Cwricwlwm i Gymru

2022

Ysgol Gyfun gymraeg Bro Myrddin

croeso

Rhieni / Gwarcheidwaid,

Mae gweithredu a datblygu’r cwricwlwm newydd wedi bod yn flaenoriaeth i ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac rydym bellach yn mynd ati o ddifri i greu a threialu. Mae pwyslais enfawr ar y daith ddysgu ac rydym eisoes, ers sawl blwyddyn wedi dechrau ar y daith. Byddwn yn canolbwyntio eleni ar gynnal sgyrsiau rhwng y plant ac athrawon am eu barn ar sut yr ydym yn symud ymlaen tuag at y Pedwar Diben. Byddwn yn edrych yn benodol ar agwedd y disgyblion at ddysgu a sut maent yn teimlo y gallwn eu cefnogi ymhellach. Er mwyn sicrhau ein bod yn gwella eich ymwybyddiaeth chi fel rhieni o’r cwricwlwm newydd, byddwn yn cyflwyno gwybodaeth gyson i chi am yr hyn rydym yn gwneud yn yr ysgol ar ein platfform newydd.

Dyma restr o rai o’r camau sydd eisoes wedi eu cymryd yma ym Mro Myrddin:

  • Staff, disgyblion a llywodraethwyr wedi eu cynnwys yn y broses o’r cychwyn

  • Bro Myrddin yn ysgol arweiniol y cwricwlwm yn genedlaethol gyda Mathemateg a Rhifedd a'r Dyniaethau

  • Model dysgu ac addysgu wedi ei greu a’i rannu

  • Hyfforddiant parhaol wedi ei ddarparu ar y Cwricwlwm Newydd a’r Meysydd Dysgu a Phrofiad

  • Cynlluniau wedi eu treialu gyda blwyddyn 7 yn y dair mlynedd diwethaf

  • Cydlynwyr y Meysydd Dysgu a Phrofiad a Llythrennedd a Rhifedd a Chymhwysedd digidol wedi eu penodi

  • Cynlluniau creadigol amrywiol wedi eu cyflwyno i nifer fawr o ddisgyblion

  • Gweledigaeth ysgol gyfan wedi ei chreu gan y disgyblion, y staff, rhieni a’r llywodraethwyr

  • Platfform newydd wedi ei greu ar gyfer y Cwricwlwm Newydd

Ein gweledigaeth

Yng nghynefin ein hysgol ni, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, mae gwreiddiau hen, hen dderwen. Dychmygwn ein cwricwlwm newydd fel y dderwen hon, ac o’i gwreiddiau cadarn, awn ati gyda’n gilydd i feithrin canghennau lle bydd nyth ddiogel i bob disgybl a chyfle i fagu adenydd.

Byddwn yn annog ein dysgwyr i dyfu’n unigolion iach a hyderus a fydd yn cyfrannu’n fentrus a chreadigol i Gymru a’r byd. Byddwn yn eu datblygu’n ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu trwy gydol eu hoes a byddwn yn creu dinasyddion moesol, gwybodus ac egwyddorol a fydd yn aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Bydd ein cwricwlwm, fel y dderwen, yn eang ac yn gytbwys. Bydd yn cynnig cyfle i ni gysgodi ac i ddringo. Bydd yn ein hysgogi i ymfalchïo yng ngwerthoedd gorau ein hardal, gan ymestyn o’r lleol, i’r cenedlaethol a’r rhyngwladol. Bydd yn rhoi cyfle i ni roi ein hiaith ar waith a’i dathlu gyda balchder. Bydd yn cynnwys yr holl randdeiliaid, boed yn ddysgwyr, staff, rhieni, llywodraethwyr neu’n aelodau o’r gymuned ehangach.

Drwy bob tymor, bydd yn ein hatgoffa bod derwen yn dod o fesen fach a bod angen plannu o’r newydd o dro i dro.


Addysg cydberthynas a rhywioldeb

ACaR.pdf

Canllaw i'r cwricwlwm newydd

Cwricwlwm i bobl ifanc.pdf

Y Cwricwlwm newydd i Gymru

Cwricwlwm hawdd ei ddeall.pdf

Y Pedwar Diben

Y Pedwar Diben.pdf