Cliciwch ar y fideo i wrando ar y gerdd.
Dyma cyfres o gwestiynau am gynnwys y gerdd ac hefyd cyfle i'r disgyblion fynegi barn amdano.
Fersiwn arall o'r weithgaredd.
Dychmygwch fod Urdd Gobaith Cymru yn agor Gwersyll newydd tanddwr yng Nghantre'r Gwaelod. Mae'r gweithgareddau canlynol yn ymwneud â sut le fyddai yn y Gwersyll yma , cyflwyno chwedl Cantre'r Gwaelod ac am effaith newid yn yr hinsawdd ar glan môr.
Gall y disgyblion ddangos sut le maent yn meddwl fydd y Gwersyll Urdd Cantre'r Gwaelod gan ddefnyddio Minecraft Education Edition. Gallent gynllunio yn gyntaf ar bapur cyn mynd ati i'w greu. Mae byd tanddwr parod i'w gael yn Minecraft - gwyliwch y fideo i sut gall y disgyblion gael mynediad iddo.
Mae'r fideo yn dangos sut gall y disgyblion ddefnyddio Outlook ar Hwb i ddanfon e-bost i'w athro i sôn am ei gwyliau yng Ngwersyll yr Urdd Cantre'r Gwaelod. Dyma daflen cofnodi ar gyfer yr un weithgaredd ond y tro hyn ar ffurf cerdyn bost.
Dyma fideo sy'n cyflwyno chwedl Cantre'r Gwaelod ar ffurf cartŵn syml.
Gwefan sy'n cynnwys gwybodaeth am chwedlau o bob cwr o Gymru gan gynnwys Cantre'r Gwaelod.
Gwefan ddefnyddiol gan y BBC sy'n cynnwys gwybodaeth a fideo sy'n esbonio sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar glan môr.
Cyfres o weithgareddau ieithyddol yn seiliedig ar ddŵr a llifogydd.
Mae'r fideo yn cyflwyno gweithgaredd i ddefnyddio Excel i gyfrifo cyfartaledd tymheredd 4 dinas yn y Deyrnas Unedig o 2015 i 2020 (i weld os ydy newid hinsawdd yn effeithio arnynt). Diolch i Brifysgol Reading am y data.
Taflen dewisol sy'n rhoi cyfle i'r disgyblion ddadansoddi y data cyfartaledd tymheredd 4 dinas yn y Deyrnas Unedig o 2015 i 2020. DATA YN UNIG