Prosbectws | Prospectus
6ed Dosbarth | 6TH Form
Medi/September 2023
Medi/September 2023
Annwyl Ddisgybl,
Mae’n bleser gennyf gyflwyno Llawlyfr y Chweched Dosbarth i chi a chredaf y bydd yn ddefnyddiol i chi wrth benderfynu pa lwybr i’w ddilyn ar ôl arholiadau TGAU. Cynigir ystod eang o gyrsiau yn Chweched Dosbarth Ysgol Uwchradd Aberteifi a fydd yn siwr o apelio nid yn unig at y person academaidd ond y disgybl mwy galwedigaethol ei natur hefyd. Mae’r opsiynau’n cael eu hadolygu a’u hymestyn yn gyson mewn cydweithrediad â sefydliadau addysgol eraill. Rydym yn cydweithio’n glós iawn gydag phartneriaid er mwyn sicrhau’r dewis mwyaf eang o gyrsiau ôl-16 oed. Sail y cydweithio yma yw Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) sydd yn gosod canllawiau clir ar gyfer creu’r cwricwla ac yn rhoi sail statudol ar gyfer Llwybrau Dysgu 14 – 19.
Dau nod sydd i’r Chweched Dosbarth yma: galluogi myfyrwyr i gyrraedd y safonau uchaf o fewn eu gallu tra’n eu helpu i ddatblygu’n bobl ifainc cytbwys a chyflawn a fyddant yn werthfawr o fewn eu cymdeithas. Mae’r Chweched Dosbarth yn gyfnod cofiadwy. Nid yn unig y mae’n benllanw’ch gyrfa ysgol ond mae’n baratoad ar gyfer y cyfnod nesaf, sef bod yn oedolyn annibynnol, hyderus. Hoffwn i chi adael Ysgol Uwchradd Aberteifi gyda’r canlyniadau Lefel A gorau posib a phleser yw gweld y canlyniadau hyn yn gwella blwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydym hefyd yn gweithio i sicrhau eich datblygiad fel unigolyn gydag ymdeimlad o bwrpas, hunan-werth a chyflawniad, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o’ch rhinweddau a’ch galluoedd.
Bydd y ddwy flynedd yn Ysgol Uwchradd Aberteifi’n rhoi llu o gyfleoedd i chi i ddatblygu’ch diddordebau, astudio’n annibynnol a gwella’ch sgiliau mewn llawer o weithgareddau allgyrsiol. Byddwch yn ‘llawen gwrdd ag hen gyfeillion’ ond hefyd yn gwneud ffrindiau newydd a gwneud y penderfyniadau pwysig am y dyfodol. Ein dymuniad ni yw eich helpu i ddatblygu’n bobl sydd yn gallu gwynebu heriau bywyd a chyfrannu’n bositif i’ch amrywiol gymdeithasau. Cydweithio rhwng y rhieni, y myfyrwyr a’r ysgol yw’r allwedd i lwyddiant. Yn ogystal â Phenaeth Blwyddyn y Chweched Dosbarth, bydd y tiwtoriaid dosbarth yn gefn ac yn gymorth i’r disgyblion hefyd gan gynnig arweiniad a chyswllt yn ôl y galw. Ceir nosweithiau rhieni bob blwyddyn ac mae croeso i rieni gysylltu â ni os oes unrhyw bryderon. Gwnawn bopeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pob un o’n myfyrwyr yn hapus a diogel mewn amgylchedd fydd yn caniatáu iddynt gyrraedd eu potensial academaidd.
Disgwyliwn safonau o’r radd flaenaf gan ein myfyrwyr Chweched Dosbarth. Rhaid i chi gofrestru’n brydlon, mynychu pob un wers a chyflwyno’r gwaith ar amser. Mae disgwyl i’ch gwisg ysgol fod yn raenus gan eich bod yn gosod esiampl i’r disgyblion iau. Wrth ddychwelyd i’r Chweched Dosbarth rhaid i’r myfyrwyr barchu a chydymffurfio â’r rheolau ysgol yn ddiffael. Disgwylir i fyfyrwyr y Chweched Dosbarth fod yn esiampl dda i’r disgyblion iau a chaiff ymddygiad y Chweched Dosbarth gryn ddylanwad ar ethos yr ysgol gyfan. “Bydd pob disgybl yn llwyddo” yw datganiad o fwriad yr ysgol sy’n crynhoi ein nod o sicrhau bod pob un disgybl yn cyrraedd brig eu potensial personol. Yn y Chweched Dosbarth rydym yn annog ein myfyrwyr i ymgyrraedd yn uwch fyth, i arwain eraill a meithrin ynddoch yr hyder a’r gallu i wynebu heriau’r dyfodol yn annibynnol.
