Cenhadaeth Ysgol Morgan Llwyd
Cenhadaeth Ysgol Morgan Llwyd
Mae Ysgol Morgan Llwyd yn gymuned falch, groesawgar sy’n angerddol dros allu pob unigolyn i gyflawni ei botensial a’i uchelgais, ac i ddatblygu i fod yn aelod hapus, hyderus, annibynnol a chyfrifol o’i gymdeithas.
Yma, mae pob unigolyn yn cyfrif. Dathlwn fod pob unigolyn yn unigryw a bod pawb yn cael eu hannog i ffynnu’n academaidd, yn greadigol ac yn bersonol mewn awyrgylch Cymraeg clòs, gofalgar a chefnogol. Does neb yn cael ei adael ar ôl.
“Ym mhob llafur mae elw”. Ym Morgan Llwyd, cydweithiwn tuag at, a chyd-ddathlwn, ragoriaeth a llwyddiannau pob aelod o’n cymuned.
Mae'r Hwb Dysgu/Addysgu yn cefnogi cenhadaeth
Ysgol Morgan Llwyd.
EISIAU CYSYLLTU GYDA NI?
Anfonwch neges ebost at bocspost@ysgolmorganllwyd.wrexham.sch.uk