Mae'r tymor hwn wedi bod yn un prysur iawn, gyda llawer o bethau yn digwydd yn y dosbarthiadau a thu hwnt iddynt. Isod ceir amlinelliad o rai o'r pethau sydd wedi bod yn digwydd dros yr wythnosau diwethaf.
This term has been very busy, with many different things happening both in and out of the classes. Below are some of the things that have been happening over the last few weeks.
Clybiau ar ôl ysgol / After school clubs:
Mae nifer fawr o glybiau wedi cael eu darparu ar gyfer y disgyblion y tymor hwn, yn cynnwys:
Côr;
Clwb rygbi;
Sesiynau coginio i'r teulu;
Clwb sgiliau bywyd;
Clwb celf i'r teulu;
Clwb Lles Torfaen;
Clwb aml-chwaraeon yr Urdd.
A number of clubs have been provided for the pupils this term, including:
Choir;
Rugby club;
Cooking club for the family;
Life skills club;
Arts and crafts club for the family;
Torfaen well-being club;
Urdd multi-sports club.
Tripiau / Trips:
Aeth disgyblion blynyddoedd 3 a 4 i Theatr Glan yr Afon er mwyn gwylio perfformiad o Culhwch ac Olwen.
Pupils in years 3 a 4 went to the Riverfront Theatre to watch a performance of 'Culhwch ac Olwen.'
Elusen / Charity:
Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi gyda gwahanol elusennau y tymor hwn.
Ym mis Hydref, casglon ni fwyd ar gyfer y banc bwyd lleol gyda'n gwasanaeth diolchgarwch.
Ym mis Hydref, casglon ni £435 ar ddiwrnod Plant Mewn Angen.
Ym mis Rhagfyr, gwnaethon ni gasgliad arall ar gyfer y banc bwyd lleol, gyda chymaint o nwyddau ymolchi a bwyd yn cael eu danfon ymlaen.
Diolch yn fawr i bawb.
Thanks to everyone who has supported us with different charities this term.
In October, we made a collection for the local food bank with our Harvest assembly.
In November, we raised £435 for Children In Need.
In December, we made another collection for the local food bank, with so many toiletries and food being sent on to help others.
Thanks so much to everyone.
Newyddion arall / Other news:
Carol yr ŵyl:
Llongyfarchiadau mawr i bawb gymerodd ran yng nghystadleuaeth 'Carol yr ŵyl'. Roedd yn hyfryd gweld y disgyblion yn canu ar raglen 'Prynhawn Da' a, thrwy gydol y broses, roedd bob un yn wych. Rydyn ni mor falch ohonynt i gyd.
Diolch yn FAWR i Mr Beecham am yr holl waith gyda cherdd yn yr ysgol y tymor hwn, a diolch mawr iddo am ei holl help a chymorth gyda Charol yr ŵyl.
Diolch hefyd i Mrs Roberts am weithio mor galed gyda'r côr yn yr ymarferion i gyd.
Cofiwch wylio rhaglen arbennig 'Carol yr ŵyl' ar S4C heno (Rhagfyr 20fed) am 8 o'r gloch.
Pob lwc i bawb!
S4C's Christmas Carol competition:
Congratulations to everyone who took part in the 'Carol yr ŵyl' competition. It was lovely seeing the pupils singing on the 'Prynhawn Da' programme and, throughout the process, the pupils have all been excellent. We're so proud of them all.
Thank you SO much to Mr Beecham for all his hard work with music in the school this term, and a big thank you to him for all his help and support with the 'Carol yr ŵyl' competition.
Thanks also to Mrs Roberts for all her hard work with the choir in the practices.
Remember to watch the special programme on 'Carol yr ŵyl' on S4C tonight (December 20th) at 8pm.
Good luck to everyone!
Sioe Mabinogi:
Fel rhan o'n gwaith thema ar gynefin, mwynhaodd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 sioe gan Mewn Cymeriad ar y Mabinogi.
Mabinogi show:
As part of our theme work on 'Cynefin', year 5 and 6 pupils enjoyed the 'Mewn Cymeriad' show on the Mabinogi.
Fel rhan o'r gwaith thema, daeth 'Animals Interactive' mewn i gynnal gweithdai ar gynefinoedd yr ardael leol gyda phlant y Cyfnod Sylfaen.
As part of our theme work, 'Animals Interactive' came in to hold workshops on animals and their habitats with children in the Foundation Phase.
Ar ôl perfformio eu sioe Nadolig, cafodd plant y Cyfnod Sylfaen fod yn gynulleidfa ar gyfer sioe o'r enw 'Corn yn Galw'.
After performing their Christmas show, children from the Foundation Phase were an audience for a show called 'Corn yn Galw'.
Gwaith y Cyngor Ysgol / The School Council's work:
Mae'r Cyngor Ysgol wedi bod yn brysur iawn yn ystod y tymor. Dyma rai o'r pethau maen nhw wedi eu gwneud yn ystod y tymor:
Cyfarfodydd amrywiol;
Ymweliad gyda Zero Waste Torfaen;
Ymweliad gyda'r banc bwyd lleol;
Trefnu dau gasgliad i'r banc bwyd lleol,
Trefnu gweithgareddau Plant mewn Angen.
Diolch i bawb am yr holl waith caled.