Edrychwn ymlaen i’ch croesawi i’r Chweched Dosbarth yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, lle mae’r awyrgylch addysgu’n gynhwysol a chefnogol – staff profiadol i’ch hysgogi a’u prif amcan yw hyrwyddo ac arwain datblygiad pob unigolyn mewn ethos heriol a gofalgar.
Dear Student,
I am pleased to present to you our Sixth Form Handbook which I trust will be of value to you as you take the important decision of what to study after your GCSEs. The Sixth Form at Ysgol Uwchradd Aberteifi offers a broad range of courses that will appeal to both the academic and vocational student. We have an options menu that we are constantly developing and extending in conjunction with neighbouring educational institutions. We work in close collaboration with our partners to ensure that our students are given the widest possible choice of courses post-16. This collaboration is underpinned by the Learning and Skills (Wales) Measure which provides clear guidelines for the creation of local curricula and is the statutory base of 14-19 Learning Pathways.
Our Sixth Form has two fundamental aims: to enable students to achieve the highest standards within their capability, and at the same time to ensure that they become balanced, self-reliant young adults able to make a full contribution to society. Life in the Sixth Form is a memorable experience. It is both the culmination of your school career and preparation for the next stage of your life as an independent, confident adult. We want you to leave Ysgol Uwchradd Aberteifi with the best possible A Level results, and it has been a pleasure to see these results improving year after year. We also value your development as an individual and aim to ensure that you leave with a sense of achievement, purpose and self-worth, and a secure understanding of your strengths and abilities.
The two years in the Sixth Form at Ysgol Uwchradd Aberteifi will provide you with many opportunities to explore your interests, to study independently and to develop your skills in a whole host of extra-curricular activities. You will strengthen existing friendships, make new ones and come to important decisions about your future. We aim to enable you to develop as mature young adults, ready for life’s challenges and able to make a positive contribution to wider society.
Success is achieved by collaboration between home, student, and school. The Head of Sixth Form as well as the form tutors will consult, support and offer guidance to the students. We offer annual parents evenings and encourage parents to contact us if there are any concerns. We will do all we can to ensure all students are happy, safe and given an environment in which to achieve their academic potential.
We demand the highest standards from our students. They are expected to register promptly, to attend all classes and complete all work on time. You must maintain the highest standards of school uniform and be a positive example to younger pupils by abiding with school rules at all times. We believe that the conduct of the Sixth Form has a considerable effect on the the whole school ethos.
“Every pupil will succeed”. This is our mission statement which summarises our aim of ensuring that each student reaches his or her potential fully. In the Sixth Form we challenge our students to climb even higher, to lead others and to grow in confidence and ability to finally take on the next challenges alone.
Mrs Nicola James,
Pennaeth / Headteacher.
Bywyd yn y Chweched Dosbarth
Pa bynnag gyrsiau y dewiswch chi, bydd rhywfaint o amser rhydd yn eich amserlen i wneud gwaith ychwanegol yn ardaloedd y Llyfrgell neu’r Chweched Dosbarth. Mae hyn yn bwysig gan fod disgwyl ymhob cwrs y byddwch yn gwneud rhywfaint o waith annibynnol i baratoi am wersi neu waith sydd yn ddilyniant o wersi blaenorol. Mae’r gallu i weithio’n annibynnol yn sgil allweddol a fydd yn cael ei gofnodi maes o law mewn geirda i chi. Bydd cyfle hefyd i gymdeithasu a chymryd rhan mewn digwyddiadau allgyrsiol ond mae disgwyl i chi fod yn bresennol ar gyfer pob gwers.
Fe welwch fod athrawon yn eich trin yn wahanol i ddisgyblion yr ysgol iau. Bydd y berthynas rhyngddoch a’ch athrawon yn fwy tebyg i fyfyriwr coleg a’i diwtor, felly bydd trafodaethau rhyngddoch yn llawer llai ffurfi ol ac ac unigryw i’ch anghenion personol chi. Bydd grwpiau addysgu hefyd dipyn yn llai nag yn yr ysgol iau ac mae’r sylw personol yn fwy. Mewn unrhyw gymuned fe ddisgwylir côd ymddygiad penodol ac mae hyn llawn mor wir am y Chweched Dosbarth. Yn enwedig, mae’n bwysig eich bod chi’r myfyrwyr hŷn yn gosod safon uchel yn batrwm cymwys i weddill yr ysgol. Felly disgwylir gwisg ysgol daclus, prydlondeb a phresenoldeb cyson bob amser.
Cefnogaeth
Mae tîm o staff ar gael i’ch cefnogi wrth symud o flwyddyn 11 i’r chweched dosbarth. Mae pennaeth y chweched a'r tiwtoriaid yna i gynorthwyo gyda phroblemau academaidd a chynorthwyo wrth i chi baratoi i symud tuag at addysg uwch neu gyflogaeth, gyda chefnogaeth fugeiliol benodol ar gael i gynorthwyo gydag agweddau eraill.
