Digwyddiadau Critigol ac Argyfyngau mewn Ysgolion
Mae gan yr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant ei Phrotocol Digwyddiad Critigol ei hun i gefnogi unrhyw ysgol mewn achos o argyfwng. Pan fydd digwyddiadau annisgwyl a difrifol yn codi, dylai'r pennaeth neu'r uwch arweinydd priodol arfarnu'r sefyllfa yn gyntaf ac asesu a yw'n ddigon difrifol bod angen cymorth yr Awdurdod Lleol arnynt. Os oes unrhyw amheuaeth, yr ateb i'r cwestiwn hwn bob amser ddylai fod yn YDY.
Mewn achos o argyfwng sy'n effeithio ar yr ysgol, dylai'r pennaeth neu'r person dynodedig, cyn gynted â phosibl, anfon e-bost at y cyfeiriad pwrpasol: argyfwngysgol@sirgar.gov.uk a chynnwys y geiriau ARGYFWNG YSGOL (Enw'r Ysgol) ym mlwch pwnc yr e-bost.
Yn yr e-bost, rhowch ddisgrifiad byr iawn o'r argyfwng ac os yn bosib, cynnwys enw cyswllt a rhif ffôn. Bydd yr e-bost hwn o'r ysgol yn rhaeadru i'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, Penaethiaid Gwasanaeth AGP, Cymorth Busnes AGP (Tîm CPD), Tîm Marchnata a'r Cyfryngau CSG, a Delta Wellbeing, a fydd yn cydlynu'r ymateb cychwynnol y tu allan i oriau ysgol (o ddydd Llun i ddydd Gwener, 4pm i 9am yn ystod y tymor ac ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol). Bydd yr ysgol yn derbyn ymateb ar unwaith gan uwch swyddog o'r Adran a fydd yn trafod y digwyddiad ac os oes angen, yn cychwyn Protocol Digwyddiad Critigol yr Adran yn syth.
Yn ystod oriau swyddfa, ac ar gyfer materion llai difrifol a allai fod angen cyngor yn unig, gall ysgolion hefyd anfon e-bost neu ffonio'r adran: questionECS@carmarthenshire.gov.uk neu 01267 246524.
Cynllunio Rheoli Digwyddiadau Tyngedfennol ar gyfer ysgolion - Canllawiau i Arweinwyr