Croeso i Ysgol Gymunedol Croesgoch. Welcome to Croesgoch Community School.
Ysgol Gymraeg Croesgoch yw ysgol gynradd wledig fechan a chyfeillgar, wedi’i lleoli’n hardd rhwng Tyddewi ac Abergwaun. Adeiladwyd yr ysgol yn wreiddiol yn 1966, ac yn 2010 cafodd ei hadnewyddu’n sylweddol a’i hehangu i greu amgylchedd dysgu modern, diogel a deniadol i’n disgyblion.
Wedi’i lleoli yng nghanol pentref bychan Croesgoch, mae’r ysgol yn mwynhau golygfeydd godidog tuag at Borthgain ac arfordir prydferth y gogledd. Mae ein dalgylch yn eang a gwledig ei naws; daw ein disgyblion o bentrefi cyfagos, cymunedau bychain, ffermydd a thyddynnod sy’n ymestyn dros ardal eang.
Fel ysgol gyfrwng Cymraeg sydd wedi’i gwreiddio’n gadarn yn ein hardal, rydym yn falch o gynnig addysg o ansawdd uchel drwy gyfrwng y Gymraeg, gan feithrin cariad at ein hiaith, ein diwylliant a’n cymuned.
Ysgol Gymraeg Croesgoch is a small, friendly rural primary school, beautifully situated between St Davids and Fishguard. The school was originally built in 1966 and underwent a major refurbishment and extension in 2010, creating a modern, safe and welcoming learning environment for our pupils.
Located in the heart of the small village of Croesgoch, the school enjoys wonderful views towards Porthgain and the beautiful northern coastline. Our catchment area is wide and rural in character; pupils join us from neighbouring villages, small communities, farms and scattered homes across a broad area.
As a Welsh‑medium school firmly rooted in our local area, we are proud to offer high‑quality education through the medium of Welsh, nurturing a strong sense of language, culture and community among our pupils.
Digwyddiadau / Events
Dyddiadau i’w Cofio
Hanner Tymor 16eg – 20fed Chwefror 2026
Eisteddfod Ysgol Dydd Iau 26ain Chwefror 2026
Eisteddfod Cylch Treletert Dydd Iau 12fed Mawrth 2026
Eisteddfod Sir Ysgol Bro Gwaun Dydd Sadwrn 21ain Mawrth 2026
Gwyliau’r Pasg 30ain Mawrth – 10fed Ebrill 2026
Dydd Llun 13eg Ebrill 2026 – Diwrnod Hyfforddiant Mewn Swydd
Tymor yr Hâf yn dechrau Dydd Mawrth 14eg Ebrill 2026
Eisteddfod Celf A Chrefft 22ain Ebrill 2026
Dates to Remember
Half Term 16th - 20th February 2026
School Eisteddfod Thursday 26th February 2026
Area Eisteddfod – Letterston Thursday 12th March 2026
County Eisteddfod Fishguard High School Saturday 21st March 2026
Easter holidays 30th March – 10th April 2026
Monday 13th April 2026 – Inset Day
Summer term begins Tuesday 14th April 2026
Arts & Crafts Eisteddfod 22nd April 2026
Ysgol Croesgoch
Croesgoch
Haverfordwest
Pembrokeshire
SA62 5JT
T: 01348 831461