Life in the Sixth Form
No matter which courses you follow, there will be some free time for you to carry out extra study in the Library or Sixth Form study areas. This is important as all courses expect that students work independently to prepare for some lessons or to follow up on work set in others. Your ability to organise your own work is an important key skill and this will be recognised and recorded on your reference. There will also be time to socialize with friends and take part in extra-curricular activities, but you are expected to be present for all timetabled lessons.
Sixth Form students will find that members of staff treat them differently from the way they treat younger pupils in the school. Relationships with staff tend to be similar to those of student and tutor and result in far more informal, individual discussions than might have occurred previously. Teaching groups will also tend to be smaller than you have been used to and students benefit from far more individual attention. In any community certain patterns of behaviour are expected and the Sixth Form is no exception. It is particularly important that senior students set high standards and act as appropriate role models for the rest of the school. Hence correct uniform, punctuality and regular attendance are expected at all times.
Support
As you move from year 11 into the sixth form there is a team of staff who are available to support you. Your tutors and head of sixth form are there to help you with any academic issues and prepare you as you move towards higher education or employment, while dedicated pastoral support is available to help you with other issues.
Bydd gan lawer ohonoch yrfa benodol yn eich meddwl ond bydd pawb ohonoch yn gweld astudiaethau yn y chweched fel dull o gael cymwysterau, profi adau a chyfleon. Wrth ddychwelyd i’r chweched fe fyddwch heb os wedi treulio llawer o amser yn meddwl o ddifri ynglŷn â’r penderfyniad hynny. Bwriad y llawlyfr hwn yw darparu gwybodaeth ar y pynciau y bydd angen i chi eu dewis. Dylech siarad â’ch rhieni wrth wneud eich penderfyniadau yn ogystal â siarad gyda’ch athrawon er mwyn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Os ydych i elwa o fod yn y chweched mae’n rhaid i chi fod yn barod i ymestyn eich hun yn academaidd ac i fanteisio ar y cyfleon sy’n bodoli i ddatblygu sgiliau, arweinyddiaeth a chyfrifoldeb. Anelu at lwyddiant yw’r nod.
Os nad ydych eto wedi penderfynu ar yrfa, peidiwch â phoeni – mae llawer person tebyg i chi. Cofi wch ddewis cyrsiau yn ôl eich diddordebau a’ch galluoedd. Mae digonedd o gyrsiau ar gael felly gallwch gadw’ch opsiynau’n agored. Mae’r staff yma i’ch helpu i ddewis y cyrsiau gorau i chi. Ceir manylion am y cyrsiau yn nes ymlaen yn y prosbectws.
Cyn dewis, dylech holi’r cwestiynau canlynol:
Pa yrfa hoffwn i gael?
Pa gymwysterau sydd angen ar ei gyfer?
Sut ydy’r cymwysterau hyn yn cydweithio i ffurfi o llwybr astudio?
A fyddaf yn gallu cael y cymwysterau hynny fel ran o’r chweched dosbarth?
Faint o amser fydd hyn yn ei gymryd?
Ystyriwch y pynciau yr ydych yn eu hoffi gan y byddwch yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus ynddynt. Os ydych yn hoffi ’r pwnc y tebygrwydd yw y byddwch yn well ynddo ac yn cynnal safon uchel. Ystyriwch y pynciau y bydd o bosib eu hangen arnoch ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol. Gofynnwch am gyngor tiwtoriaid dosbarth, Pennaeth Blwyddyn a’r athro gyrfaoedd yn ogystal ag arbenigwyr sy’n gweithio yn y maes o’ch dewis. Mae llawer o brifysgolion a chyflogwyr yn chwilio am fyfyrwyr sy’n arddangos diddordebau a sgiliau eang, ond ar gyfer rhai cyrsiau a gyrfau mae angen i chi arbenigo yn awr.
Gallwch hefyd ddarganfod wybodaeth a chyngor ar safweoedd prifysgolion neu mewn cyhoeddiadau ar-lein fel ‘Informed Choices’ o’r Russell Group
Many of you will have a specific career in mind but all of you will see Sixth Form study as a means of providing you with qualifications, experience and opportunities. In deciding to enter the Sixth Form you will no doubt have spent time in serious thought. This handbook will provide you with the subject information that you will need to make informed choices. You should talk to your parents when making your decisions and speak to subject teachers so that any questions you have can be answered.
If you are to benefit from entering the Sixth Form at Ysgol Uwchradd Aberteifi you must be prepared to extend yourself academically and to take advantage of the opportunities which will exist for developing skills, leadership and responsibility. Your aim should be to aspire to success.