The School Council has been busy during the term. Here are some of the things they've been busy doing during the term:
Different meetings;
A visit with Zero Waste Torfaen;
A visit with the local food bank;
Two collections for the local food bank;
Organising activities for Children In Need.
Thanks to all the members for their hard work.
Gwaith gyda'r gymuned leol / Work with the local community:
Mae wedi bod yn hyfryd croesawu gwahanol bobl mewn i'r ysgol yn ystod y tymor ac mae wedi bod yn hyfryd mynd mas i'r gymuned leol i wneud pethau gwahanol.
Mae Cyngor yr Ysgol wedi ymweld â'r banc bwyd lleol ac wedi bod i siop 'Zero Waste Torfaen', sy'n gwneud gwaith gwych yn y gymuned i leihau defnydd o blastig.
Mae Jen o 'Coginio gyda'n gilydd, Cymru' wedi cynnal gweithdai teuluol i'r gwahanol flynyddoedd ac roedd yn hyfryd gweld cymaint o deuluoedd yn cymryd rhan ar ôl ysgol ar nos Lun.
Bob prynhawn dydd Mercher, mae rhieni a rhieni-cu rhai o'n disgyblion wedi bod mewn yn gwneud gweithdai garddio gyda'r disgyblion cc mae'r ardaloedd tu allan yn edrych cymaint yn well erbyn hyn, felly diolch yn fawr i bob un.
Bob nos Fawrth, rhwng 4 a 5, mae Miss Kirkby a Miss Williams wedi bod yn cynnal sesiynau celf i'r teulu ac roedd yn hyfryd gweld cymaint o deuluoedd ynghlwm â'r prosiect hwn.
The School Council has visited the local food bank and they’ve been to the 'Zero Waste Torfaen' shop, which does great work in the community to reduce the use of plastic.
Jen from 'Cooking together, Wales' has held family workshops for the different year groups and it was lovely to see so many families taking part after school on Monday evenings.
Every Wednesday afternoon, the parents and grandparents of some of our pupils have been leading gardening workshops with the pupils and the outside areas are looking so much better now, so a big thank you to everyone.
Every Tuesday evening, between 4 and 5, Miss Kirkby and Miss Williams have been holding art sessions for the family and it has been lovely to see so many families involved in this project.
Clybiau yn y flwyddyn newydd / Clubs in the new year:
Neges atgoffa - Clwb pêl-rwyd yr Urdd:
Ym mis Ionawr, bydd yr Urdd yn dechrau clwb pêl-rwyd cymunedol ar gyfer plant yn y derbyn, blwyddyn 1 a blwyddyn 2.
Bydd y clwb yn digwydd yn ein hysgol ni ar nos Fercher.
4:30-5:15.
I gofrestru eich plentyn ar gyfer y clwb, ewch i:
https://gweithgareddau.urdd.cymru/
Reminder - Urdd netball club:
In January, the Urdd is starting a community netball club for children in reception, year 1 and year 2.
The club will take place in our school on a Wednesday night.
4:30-5:15.
To register your child for the club, go to:
https://gweithgareddau.urdd.cymru/
Diolch yn fawr.
Clwb aml-chwaraeon yr Urdd:
Bydd yr Urdd yn ail ddechrau’r clwb aml-chwaraeon ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 3-6 ym mis Ionawr.
Bob nos Fercher
3:30-4:30
I gofrestru eich plentyn ar gyfer y clwb, ewch i:
https://gweithgareddau.urdd.cymru/
Urdd multi-sports club:
In January, the Urdd will be continuing with the multi-sports club for pupils in years 3 to 6.
Wednesday night.
3:30-4:30
To register your child for the club, go to:
https://gweithgareddau.urdd.cymru/
Diolch yn fawr.
Gwaith y Gymdeithas Rieni / The PTA's work:
Diolch yn fawr iawn i holl aelodau'r Gymdeithas Rieni ac Athrawon am eu holl waith yn ystod y tymor hwn.
Maent wedi trefnu disgo Calan Gaeaf, dwy noson ffilm, a'r ffair Nadolig. Diolch yn fawr i bawb am eu hamser a'u gwaith caled gyda phob digwyddiad.
Thank you so much to the PTA members for all their hard work this term.
They've organised a Halloween disco, two film nights and the Christmas fayre. Thanks so much to everyone for their time and their hard work with every event.
Ail-gylchu esgidiau pêl-droed a rygbi / Recycling old rugby and football boots:
Neges atgoffa:
Rydyn ni'n casglu unrhyw hen esgidiau pêl-droed / rygbi ayyb ar gyfer ymgyrch 'Football reebooted'. Os oes unrhyw rhai sbâr gyda chi adref nad ydych yn eu defnyddio bellach, danfonwch nhw mewn unrhyw bryd! Diolch yn fawr.
Reminder:
We're collecting old football / rugby boots for the 'Football reebooted' campaign. If you have any old football or rugby boots at home, please send them in anytime.
Diolch yn fawr.
Dyddiadau pwysig / Important dates:
Dyddiadau gwyliau ar gyfer gweddill y flwyddyn:
Holiday dates for the rest of the year:
Mwynhewch y gwyliau ac fe welwn ni chi gyd ar ddydd Mawrth, Ionawr 7fed.
Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!
Enjoy the holiday and we'll see you all on Tuesday, January 7th.
Merry Christmas and a Happy New Year!