Isod ceir amlinelliad o rai o'r pethau sydd wedi bod yn digwydd yn yr ysgol, a thu hwnt iddi, yn ystod y tymor hwn.
Below is an outline of some of the things that have been happening in school, and outside school, during this term.
Tripiau / Trips:
Teithiau diwedd blwyddyn:
Cafwyd nifer o deithiau diwedd blwyddyn gwych, o 'Sw Noah's Ark' i 'Jump' ac o 'Boulders' i draeth 'Western-super-Mare'. Diolch i'r staff i gyd am yr holl waith trefnu a pharatoi er mwyn rhoi'r profiadau gwych hyn i'n disgyblion.
End of year trips:
There were many excellent end of year trips, from 'Noah's Ark zoo' to 'Jump' and from 'Boulders' to the beach in 'Western-super-Mare'. Thanks to the staff for all their hard work in organising these trips, and giving pupils such excellent experiences.
Gwersi cerdd / Music lessons:
Cerdd Torfaen:
Unwaith eto y tymor hwn, rydym wedi elwa o gael arbenigedd Mr Beecham yn gweithio drwy'r ysgol. Diolch yn fawr iawn iddo am ei waith a'i ymrwymiad gyda phawb drwy'r ysgol; rydym wir yn gwerthfawrogi ei waith caled a'i barodrwydd i helpu mewn unrhyw ffordd.
Cerddoriaeth Gwent:
Mae plant blwyddyn 2 wedi derbyn gwersi ffidil wythnosol, ac roedd yn hyfryd eu gweld yn perfformio i deuluoedd yn y gyngerdd ddydd Llun. Diolch yn fawr i Miss Rich am ei holl waith caled gyda'r plant.
Upbeat:
Roedd disgyblion blwyddyn 6 hefyd yn ddigon ffodus i gael gwersi drymio gyda 'Upbeat', a gwelwyd cyngerdd clwstwr wych ar ddiwedd y cywaith hwn gyda'r holl ysgolion sy'n bwydo Gwynllyw. Da iawn i bawb.
Cerdd Torfaen:
Once again this term, we've benefited from Mr Beecham's expertise throughout the school. Thanks so much to him for all his work and commitment with all our pupils; we really appreciate his hard work and his willingness to help in any way.
Gwent Music:
Year 2 pupils have received weekly violin lessons, and it was lovely seeing them perform to families in the concert on Monday. Thanks so much to Miss Rich for all her hard work with the children.
Upbeat:
Year 6 pupils have been lucky enough to receive drumming lessons with 'Upbeat,' and we had an excellent cluster concert at the end of this project with pupils from all the Gwynllyw cluster schools. Well done to everyone.
Diolch yn fawr.
Elusen / Charity:
Da iawn i bawb o flynyddoedd 3 i 6 am gymryd rhan yn y ras hwyl brynhawn dydd Iau. Roedd yn hyfryd gweld pawb yn cerdded neu'n rhedeg, gyda phlant y Cyfnod Sylfaen yn eu gwlychu wrth fynd heibio.
Casglwyd £1370 ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, 2027. Diolch yn FAWR i bawb.
Well done to everyone from years 3 to 6 who took part in the fun run on Thursday afternoon. It was lovely seeing everyone walking or running, with the Foundation Phase children getting everyone wet as they walked / ran.
We raised £1370 for the Urdd Eisteddfod in 2027. Thank you SO much to everyone.
Chwaraeon / Sport:
Sesiynau pêl-droed gyda 'County in the community':
Yn ystod y tymor hwn, mae disgyblion blwyddyn 6 dosbarth Miss Passmore wedi elwa o arbenigedd holl staff hyfforddi 'County in the community'. Mae'r sesiynau wedi bod yn rhai gwych ac mae'r disgyblion wedi dysgu llawer gan Brandon, Amy a'r tim i gyd.
Sesiynau rygbi gyda Dreigiau Gwent:
Mae disgyblion dosbarth Mr Price wedi mwynhau gwersi pythefnosol gyda chynrychiolwyr o dîm 'Dreigiau Gwent' ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu gwaith caled.
Mabolgampau yr Urdd:
Roedd yn hyfryd gweld nifer o ddisgyblion o flwyddyn 3 i 6 yn cymryd rhan ym mabolgampau'r Urdd eleni. Cafwyd llwyddiant ysgubol ar y diwrnod ac rydym yn falch iawn o bob un.