Don’t panic if you have not yet decided on a future career, most people haven’t. Remember that subject choice should be based on your interests and ability. There are many courses on offer, so it will be possible to keep your options open. A team of staff is on hand to help you look at what courses best fit your needs. Details of the courses available are provided later in this handbook.
Before choosing your subjects, you should consider the following questions:
What career do I intend following?
What qualifications does it require?
How do these qualifications combine to form a study pathway
Will I be able to gain these qualifications in the Sixth Form?
How long will it take me?
Consider subjects that you like, as you are more likely to be successful in them. If you like a subject then you are probably good at it and achieve a high standard. This is a valid base upon which to select. Consider subjects that you may need for a future career. Seek out advice from teachers, Careers Advisors and professionals who may work in your chosen field of study. Many universities and employers are looking for students to show that they have broad interests and skills, however for some courses and careers you will need to specialise at this stage.
Cyrsiau Safon Uwch Gyfrannol ac Uwch
Rhennir pob cwrs Safon Uwch yn 4 / 6 uned o tua’r un maint, gyda 2 / 3 ohonynt yn cael eu hastudio yn y flwyddyn gyntaf a’r 2 / 3 arall yn yr ail flwyddyn. Mae’r 2 / 3 a astudir yn y flwyddyn gyntaf yn cael eu dynodi fel Safon Uwch Gyfrannol (UG) sy’n gyfwerth â hanner cwrs Safon Uwch Lawn (U2). Mae’r nifer o unedau a astudir yn amrywio o bwnc i bwnc, a chewch fwy o wybodaeth o dan fanylion y cyrsiau unigol.
Tystysgrif Addysg Gyffredinol (TAG) - Safon Uwch Gyfrannol (2 / 3 uned)
Tystysgrif Addysg Gyffredinol (TAG) - Safon Uwch (4 / 6 uned)
Mae’r cymhwyster Uwch Gyfrannol yn darparu cwrs llai a gaiff ei anelu at y safon y bydd myfyrwyr blwyddyn 12 fel rheol yn ei gyrraedd ar ôl astudio’r pwnc am flwyddyn. Mae wedi’i gynllunio i gynnig gwell dilyniant ar ôl TGAU ac i annog myfyrwyr blwyddyn 12 i ddewis ystod ehangach o bynciau. Y tebygrwydd yw y bydd myfyrwyr blwyddyn 12 yn astudio 3 / 4 pwnc Uwch Gyfrannol, ac mae hyn yn ddibynnol ar eu canlyniadau TGAU.
Yn ystod ail flwyddyn eu rhaglen astudio, ym mlwyddyn 13, bydd mwyafrif y myfyrwyr yn penderfynu canolbwyntio ac arbenigo i Safon Uwch Lawn mewn llai o bynciau, Ystyrir y bydd ein myfyrwyr yn astudio tua 3 o’u pynciau Uwch Gyfrannol, a derbyn cymhwyster Uwch Gyfrannol am y pwnc / pynciau a hepgorwyd ar ôl y flwyddyn gyntaf. Bydd unedau Uwch Gyfrannol (UG) a Safon Uwch (U2) yn cael eu hasesu ym mis Mehefi n. Caniateir ail-sefyll pob uned unwaith. Caiff y cymwysterau UG ei graddio o A i E ar gyfer graddau pasio ac U2 ei graddio o A* i E ar gyfer graddau pasio, gydag U yn dynodi methu.
Cymwysterau BTEC
Mae’r cymwysterau BTEC yn perthyn i’r un corff dyfarnu, sef Pearson/Edexcel. Cynigant ddilyniant trwy lefelau 2 i 4. Gallwch gyfuno cymhwyster BTEC gyda chymwysterau arall, gan gynnwys Sgiliau Allweddol, TAG Uwch Gyfrannol a TAG Uwch Lawn.
Mae’r cymhwyster BTEC (Business and Technology Education Council) yn cynnig paratoad arbenigol ar gyfer y byd gwaith neu addysg uwch. Maent yn fwy galwedigaethol na’r TAG, ac mae teitlau’r cyrsiau yn adlewyrchu hyn, e.e. Diploma Cyfrannol BTEC Twristiaeth a Theithio. Ceir graddau o lwyddiant, clod ac anrhydedd.
Mae’r Diploma Cyfrannol BTEC ar lefel 3 yn gymesur ag un safon uwch lawn, yn cynnwys chwe uned. Mae’r cwrs yn parhau am ddwy flynedd.
