T.Llew Jones
T.Llew Jones
Dyma gyfres o syniadau, tasgau parod a dolenni defnyddiol ar gyfer eu defnyddio i ddathlu diwrnod T. Llew Jones sydd yn cael ei gynnal ar yr 11eg o fis Hydref.
Here are a series of ideas , ready made tasks and useful links which can be used to celebrate T. Llew Jones’ Day , which is held on the 11th of October.
Dathlu Diwrnod T.Llew Jones 2025
Hoffwn eich gwahodd i gymryd rhan mewn prosiect creadigol arbennig i ddathlu Diwrnod T. Llew Jones 2025. Rydym yn bwriadu creu stori gadwyn ar y cyd rhwng dosbarthiadau blynyddoedd 5 6 ysgolion Ceredigion (* byddai’r weithgaredd yn addas i’w wneud gyda dosbarthiadau cymysg bl 3 i 6 hefyd) yn ystod yr wythnos sy’n arwain i fyny at Ddiwrnod T.Llew Jones ar yr 11eg o fis Hydref. Bydd pob ysgol yn cyfrannu paragraff i ddatblygu stori wedi’i hysbrydoli gan y gerdd ‘Yr Hen Dŷ Gwag’ gan T. Llew Jones. Bydd y prosiect yn gyfle i annog ysgrifennu creadigol ac i gydweithio a chyfathrebu yn ddigidol rhwng ysgolion. I ddechrau bydd yr ysgol yn cyfathrebu mewn galwad fideo Teams gyda’r ysgol sydd wedi ysgrifennu y paragraff blaenorol. Yna bydd y dosbarth yn mynd ati i ysgrifennu’r paragraff nesaf cyn ei rannu gyda’r ysgol fydd yn ysgrifennu y paragraff nesaf, mewn galwad fideo Teams.
Os oes gennych ddiddordeb i gymryd rhan yn y prosiect bydd angen cwblhau yr holiadur byr canlynol erbyn y 26ain o fis Medi. Wedi i chi gofrestru diddordeb byddwn yn anfon rhagor o fanylion am y broses, amserlen a sut i gyfrannu paragraff eich dosbarth. Os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi gysylltu gyda eryl.jones@ceredigion.gov.uk. Edrychwn ymlaen at glywed gennych!
Sesiynau Dysgu Byw / Live Lessons
Dyma recordiad o sesiwn dysgu byw cafodd ei gynnal ym mis Hydref 2024.
Here is a recording of the learn live session that was held in October 2024.
Cyfres o adnoddau cyffredinol yn ymwneud â bywyd a gwaithT. Llew Jones.
A series of general resources about the life and work of T.Llew Jones.
Cyfres o weithgareddau ac addnoddau yn ymwneud â rhai o gerddi enwocaf T. Llew Jones.
A series of activities and resources for pupils about some of T. Llew. Jones' most famous poems.
Cyfres o weithgareddau yn ymwneud â rhai o lyfrau enwocaf T. Llew Jones.
A series of activities for pupils about some of T. Llew. Jones' most famous books.