.
Gafr wen, wen, wen
Ie finwen, finwen, finwen
Foel gynffonwen, foel gynffonwen,
Ystlys wen a chynffon
Wen, wen, wen.
Oes gafr eto?
Oes heb ei godro?
Ar y creigiau geirwon
Mae’r hen afr yn crwydro.
(. . .)
Feel free to vary the colours and include as many different ones as you like, but remember you have to get faster and faster!