Clwb Brecwast a Chlwb Gofal

CLWB BRECWAST 


Bydd yr ysgol yn gallu cynnig brecwast iach am ddim i’r disgyblion o dan nawdd Cynllun y Cynulliad Cenedlaethol.  Bwriad y fenter yw helpu i wella iechyd a gallu plant i ganolbwyntio, er mwyn helpu i godi safonau dysgu a chyrhaeddiad.  

Mae’r Clwb Brecwast ar agor o 8:25y.b. hyd 8:50y.b. Mynediad olaf yw 8:35y.b.

CLWB GOFAL


Mae Clwb Gofal ar gael yn yr ysgol rhwng 8:00y.b. a 8:25y.b. 

Cost y clwb yw £1.25 y dydd. Gofynnir i chwi archebu a thalu o flaen llaw am le i’ch plentyn/plant drwy’r system School Gateway.