UNED 1
Tasg 1 (15%) - Cyflwyniad Unigol ar sail ymchwil
Tasg 1 (15%) - Cyflwyniad unigol ar sail ymchil (40 marc)
Ar gyfer y dasg hon, bydd angen i chi gyflwyno gwybodaeth ar eich pen eich hun ar unrhyw destun yn ymwneud ag un o’r pump thema sydd wedi eu rhestru isod. Dewiswch bwnc difyr gyda digon o ffeithiau diddorol. Gorau oll os bydd gennych brofiadau personol i’w rhannu. Bydd rhaid i chi siarad am tua 5-7 munud.
Dyma’r pump thema:
1. Cymru: Saunders Lewis, Urdd Gobaith Cymru,, Cwm Tryweryn
2. Hamdden: Pêl-droed, canu offeryn cerdd, dawnsio, beicio mynydd, Taikwando
3. Byd gwaith: Ffermio, profiad gwaith, diwydiant lleol, busnes lleol
4. Byd gwyddoniaeth/technoleg: Dyfais arbennig, gemau cyfrifiaduron, gwyddonydd
5. Dinasyddiaeth: Masnach deg, ynni cynaliadwy, datblygiad mewn ardal, ee canolfan siopa newydd, cwrs rasio ceffylau newydd , delwedd
Tasg 2 (15%) - Ymateb a Rhyngweithio
Tasg 2 (15%) – Ymateb a Rhyngweithio (40 marc)
Tasg grŵp yn seiliedig ar sbardunau ysgrifenedig a/neu weledol a ddarperir gan CBAC i symbylu trafodaeth.
Disgwylir i ymgeiswyr ddangos eu bod yn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau llafar gydag eraill er mwyn mynegi a chefnogi barn. Mae’r gweithgaredd yn rhoi cyfle i’r ymgeiswyr gyfleu eu profiadau personol a/neu berswadio eraill.