Rydyn ni'n falch o gyhoeddi y cynhelir ein Seminar Ieithyddiaeth ar y 16eg a'r 17eg o Ebrill 2026 ym Mhrifysgol Caerdydd. Nodwch bod y seminar yn gynt na'r arfer eleni fel a benderfynwyd yng nghyfarfod 2025. Bydd y seminar yn cychwyn tua 2yh ar ac yn gorffen tua 2yh ar yr ail ddiwrnod. Byddem yn darparu dolen cyfarfod ar-lein i'r rheini sydd methu teithio i Gaerdydd i gyfrannu. Er hynny, bydd hi’n wych gweld cymaint o bobl â phosib yn yr ystafell gyda ni!
Nid oes ffi i fynychu'r seminar eleni. Nodwch y bydd angen trefnu eich llety eich hun yng Nghaerdydd. Ni fydd cyfieithu ar y pryd ar gael, ond fel arfer mae'r seminar yn ddwyieithog ac mae croeso i bobl gyflwyno yn Gymraeg neu'n Saesneg gyda thrafodaeth yn y ddwy iaith. Bydd manylion cofrestru yn eich cyrraedd drwy'r rhestr bostio ac ar ein gwefan ar ôl y dyddiad cau isod.
Galwad am bapurau:
Croesewir cyflwyniadau ar bob agwedd ar ymchwil ieithyddol i’r ieithoedd Celtaidd (nid yn gyfyngedig i'r Gymraeg). Mae pynciau o ddiddordeb yn cynnwys (heb fod yn gyfyngedig i) ffonoleg, seineg, cystrawen, sosioieithyddiaeth, datblygiad hanesyddol, technoleg lleferydd a materion sy'n berthnasol i ieithoedd lleiafrifol.
Os hoffech gyflwyno papur, a fyddech mor garedig â chyflwyno teitl (yn unig) i Laura erbyn y 19eg o Fawrth 2026, os gwelwch yn dda.
Trefnwyr eleni,
Laura, Peredur & Marieke
*************
We are pleased to announce that the Welsh Linguistics Seminar will be held between 16-17 April 2026 at Cardiff University. Note that the seminar will take place earlier than usual, as agreed at our 2025 meeting. The seminar will start around 2pm and end by 2pm on the second day. We will be providing an online meeting link for people who can't travel to be with us in person. Nevertheless, it would be great to see as many people in the room as possible!
There is no fee for this year's seminar. Note that you will need to book your own accommodation in Cardiff. Details about how to register to follow after the deadline below via our mailing list and on the website. Simultaneous translation will not be available, but the seminar is bilingual and people are welcome to present in Welsh or English, with discussion in both languages.
Call for Papers:
We welcome presentations on all aspects of linguistic research on the Celtic languages, not limited to Welsh. Topics of interest include (but are not limited to) phonology, phonetics, syntax, sociolinguistics, historical development, speech technology, and issues relevant to minority languages.
If you are interested in presenting a paper, please send a title (only) along to Laura by March 19th, 2026.
This year's organisers,
Laura, Peredur & Marieke
Cefn Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd | The back of Cardiff University's Main Building
Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd liw nos | Cardiff University's Main Building by night
Lluniau uchod | Photos above: Laura Arman This work is licensed under CC BY-NC-ND 4.0. To view a copy of this license, visit https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/4.0/