Mae’r Tystysgrif BTEC ar lefel 3 yn gymesur ag un Safon Uwch Gyfrannol, yn cynnwys tua 3 uned a chynigir hwn ym Mlwyddyn 12. Gellir parhau gyda’r cwrs ym Mlwyddyn 13 i astudio tua 3 uned bellach ac ennill y Diploma Cyfrannol BTEC.
Ceir dilyniant trwy ddiplomâu a thystysgrifau uwch BTEC (HND a HNC) sydd i’w cael o fewn sefydliadau addysg uwch.
Advanced Subsidiary and Advanced Level Courses
Every Advanced Level course is divided into 4 / 6 units of similar size with 2 / 3 units being studied in the first year and the other 2 / 3 in the second year. The units studied in the first year will comprise the Advanced Subsidiary Level (AS) which is equivalent to half of an Advanced Level (A2). The number of units studied varies from subject to subject, and more information is available within the details for each course.
General Certificate of Education (GCE) - Advanced Subsidiary Level (2/ 3 units)
General Certificate of Education (GCE) - Advanced Level
(4 / 6 units)
The Advanced Subsidiary (AS) qualification provides a shortened course aimed at the standard that year 12 students usually reach after studying a subject for one year. It has been designed to secure good progression from GCSE and to encourage year 12 students to choose a broader range of subjects. The likelihood is that the majority of students will study 3 / 4 AS subjects in their first year depending on their GCSE results.
During the second year of their study programme, in year 13, the majority of students will specialise in fewer subjects to A2, usually 3 of their AS subjects, and “cash in” on the AS qualification in their other subjects. Advanced Subsidiary and Advanced units will be assessed in June. Students may re-sit units once only. The AS course will be graded A to E for pass grades and the A2 course will be graded A* to E for pass grades, with U denoting a fail.
BTEC Qualifications
BTEC qualifications belong to one awarding body – Pearson/Edexcel. They offer progression through levels 2-4. BTECs can be combined with other qualifications, most commonly key skills, but also AS and A level GCE and VCE. The BTEC (Business and Technology Education Council) qualifications provide a vocationally specialised preparation for employment or courses in higher education. The BTEC is more vocationally specialised than the A level, and the titles reflect this (e.g. BTEC Subsidiary Diploma in Tourism and Travel). The BTEC is graded pass, merit and distinction.
The BTEC Subsidiary Diploma at level 3 is equivalent to one A level, includes approximately 6 units. The course continues for two years. The BTEC Certificate at level 3 is equivalent to one AS level, includes approximately 3 units, and is in Year 12. These courses can continue into Year 13 by studying approximately 3 further units and gaining the BTEC Subsidiary Diploma.
Progression is offered by means of BTEC higher diplomas and higher certificates (HND and HNC), which are available within higher education institutions.
Bydd eich addysg yn cynnwys craidd o waith gorfodol ond bydd y mwyafrif o’ch amser yn cynnwys gwersi a gwaith ar gyfer eich pynciau opsiwn. Bydd tua 8-10 gwers ar gyfer pwnc opsiwn fel arfer, sydd yn rhoi’r amserlen nodweddiadol ganlynol i fyfyriwr blwyddyn 12:
Mae bwlch mawr rhwng natur y gwaith ym Mlwyddyn 11 a 12 ac mae’n werth sôn am ddwy agwedd yn enwedig. Mae’r gwaith yn symud yn ei flaen yn gyflym. Er nad oes gennych gymaint o bynciau, peidiwch â thwyllo’ch hunan y bydd yn amser hamddenol! Byddwch yn astudio pob pwnc mewn llawer mwy o ddyfnder a rhoddir llawer o bwyslais ar werthuso a dadansoddi. Ni allwch gymryd yn ganiataol y byddwch yn cyrraedd Blwyddyn 13 ar ôl dechrau Blwyddyn 12. Caiff eich cynnydd ei fonitro’n ofalus ac oni fydd yn foddhaol ni chewch fynd ymlaen i’r flwyddyn nesaf. Seilir pob geirda am geisiadau am Addysg Uwch neu swyddi ar eich cynnydd, ymroddiad a chyrhaeddiad ym Mlwyddyn 12. Felly bydd eich graddau UG yn brintiedig ar geisiadau UCAS.
Hunan ddisgyblaeth yw un o’r prif anghenion sydd yn gwahaniaethu rhwng Blwyddyn 11 a 12 / 13. Er fod y cwricwlwm academaidd yn drwm bydd cyfleoedd am ASTUDIO PERSONOL pan nad oes gwersi swyddogol. Mae disgwyl i chi dreulio amser yn y Llyfrgell neu mewn un o’r ardaloedd astudio’r Chweched Dosbarth. Mae’n hanfodol eich bod yn bresennol ymhob gwers o’r cwrs neu ni allwn sicrhau y byddwch yn cael aros yn y Chweched.