Pêl-rwyd, pêl-droed a rygbi ym Mhanteg:
Mae wedi bod yn hyfryd danfon cymaint o dimoedd i'r cystadlaethau gwahanol yn Ysgol Panteg dros yr wythnosau diwethaf. Da iawn i bawb am gymryd rhan a llongyfarchiadau mawr i un o'r timoedd pêl-rwyd am ennill.
Football sessions with 'County in the community':
This term, year 6 pupils in Miss Passmore's class have benefited from the expertise of all the 'County in the community' coaching staff. The sessions have been fantastic and the pupils have learnt so much from Brandon, Amy and the whole team.
Rugby sessions with the Gwent Dragons:
Pupils in Mr Price's class have enjoyed fortnightly lessons with representatives from 'Gwent Dragons' and we are very grateful to them for their hard work.
Urdd sports:
It was wonderful to see a number of pupils from year 3 to 6 taking part in the Urdd sports this year. The day was a huge success and we are very proud of everyone.
Netball, football and rugby in Panteg:
It has been wonderful to send so many teams to the different competitions at Ysgol Panteg over the past few weeks. Well done to everyone for taking part and big congratulations to one of the netball teams for winning.
Cwrs beicio'n ddiogel / Cycling proficiency course:
Da iawn i'r 11 disgybl o flwyddyn 6 gymerodd ran yn y cwrs beicio'n ddiogel eleni. Gweithiodd bob un ohonynt yn galed iawn, gan basio'r prawf beicio ar y diwedd. Da iawn i chi gyd!
Well done to the 11 pupils from year 6 who took part in the cycling proficiency course this year. They all worked extremely hard, passing the test they had at the end. Well done to you all!
Gwersi ioga / Yoga lessons:
Sesiynau ioga gyda Ioga 'Pili Pala':
Diolch yn fawr i Ioga Pili Pala am y sesiynau gwych gyda phob disgybl yn yr ysgol dros ddau ddiwrnod y tymor hwn. Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Kate o Ioga 'Pili Pala' yn dod yn ôl i weithio gyda'r disgyblion ym mis Medi. Mae'r sesiynau hyn yn hyfryd, ac maent yn dysgu cymaint i'r disgyblion am gydbwysedd a thechnegau ymlacio a thawelu.
'Pili pala' yoga sessions:
Thanks to Pili Pala yoga for the excellent sessions with every child in the school over two days this term. We're glad to announce that Kate from Pili pala yoga will be returning to work with the pupils in September. The sessions are lovely, and they teach the pupils so much about balance and relaxation techniques. Diolch yn fawr.
Sioe 'Mewn Cymeriad' / 'Mewn Cymeriad' show:
Fel diweddglo i'w gwaith thema, mwynhaodd disgyblion blynyddoedd 3 a 4 gyflwyniad gwych gan 'Mewn Cymeriad' am hanes boddi Tryweryn. Dysgon nhw am yr hanes mewn ffordd hwyliog iawn, felly diolch yn fawr i 'Mewn Cymeriad'.
To conclude their current theme work. year 3 and 4 pupils enjoyed an excellent presentation from 'Mewn Cymeriad' about the drowning of Tryweryn. They learnt a lot about the story in a fun way, so thank you to 'Mewn Cymeriad'.
Gwobr eco / Eco prize:
Llongyfarchiadau mawr i'r Eco-bwyllgor am eu holl waith caled. Mae'r criw wedi sicrhau gwobr platinwm am y seithfed blwyddyn yn olynol. Da iawn iddynt i gyd, a diolch i Miss Newland-Jones a Mrs Young am eu holl waith gyda'r cydlynu a chefnogi'r pwyllgor.
Huge congratulations to the Eco-committee for all their hard work. The crew have secured a platinum award for the seventh year consecutively. Well done to them all, and thanks to Miss Newland-Jones and Mrs Young for all their hard work in coordinating and supporting the committee.
Arth-wyl:
Arth-ŵyl:
Am ddiweddglo hyfryd i waith thema plant y Cyfnod Sylfaen! Cafwyd digwyddiad cyntaf o'i fath gyda 'Arth-ŵyl' ac roedd yn hyfryd gweld cymaint o deuluoedd yn mwynhau'r gwahanol weithgareddau a pherfformiadau ar y diwrnod. Diolch i holl staff y Cyfnod Sylfaen am eu gwaith caled, a diolch i'r teuluoedd am gefnogi.
