Mae Ysgol Pant Pastynog yn gwasanaethu pentrefi Prion, Peniel, Saron a Nantglyn a’r ardal wledig o’u cwmpas yn ogystal â thref Dinbych. Ysgol naturiol Gymraeg yw hi a Chymraeg yw iaith gyntaf y mwyafrif o’r disgyblion. Cyflwynir Saesneg fel pwnc i’r plant ym mlwyddyn 3. Mae’r ysgol dan reolaeth wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru. Anelwn at gael ysgol deuluol hapus lle gall pob unigolyn gyrraedd ei botensial llawn er mwyn tyfu’n aelod gwerthfawr a chyfrifol yn y gymuned a’r gymdeithas ehangach.