Your sixth form studies will include core, compulsory elements but the majority of your time will be based on your selected option subjects. Your option subjects will usually have 8-10 lessons each so a typical Year 12 student will have the following lesson allocation:
The gulf between the nature of work in Year 11 and Year 12 is wide, and two points are worth identification. The pace of work required can be deceptive. Although you will be studying fewer subject areas, your studies will not be easier. Each subject is covered in far greater depth and emphasis is often placed on evaluation and analysis of subject material. Embarking on a two year Advanced course does not mean automatic progression from Year 12 to Year 13. Your progress is carefully monitored in Year 12 and you will need to demonstrate that you have made sufficient progress in order to make the transition into Year 13. All school references for Higher Education applications and employment are based mainly on progress and achievement in Year 12. Therefore AS level grades will feature on UCAS applications.
The need for self management is probably the most distinctive feature distinguishing life in Years 12 and 13 from that of Year 11. Although the academic curriculum is time consuming there will be opportunity for PRIVATE STUDY when students are not in timetabled lessons. Students will be expected to use this time wisely in Library spaces or dedicated sixth form study areas. Students must be aware that full attendance in any given subject is essential.
BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO?
Mae ein cwrs dwy flynedd yn cynnwys 3 phroject: Project Cymuned Byd-eang, Project Cyrchfan y Dyfodol, a Phroject Unigol. Byddwch yn datblygu ac yn cymhwyso'r 4 sgìl Cyfannol ac yn cael cyfleoedd i ddatblygu'r 3 sgìl Mewnblanedig. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a chyddestunau cyffrous a fydd yn seiliedig ar agenda datblygiad cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig a Nodau Llesiant Cymru yn ôl diffiniad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
Byddwch chi'n datblygu amrywiaeth o sgiliau sy'n atyniadol i gyflogwyr, colegau a phrifysgolion, gan gynnwys:
Cynllunio a Threfnu
Meddwl yn Feirniadol a Datrys Problemau
Creadigrwydd ac Arloesi a Effeithiolrwydd Personol
Llythrennedd
Rhifedd
Cymhwysedd Digidol
Byddwch yn cwblhau 3 phroject:
Project Cymuned Byd-eang (25%) Byddwch yn dewis mater byd-eang i ymchwilio iddo, yn rhannu eich gwybodaeth ag eraill ac yn gweithredu yn y gymuned.
Project Cyrchfan y Dyfodol (25%) Byddwch yn dod i ddeall chi eich hun, yn archwilio nodau o ran cyflogaeth a llesiant yn y dyfodol, ac yn cynllunio sut gallwch gyflawni hyn.
Project Unigol (50%) Byddwch yn cynllunio, yn rheoli ac yn ymchwilio i destun sy'n gysylltiedig â'ch dyheadau addysg neu yrfa yn y dyfodol, ac yn creu traethawd hir ysgrifenedig neu arteffact.
Gellir sefyll asesiadau drwy gydol y cwrs dwy flynedd gyda chymedroli allanol ym mis Ionawr a mis Mai. Rydych yn debygol o gwblhau'r Project Unigol yn yr ail flwyddyn.
GYRFAOEDD GYDA BSC Uwch
Mae'r cymhwyster hwn yn eich galluogi i feithrin sgiliau pwysig y gallwch eu datblygu p'un a ydych yn symud ymlaen i brifysgol, hyfforddiant neu gyflogaeth. Bydd datblygu'r sgiliau hyn yn eich helpu i ddod yn ddinesydd effeithiol, cyfrifol a gweithgar a gall gael effaith aruthrol ar eich llwyddiant a'ch llesiant yn y dyfodol.
The Advanced Skills Baccalaureate Wales (AdvSBW) qualification is an exciting new Level 3 qualification that supports students to become effective, responsible and active citizens, equipping them with the skills for future study or to enter the job market.
Our two-year course is made up of 3 projects: Global Community Project, Future Destination Project, and Individual Project. You will develop and apply the 4 Integral skills and have opportunities to develop the 3 Embedded skills. Students will take part in a variety of exciting activities and contexts which will be based on the United Nations sustainable development agenda and Wales’s Well-being Goals as defined by the Well-being of Future Generations Act (Wales).
You will develop a range of skills which are attractive to employers, colleges and universities including:
Planning and Organisation
Critical Thinking and Problem Solving
Creativity and Innovation Personal Effectiveness
Literacy
Numeracy
Digital Competence
Global Community Project (25%) You will select a global issue to investigate, share your knowledge with others and take part in a community action.
Future Destination Project (25%) You will gain an understanding of yourself, explore future employment and wellbeing goals, and plan how you can achieve this.
Individual Project (50%) You will plan, manage, and research a topic linked to your future education or career aspirations, and create a written dissertation or an artefact.
