Ein Hysgol Ni
Ein Hysgol Ni
Lleolir Ysgol Gymraeg Henllan yng nghefn gwlad hardd, wedi’i hamgylchynu gan dirwedd hanesyddol gyda chymuned groesawgar, gefnogol. Mae tua 80% o blant yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Rydym yn meithrin cymuned o ddysgu! Ein nod yw ysgogi ac ysbrydoli ein disgyblion i gyrraedd eu llawn botensial ac i ffynnu’n hyderus ac yn hapus mewn byd sy’n newid yn barhaus!
Mae disgyblion yn arddangos balchder cynhenid tuag at eu cynefin. Mae bod yn rhan o’r ‘Hwb Cynnes’ yn meithrin sgiliau cymdeithasol disgyblion ac yn cyfoethogi eu gallu yn y Gymraeg, gan arddangos amgylchedd cefnogol a chroesawgar. Rydym yn annog ein cymuned i gofleidio a siarad Cymraeg bob dydd, gan ddathlu ac ymfalchïo yn ein hiaith unigryw a’n diwylliant cyfoethog. Gadewch i ni sicrhau bod ein hiaith yn ffynnu!
“Mae’r disgyblion yn falch o gyfathrebu yn y Gymraeg, ac mae’r Criw Cymraeg yn annog eu cyfoedion i siarad a defnyddio’r iaith yn ddigymell yn eu dysgu a’u chwarae.” Estyn (Ebrill 2024)