Ysgol Gynradd Gymraeg yng nghanol pentref prydferth Pontrobert, Maldwyn yw Ysgol Pontrobert. Addysgir disgyblion rhwng 4 ac 11 oed drwy gyfrwng y Gymraeg yma ac mae’n ysgol sy’n tyfu’n gyflym o flwyddyn i flwyddyn. Mae’n ysgol weithgar a byrlymus yn y gymuned, yn cynnig profiadau diddorol i’r plant ac yn gosod safonau uchel ym mhob maes. Mae’n ysgol hapus, gartrefol sy’n cynnig cyfleoedd i’r plant gyrraedd eu llawn potensial a thrwy hynny ddatblygu yn ddinasyddion unigryw sy’n gwerthfawrogi diwylliant a iaith ein gwlad.