Assessments can be taken throughout the two-year course with external moderation in January and May. You are likely to complete the Individual Project in the second year.
This qualification allows you to develop important skills that you can take forward whether you are moving on to university, training or employment. Developing these skills will help you become an effective, responsible and active citizen and can have a profound effect on your future success and wellbeing.
Fel disgyblion Chweched Dosbarth cewch hefyd raglen gyfoethogi amrywiol iawn sydd yn cynnwys:
Cynhaliaeth fugeiliol i sicrhau bod eich gwaith yn cael ei fonitro’n rheolaidd, ond heb anghofi o’ch anghenion cymdeithasol ac emosiynol. Credwn fod y sylw yma i’r unigolyn yn un o’n prif rinweddau ni;
Datblygu’ch sgiliau arwain trwy’r cyfle i fod yn brif swyddog neu’n fentor i blant iau. Byddwn hefyd yn eich annog i gefnogi elusennau lleol a chenedlaethol tra yn y Chweched Dosbarth;
Perfformiadau cerddorol – cyfleoedd i ddatblygu sgiliau’r perfformwr unigol yn ogystal ag ymaelodi mewn corau, grwpiau cerdd a dramâu.
Cymryd rhan mewn chwaraeon trwy ymaelodi gydag un o nifer o dimau mewn dewis eang o gêmau;
Gwobr Dug Caeredin – rhaglen boblogaidd ac uchel iawn ei pharch o weithgareddau, digwyddiadau a theithiau.
Os ydych i elwa o fod yn y chweched mae’n rhaid i chi fod yn barod i ymestyn eich hun yn academaidd ac i fanteisio ar y cyfleon sy’n bodoli i ddatblygu sgiliau, arweinyddiaeth a chyfrifoldeb. Anelu at lwyddiant yw eich nod.
As Sixth Form students you are also able to access a very comprehensive enrichment programme, including:
Pastoral support which ha s the aim of ensuring that your progress is regularly monitored, whilst addressing the wider social and emotional needs of individuals. This attention given to you as an individual student is one of our strongest and most important features;
Leadership development through the opportunities to become a prefect and peer mentor. You will also be actively encouraged to support a range of local and national charities whilst in the sixth form;
Musical performances - opportunities are available for developing the skills of the individual performer as well as membership of our senior choirs, ensembles and drama productions;
Participation in sporting activities through membership of one of our many successful teams in a wide range of sports;
The Duke of Edinburgh Award Scheme which is a highly regarded and very popular programme of activities, events and expeditions.
If you are to benefit from entering the Sixth Form at Ysgol Uwchradd Aberteifi you must be prepared to extend yourself academically and to take advantage of the opportunities which will exist for developing skills, leadership and responsibility. Your aim should be to aspire to success.
Mae’r Chweched dosbarth yn Ysgol Uwchradd Aberteifi yn agored i bawb sydd yn gymwys o ran gallu ac agwedd, cyhyd y gellid trefnu cwrs addas ar eu cyfer a bod disgwyliadau o lwyddiant. Yn gyffredinol, mae’r myfyrwyr a ddaw i’r Chweched gydag ystod o lwyddiant yn TGAU (o leiaf 5 TGAU Gradd A*-C) ac yn unigolion sy’n medru ymdopi â gofynion astudiaethau uwch. Bydd pob disgybl yn astudio Bagloriaeth Cymru ochr yn ochr gyda’u pynciau dewisol. Mae’n bwysig fod myfyrwyr yn manteisio ar bob cyfle a ddaw i’w rhan yn yr ysgol. Byddwn yn sicrhau bod y dysgu a’r gefnogaeth fugeiliol o’r radd flaenaf.
Cyrsiau Safon Uwch Gyfrannol (TAG)
Bydd hwn yn ddibynnol ar eich anghenion chi a chyngor gan eich athrawon, ond dylech fod yn ymwybodol o’r canlynol:
Mae angen o leiaf 5 TGAU gradd A* i C. Ar y cyfan, dylech ennill gradd B o leiaf ym mhob pwnc yr hoffech eu hastudio ar gyfer Safon Uwch, ond mae cyfle i chi drafod hyn gyda’r athro unigol. Ar gyfer pynciau na chawsoch y cyfle i’w hastudio yn CA4, dylech gyfeirio at y manylion cyrsiau pynciol.
Mae anghenion mynediad clir gan bob pwnc. Dewch o hyd i’r wybodaeth hon o fewn y manylion cyrsiau pynciol. Dylech weithio’n galed ym mlwyddyn 11 er mwyn sicrhau eich bod yn gymwys i’ch pynciau dewisol.