Arth-ŵyl:
What a lovely ending to the term's theme work for the Foundation Phase children! We had a first event of its kind with the 'Arth-ŵyl' and it was lovely to see so many families enjoying the different activities and performances on the day. Thanks to all the Foundation Phase staff for all their hard work, and thanks to to all the families for supporting.
Clwb garddio / Gardening club:
Diolch yn FAWR iawn i bob un o'r gwirfoddolwyr sy'n dod mewn i'r ysgol bob dydd Mercher. Mae'r blodau a phlanhigion o gwmpas yr ysgol yn edrych yn hyfryd, ac mae llawer o ddisgyblion wedi elwa cymaint o'r sesiynau garddio gyda chi. Diolch!
Thanks SO much to all the volunteers that come into school every Wednesday. The flowers and plants around the school look lovely, and so many pupils have benefited from their gardening sessions with you. Thank you!
Gŵyl ddawns / Dance festival:
Da iawn i'r criw talentog hwn am gymryd rhan yng ngŵyl ddawns Torfaen. Roedd pawb wedi perfformio'n wych ac rydym yn falch iawn ohonynt. Diolch yn fawr i Miss Rivers am ei holl waith hyfforddi.
Well done to this talented crew for taking part in the Torfaen dance festival. Everyone performed brilliantly and we're very proud of them all. Thank you to Miss Rivers for all her work preparing the pupils.
Hwyl fawr! / Good bye!
Hwyl fawr!
Hoffwn ddweud hwyl fawr a diolch o waelod calon i Miss Wena Williams. Mae Miss Williams wedi bod yn yr ysgol am 20 o flynyddoedd ac mae wedi dysgu llawer iawn o ddisgyblion yn ystod ei hamser yma. Rydym yn drist iawn ei bod yn gadael ond yn gyffrous drosti, wrth iddi symud yn ôl i'w chynefin yn y Gogledd. Bydd plant unrhyw ysgol yn lwcus iawn o'i chael hi fel athrawes. Diolch yn fawr, a phob lwc!
Good bye!
We would like to say good bye and a huge thank you to Miss Wena Williams. Miss Williams has taught in this school for 20 years and she has taught so many pupils during her time here. We're very sad that she's leaving but excited for her, as she moves back to her 'home' in North Wales. Pupils from any school will be very lucky to have her as a teacher. Thank you and good luck.
Hwyl fawr blwyddyn 6!
Hwyl fawr a phob lwc i holl ddisgyblion blwyddyn 6. Diolch i chi am bopeth dros y saith mlynedd ddiwethaf. Gobeithio y cewch chi gyfnod pontio esmwyth i'ch ysgolion uwchradd. Cofiwch eich bod chi gyd yn rhan o deulu Ysgol Gymraeg Cwmbrân, a bydd ein drysau wastad ar agor ar eich cyfer. Cadwch mewn cysylltiad; rydym yn caru clywed am eich datblygiad a'ch llwyddiannau. Pob lwc!
Good bye to year 6!
Good bye and good luck to all our year 6 pupils. Thanks for everything over the last seven years. We hope you have a smooth transition into your secondary schools. Remember that you're all a part of the Ysgol Gymraeg Cwmbrân family, and our doors will always be open for you. Keep in touch; we love hearing about your development and achievements. Good luck!
Ail-gylchu esgidiau pêl-droed a rygbi / Recycling old rugby and football boots:
Neges atgoffa: Rydyn ni'n casglu unrhyw hen esgidiau pêl-droed / rygbi ayyb ar gyfer ymgyrch 'Football reebooted'. Os oes unrhyw rhai sbâr gyda chi adref nad ydych yn eu defnyddio bellach, danfonwch nhw mewn unrhyw bryd! Diolch yn fawr.
Reminder: We're collecting old football / rugby boots for the 'Football rebooted' campaign. If you have any old football or rugby boots at home, please send them in anytime.
Digwyddiadau dros yr haf / Events over the summer:
Dyddiadau pwysig / Important dates:
Calendr 2025-2026:
2025-2026 Calendar:
Mwynhewch wyliau'r haf ac fel welwn ni chi ar ddydd Mercher, Medi'r 3ydd.
Enjoy the summer break and we'll see you all on Wednesday, September 3rd