Llywio'r ffordd at ddyfodol disglair!
Ar bwys yr afon Clettwr
Y saif ein hysgol ni,
Cawn ddysgu a chawn chwarae
Yn sŵn ei miwsig hi.
Croeso!
Croeso i wefan Ysgol Gymunedol Talgarreg.
Mae ysgol Talgarreg fel un teulu mawr. Rydyn ni’n ganolog i fywyd y pentref a’r ardal leol.
Porwch drwy'r wefan er mwyn cael blas o fwrlwm a phrofiadau cyfoethog yr ysgol.
Ysgol wledig i blant rhwng 4 ac 11 oed yw Ysgol Talgarreg. Adeiladwyd yr ysgol dros ganrif a phedwar deg mlynedd yn ôl. Ysgol gymunedol yw ysgol Talgarreg. Y Gymraeg yw prif gyfrwng bywyd addysgol, cymdeithasol a diwylliannol yr ysgol.
Cysylltwch gyda ni -
01545 590683
prif@talgarreg.ceredigion.sch.uk
Dilynwch ni ar ein tudalennau cymdeithasol.
Facebook - Ysgol Talgarreg
Instagram - ysgol_talgarreg
X (Twitter) - @TalgarregYsg