Os na fyddwch yn llwyddo i ennill gradd C yn y Gymraeg, Mathemateg neu Saesneg, byddwn yn eich cynghori i ddod o hyd i ffordd i’w hailsefyll, tra bod angen gradd C yn Gwyddoniaeth ar gyfer nyrsio neu ddysgu. Felly, dylech flaenoriaethu y pynciau yma nawr.
Weithiau mae’n bosib astudio pwnc na wnaethoch ei astudio yn CA4. Os ydych yn ystyried hyn, dylech drafod gyda’r Arweinydd Pwnc. Wrth gwrs, nid yw hwn yn orfodol ar gyfer pynciau sy’n newydd i bawb yn yr ysgol, megis Iechyd a Gofal, eto dylech drafod addasrwydd y cyrsiau yma ar gyfer eich anghenion chi.
The Sixth Form at Ysgol Uwchradd Aberteifi is open to all who are qualified by ability and attitude, provided a suitable course of study can be arranged and that there is an expectation of success. Generally, those who are admitted to the Sixth Form will have a range of examination successes at GCSE level (at least 5 GCSEs at grades A*-C) and will be capable of moving on to more advanced study. All students who enter the Sixth Form will study the Welsh Baccalaureate Qualification in addition to their optional courses. It is important that students make the most of their opportunities at Ysgol Uwchradd Aberteifi, and in return we offer high quality teaching alongside a supportive pastoral team.
Advanced Subsidiary courses (GCE)
This is based on your needs and staff advice, but you should be aware of these points:
You will need at least five GCSE passes at grades A*- C. Overall, you should have a minimum of a B grade in each subject you wish to study at Advanced Level, but there will be an opportunity to discuss with the individual teacher. For subjects you have not previously studied at GCSE, see course information.
Subjects have clear entry requirements. You will find these under the course details. You should aim to work hard in the rest of Year 11 to qualify for your chosen courses.
If you do not gain grade C in Welsh, Maths or English you will be strongly advised to find a way of retaking them, those wishing to pursue a career in nursing or teaching may be advised to improve their GCSE grades in maths and science if they have not already achieved the minimum standard required.
Sometimes it is possible to study a subject which you did not study in KS4. If you are considering this, you must discuss it with the Subject Leader. This of course is not compulsory for subjects that are new to everyone in the school, such as Health and Social Care, but you should also request a discussion on the suitability for these courses for your needs.
Ymuno â’r Chweched ym mis Medi
Dylech gwblhau’r ffurflen opsiynau yn awr i rhoi syniad o’ch dewisiadau. Gallwch wneud cais i ymuno â’r Chweched ar unrhyw adeg ym mlwyddyn 11, ond gwneir y penderfyniad terfynol ar y diwrnod yn dilyn y canlyniadau TGAU. Nid yw’r ffurflen opsiynau yn ymrwymiad llwyr i ymuno â ni, ond mae’n gymorth mawr i ni sicrhau bod y cyrsiau mwyaf addas ar gael i chi. Yn bwysicach fyth, bydd y ffurflen yn eich helpu chi i gynllunio’r dyfodol a gwneud penderfyniadau call. Os ydych yn ymuno o sefydliad arall bydd angen llenwi ffurflen gais yn ogystal.
Oes grantiau ar gael?
Gallwch geisio am lwfans cynhaliaeth addysg (LCA) sy’n cynnig hyd at £30 yr wythnos i’r myfyriwr sy’n astudio am 15 awr yr wythnos neu fwy. Mae yna amodau ariannol arbennig yn effeithio ar eich cais. Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y LCA os yw cyfanswm incwm eich rhieni yn £30,000 y flwyddyn neu’n fwy.
Cewch fwy o wybodaeth ar llinell gymorth Cymru 0845 602 8845 neu http://cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.
Joining the Sixth Form in September
The first step is to complete an options sheet to identify the subjects you are interested in studying. You may apply for the Sixth Form at any stage in year 11, and the process is only finalised on the day following the GCSE results. An application to join us does not commit you but does help us to plan the appropriate courses for you. More importantly it will help you to make the right decisions. If you are joining the school for the first time for the sixth form, then you will need to complete an application form as well.
Are there any grants available?
You can apply for an education maintenance allowance (EMA) which offers up to £30 per week for students studying for 15 hours per week or more. The success of your application is dependent upon certain financial conditions. You will not qualify for an EMA if the total income of your parents is £30,000 or more per annum.
For more information: Wales EMA Helpline 0845 602 8845 or http://studentfinancewales.co.uk.
Mae'r botymau a ddengys yn dynodi eu bod yn cael eu darparu mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill neu drwy gynllun e-sgol. Beth yw e-sgol? Gweler y linc: e-sgol. The buttons denote courses which are delivered in partnership with other schools or through the e-sgol scheme. What is e-sgol? Find out here: e-sgol.