Mae'r tymor hwn wedi bod yn un prysur iawn, gyda llawer o bethau yn digwydd yn y dosbarthiadau a thu hwnt iddynt.
This term has been very busy, with many different things happening both in and out of the classes.
Clybiau y tymor / This term's clubs:
Mae nifer fawr o glybiau wedi cael eu darparu ar gyfer y disgyblion y tymor hwn, yn cynnwys:
Côr;
Clwb pêl-droed;
Clwb lles amser cinio;
Clwb gemau amser cinio;
Clwb sgiliau bywyd;
Clwb lles Torfaen;
Clwb pêl-rwyd.
A number of clubs have been provided for the pupils this term, including:
Choir;
Football club;
Well-being club during lunch time;
Games club during lunch time;
Life skills club;
Torfaen well-being club;
Netball club.
Digwyddiadau / Events:
Da iawn i bawb gyda'r cyngherddau Nadolig dros y pythefnos diwethaf. Perfformiodd pawb yn wych, ac rydyn ni mor falch o'r disgyblion i gyd am weithio mor galed yn yr ymarferion ac am berfformio mor wych ar y diwrnod. Da iawn i bawb.
Llangrannog:
Cafodd rhai o ddisgyblion blwyddyn 6 amser gwych yn Llangrannog ym mis Hydref. Roedd yn benwythnos hyfryd ac rydyn ni'n edrych ymlaen at daith blwyddyn nesaf yn barod!
Gwersi ffidil:
Mae plant dosbarth Miss Morris wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn gwers ffidil wythnosol gyda Miss Rich. Mae pawb wedi mwynhau'r gwersi yn fawr iawn.
Cerdd Torfaen:
Diolch, unwaith eto, i Mr Beecham am weithio mor galed gyda sawl dosbarth y tymor hwn. Mae pawb o'r feithrin i flwyddyn 4 wedi cael gwersi gyda Mr Beecham y tymor hwn. Bydd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 yn derbyn gwersi wythnosol yn y flwyddyn newydd.
Sioe Cadi'r Coblyn:
Mwynhaodd plant y Cyfnod Sylfaen sioe Nadolig wych am Cadi'r coblyn.
Well done to everyone with the Christmas concerts over the last two weeks. Everyone performed excellently, and we're so proud of the pupils for working so hard during the practices and for performing so well on the day. Well done to everyone.
Llangrannog:
Some year 6 pupils had an excellent time in Llangrannog in October. It was a lovely weekend and we're looking forward to next year's trip already.
Violin lessons:
Miss Morris' class children have been lucky enough to receive a weekly violin lesson with Miss Rich. Everyone has really enjoyed these lessons.
Cerdd Torfaen:
Thanks, once again, to Mr Beecham for working so hard with different classes this term. Everyone from the nursery to year 4 has received lessons with Mr Beecham this term. Year 5 and 6 pupils will be having weekly sessions in the new year.
Cadi'r Coblyn show:
The Foundation Phase children had an excellent Christmas show based on Cadi'r coblyn.
Elusen / Charity:
Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi gyda gwahanol elusennau y tymor hwn.
Ym mis Hydref, casglon ni fwyd ar gyfer y banc bwyd lleol gyda'n gwasanaeth diolchgarwch.
Ym mis Tachwedd, casglon ni £380 ar ddiwrnod Plant Mewn Angen.
Ym mis Rhagfyr, gwnaethon ni gasgliad arall ar gyfer y banc bwyd lleol, gyda chymaint o fwyd yn cael ei gyfrannu.
Diolch yn fawr i bawb.
Thanks to everyone who has supported us in collecting for different charities this term.
In October, a collection for the local food bank was made during our Harvest assembly.
In November, we raised £380 for Children In Need.
In December, another collection for the local food bank was made and we're very grateful for the amount of food donated.
Thanks so much to everyone.
Newyddion arall / Other news:
Codi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, 2027:
Diolch yn fawr i aelodau o'r côr sydd wedi gweithio'n galed y tymor hwn i godi arian ar gyfer yr Eisteddfod.
Canodd y côr yn hyfryd tu allan i Festive, gan godi £219 ar gyfer yr Eisteddfod.
Canon nhw'n hyfryd yng nghanol tref Cwmbrân nos Fawrth hefyd, gan ddod ag ysbryd yr wyl i siopwyr lleol. Mae hwn wedi ein galluogi i godi digon o arian i noddi un o dlysau yr Eisteddfod.
Cyngerdd Fferm Greenmeadow:
Perfformiodd y côr yn wych yng nghyngerdd 'Together at Christmas' yn Fferm Greenmeadow ar Ragfyr 11eg, a bydd rhannau o'r gyngerdd yn cael eu dangos ar noswyl Nadolig ar ITV.
Am dymor gwych i'r côr! Diolch i Mrs Roberts am ei holl waith caled.
Diolch yn fawr i bawb.
Raising money for the 2027 Urdd Eisteddfod:
Thanks so much to members of the choir who have worked hard this term to raise money for the Eisteddfod.
The choir sang beautifully outside Festive, raising £219 for the Eisteddfod.
They sang beautifully in Cwmbran town centre on Tuesday night too, bringing the festive spirit to local shoppers. This has enabled us to raise enough money to sponsor one of the Eisteddfod trophies.
Greenmeadow Farm Concert:
The choir performed brilliantly at the 'Together at Christmas' concert at Greenmeadow Farm on December 11th, and parts of the concert will be shown on Christmas Eve on ITV.
What a great term for the choir! Thanks to Mrs Roberts for all her hard work.
