Ysgol gyfrwng Gymraeg yng nghanol Dyffryn Clwyd yw Ysgol Pen Barras. Rydym wedi ein lleoli yn nhref Rhuthun gyda golygfeydd godidog o Fryniau Clwyd. Rydym yn Gymry balch yma ac mae’r Gymraeg yn cael ei siarad a’i ddefnyddio yn gwbl naturiol trwy gydol y dydd. Ein nod yw hybu pawb i siarad Cymraeg yn gyson o ddydd i ddydd, ac i fwynhau ac ymfalchio yn ein hiaith a’n diwylliant. Gweithiwn a gwen yn swn y Gymraeg i gadw'r iaith yn fyw.