Mae prydau ysgol am ddim (PYD) ar gyfer disgyblion uwchradd yn dibynnu ar incwm eich aelwyd ac a ydych yn derbyn budd-daliadau penodol. Os ydych yn cwrdd â’r meini prawf cymhwystra, mae’n bwysig iawn eich bod yn hawlio am hyn. Ni fydd y pryd y mae eich plentyn yn ei dderbyn yn wahanol o gwbl a gall olygu eich bod yn gymwys i dderbyn unrhyw gymorth sydd ar gael yn ystod gwyliau ysgol neu os bydd yr ysgol yn gorfod cau.
Cymorth Incwm
Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm
Cefnogaeth o dan Ran VI o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1999
Credyd Treth Plant (cyn belled nad ydych hefyd yn derbyn Credyd Treth Gwaith a bod gennych incwm blynyddol o ddim mwy na £16,190 cyn talu treth)
Elfen Warantedig y Credyd Pensiwn
Credyd Treth Gwaith estynedig – y swm a delir i chi am 4 wythnos pan fyddwch yn gorffen bod yn gymwys ar gyfer Credyd Treth Gwaith
Credyd Cynhwysol – rhaid i’r aelwyd ennill incwm o ddim mwy na £7,400 y flwyddyn ar ôl treth. Nid yw hyn yn cynnwys yr incwm rydych chi’n ei dderbyn drwy fudd-daliadau.
Gallwch wneud cais am brydau ysgol am ddim gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein:
Gwneud cais am brydau ysgol am ddim - bydd y ddolen yn agor tab newydd
Mae mwy o wybodaeth i'w gael yn Prydau ysgol (llyw.cymru)
A free school meal (FSM) for pupils in the secondary sector depends on your household income and if you receive certain benefits. If you meet the eligibility criteria it is extremely important that you claim for this. The meal your child receives will be no different and it could mean you are eligible to receive any support available during school holidays or in the event of school closures.
Your child may be able to get free school meals if you get any of the following:
Income Support
Income-based Jobseeker’s Allowance
Income-related Employment and Support Allowance
Support under Part VI of the Immigration and Asylum Act 1999
Child Tax Credit (as long as you don't also get Working Tax Credit and your annual income is £16,190 or less before tax)
The guaranteed element of Pension Credit
Working Tax Credit run-on - paid for 4 weeks after you stop qualifying for Working Tax Credit
Universal Credit - your household earnings must be less than £7,400 a year after tax. This does not include any income from benefits
You can apply for free school meals using our online form.
Apply for free school meals - link opens in the current tab
More information can be found at School meals (gov.wales)