Thank you to everyone.
Gwaith y Cyngor Ysgol / The School Council's work:
Mae'r Cyngor Ysgol wedi bod yn brysur iawn yn ystod y tymor. Dyma rai o'r pethau maen nhw wedi eu gwneud:
Ymweliad gyda'r banc bwyd lleol a threfnu casgliad ar gyfer diolchgarwch;
Darllen mewn gwasanaeth Sul y Cofio yng Nghwmbrân;
Trefnu casgliad i'r banc bwyd ar gyfer diwrnod siwmperi Nadolig,
Trefnu gweithgareddau Plant mewn Angen, yn cynnwys cystadleuaeth liwio.
Diolch i bawb am yr holl waith caled.
The School Council has been busy during the term. Here are some of the things they've achieved:
A visit to the local food bank and organising a collection for harvest;
Reading in a Remembrance Service in Cwmbran;
Organising a collection for the local food bank for our Christmas jumper day.
Organising activities for Children In Need, including a colouring competition.
Thanks to all the members for their hard work.
Gwaith gyda'r gymuned leol / Work with the local community:
Mae wedi bod yn hyfryd croesawu gwahanol bobl mewn i'r ysgol yn ystod y tymor ac mae wedi bod yn hyfryd mynd mas i'r gymuned leol i wneud pethau gwahanol.
Rydym wedi cefnogi'r banc bwyd lleol ddwywaith yn ystod y tymor hwn ac mae'r cyfraniadau wedi bod yn wych felly diolch yn fawr iawn i bawb.
Roedd yn hyfryd croesawu teuluoedd y Cyfnod Sylfaen mewn i'r ysgol ar gyfer bore coffi a chyfle i weld sut rydym yn addysgu iaith a TGCh yn yr ysgol.
Roeddem wedi cynnal stondin yn ffair Byddin yr Iachawdwriaeth yn ystod yr wythnosau diwethaf ac roedd yn hyfryd gallu rhannu gwybodaeth am yr ysgol gyda'r gymuned leol.
Gan mai 'Cyfrifoldebau' oedd cysyniad yr ysgol gyfan y tymor hwn, roedd yn hyfryd gwahodd gwahanol bobl mewn i siarad gyda'r ysgol gyfan e.e. heddlu lleol a diffoddwyr tân o'r orsaf dân leol.
Roedd hefyd yn arbennig i ymweld gyda'r gofeb ryfel leol ar gyfer Dydd y Cofio.
It has been wonderful to welcome different people into the school during the term and it has been wonderful to go out into the local community.
We have supported the local food bank twice this term and the contributions have been fantastic so thank you very much to everyone.
It was wonderful to welcome the Foundation Phase families into the school for a coffee morning and an opportunity to see how we teach language and ICT in the school.
We held a stall at the Salvation Army fair in recent weeks and it was great to be able to share information about the school with the local community.
As the whole school's concept was 'Responsibilities' this term, it was a pleasure to invite different people in to talk to the whole school e.g. local police and firefighters.
It was also special to visit the local war memorial for Remembrance Day.
Gwaith y Gymdeithas Rieni / The PTA's work:
Diolch yn fawr iawn i holl aelodau'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon am eu holl waith yn ystod y tymor hwn.
Maent wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau, ac wedi gwneud llawer o arian i'r ysgol drwy'r digwyddiadau hyn.
Hyd yn hyn, maent wedi casglu:
Disgo Calan Gaeaf - £315
Dwy noson ffilm - £265
Ffair Nadolig - £309.90
Mae peth o'r arian hynny wedi mynd tuag at dalu am gynnyrch y dosbarthiadau yn y ffair, ac mae'r dosbarthiadau wedi cadw unrhyw elw maent wedi'i wneud o'r ffair Nadolig er mwyn prynu adnoddau i'r dosbarth.
Bydd £300 o'r arian hwn yn mynd tuag at brynu clustffonau i bob dosbarth.
Thank you so much to the PTA members for all their hard work this term.
They have organised a number of activities, and have raised a money for the school through these activities.
To date, they have raised the following:
Halloween disco - £315
Two film nights - £265
Christmas fayre - £309.90
Some of that money has gone towards making produce for the Christmas fayre, and the classes have kept any profit they made on the night to buy resources for the class.
£300 will be going towards buying headphones for each class.
Ail-gylchu esgidiau pêl-droed a rygbi / Recycling old rugby and football boots:
Neges atgoffa:
Rydyn ni'n casglu unrhyw hen esgidiau pêl-droed / rygbi ayyb ar gyfer ymgyrch 'Football reebooted'. Os oes unrhyw rhai sbâr gyda chi adref nad ydych yn eu defnyddio bellach, danfonwch nhw mewn unrhyw bryd!
Diolch yn fawr.
Reminder:
We're collecting old football / rugby boots for the 'Football reebooted' campaign. If you have any old football or rugby boots at home, please send them in anytime.
Diolch yn fawr.
Dyddiadau pwysig / Important dates:
Diwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd sydd ar ôl.
*Does dim ysgol i'r disgyblion ar y diwrnodau hyn.
Ionawr 5ed;
Chwefror 23ain;
Mehefin 1af;
Gorffennaf 20fed.
Remaining Staff Training Days:
*There is no school for these pupils on these days.
January 5th;
February 23rd;
June 1st;
July 20th.
Mwynhewch y gwyliau ac fe welwn ni chi gyd ar ddydd Mawrth, Ionawr 6ed.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!
Enjoy the holiday and we'll see you all on Tuesday, January 6th.
Merry Christmas and a Happy New Year!