Cyfarfod 2024 | 2024 Meeting
Mae Seminar Ieithyddiaeth y Gymraeg 2024 yn cael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Adeilad Morgannwg yn gartref i Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac yma y byddem yn cwrdd eleni ar brynhawn y 19eg o Fehefin a bore'r 20fed.
Nid oes ffi i ymuno â'r seminar un ai wyneb-yn-wyneb neu ar-lein, ond mae felly ambell amod i fynychu:
Llety: mae gofyn i chi ddod o hyd i le i aros eich hun
Bwyd a diod: ni fyddem yn cynnig prydau yn ystod y digwyddiad, felly bydd angen i chi gael cinio cyn/ar ôl mynychu. Byddem yn cynnig cyfleusterau gwneud te a choffi yn ystod y digwyddiad. Rydym yn bwriadu mynd am ddiod ac am bryd o fwyd yn y ddinas ar ôl y prynhawn cyntaf ac mae croeso mawr i unrhyw un ymuno (gadewch i ni wybod ar y ffurflen gofrestru), ond bydd angen i chi dalu am eich bwyd yma hefyd.
Gyda hynny mewn golwg, dyma'r ddolen i gofrestru.
***
The Welsh Linguistics Seminar 2024 is being held at Cardiff University. The Glamorgan building is home to the University's School of Social Sciences where this year's meeting will take place on the afternoon of the 19th of June and the morning of the 20th.
There's no fee for joining the seminar, either in-person or online, though this means there are a couple of conditions to note:
Accomodation: you will have to make your own arrangements
Food and drink: we are unable to offer a catered event, so please make your own arrangements for lunch on both days. We will offer tea and coffee-making facilities during the event. We intend to go for a drink and for a meal in the city after the first day of the seminar and anyone is welcome to join (let us know on the registration form), but you will have to pay for your own meals here too.
With that in mind, here is the registration link.
Rhaglen (amserlen i ddilyn)
Mercher 19eg: 2yh - Croeso.
Iwan Rees - Rhai enghreifftiau o orgyffwrth rhwng parau unigol-torfol a bychanigion mewn Cymraeg cyfoes.
Laura Arman - Defnydd cyfoes YN mewn strwythurau traethiadol.
Egwyl + Sesiwn bosteri: Kaisa Pankakoski - Teuluoedd amlieithog yn Helsinki a Chaerdydd: cymelliant ideolegol ar gyfer trosglwyddo iaith.
Bob Borsley [Ar-lein] - Tuag at ddadansoddiad o BOD.
Frances Dowle - Pam cymaint o anghytundeb? Dibynadwyaethau pell ac anghytundeb yn y Gymraeg.
Swper
Iau 20fed: 09:10yb
Stefan Dedio - Meddwl am gyflwr yn y traddodiad(au) gramadegol Celteg Ynysig.
Emily-Louise Beech [Ar-lein] - Y broses wybyddol o ymlyniad at le trwy ddisgrifiadau: Astudiaeth Empeiraidd.
Jago Williams [Ar-lein] Rhesymegu sylogistaidd: effaith positif o ddwyieithrwydd?
Egwyl + Sesiwn bosteri: Lynne Davies - Profiadau plant mewn unedau trochi hwyr a’u hagweddau at y Gymraeg.
Gwen Awbery - Amserlenni rhandalu’r degwm o ganol y 19eg ganrif fel adnodd ieithyddol.
Marieke Meelen a David Willis - Rhagenwau goddrychol cudd ac amlwg.
Cyfarfod Busnes Cyffredinol.
Programme (times to follow)
Wednesday 19th: 2pm Welcome.
Iwan Rees Some overlooked crossovers between singulative-collective pairs and diminutives in contemporary Welsh.
Laura Arman - Contemporary use of YN in predicative structures.
Break + Poster Session.
Bob Borsley [Online] - Towards an analysis of BOD.
Frances Dowle - Why so disagreeable? Long-distance dependencies and non-agreement in Welsh.
Supper
Thursday 20th: 09:10
Stefan Dedio - Thinking about case in the Insular Celtic grammatical tradition(s).
Emily-Louise Beech [Online] - The cognitive process of attachment to a place via descriptions: An empiric study.
Jago Williams [Online] - Syllogistic reasoning: a positive effect from bilingualism?
Break + Poster Session.
Gwen Awbery - Mid-19th century tithe apportionment schedules as a linguistic resource.
Marieke Meelen & David Willis - Middle & Modern Welsh (c)overt subject pronouns.
General Business Meeting.
Gwybodaeth ymarferol | Practical information
Bydd dolenni i'r cyfarfod ar-lein a rhifau ystafell y seminar yn cyrraedd y rheini sydd wedi cofrestru erbyn bore dydd Mercher y 19eg.
***
Links to the online seminar and seminar room numbers will be sent to registered attendees by the morning of Wednesday the 19th.
Lleoliad | Location
Mae Adeilad Morgannwg oddeutu 20 munud o gerdded o orsaf Caerdydd Canolog a 7 munud o orsaf Cathays. Mae llawer o safleoedd bws gerllaw.
***
The Glamorgan Building is about a 20 minute walk from Cardiff Central station and 7 minutes from Cathays train station. There are many nearby bus stops.
Adeilad Morgannwg, Rhodfa'r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3WT
***
Glamorgan Building, King Edward VII Avenue, Cardiff CF10 3WT.