Bydd disgyblion yn astudio'r pynciau craidd statudol yma dros blwyddyn 10 ac 11:
Cymraeg (Iaith)
Cymraeg (Llenyddiaeth)
Saesneg (Iaith)
Saesneg (Llenyddiaeth)
Mathemateg
Mathemateg (Rhifedd)
Gwyddoniaeth Dwbl
Bagloriaeth Cymru
Yn ogystal â'r pynciau craidd bydd disgyblion bl.10 yn dilyn un cwrs L1/2 (o golofn A) fydd yn cael ei gwblhau mewn blwyddyn. Bydd disgyblion yn treulio 10 awr y pythefnos yn ei astudio ac ar ddiwedd y flwyddyn byddant yn derbyn cymhwyster yn y pwnc.
Ar ben hyn bydd disgyblion hefyd yn dilyn dau gwrs opsiynol arall dros ddwy flynedd dros ddwy flynedd. Bydd disgyblion yn treulio 5 awr y bythefnos yn ei astudio ac ar ddiwedd blwyddyn 11 byddant yn derbyn cymwysterau yn y pynciau yma.
Mae nifer o gyrsiau gwahanol ar gael, rhai ohonynt yn gymwysterau TGAU traddodiadol a rhai yn gyrsiau galwedigaethol L1/2 (sy'n gywerth â TGAU). Isod mae linc i'r llyfryn gwybodaeth sy'n rhoi rhagor o wybodaeth i chi am y broses a'r pynciau. Gwelwch hefyd y fideos gwybodaeth ar gyfer pob pwnc.
Mae eich plentyn eisoes wedi rhoi syniad i ni o'r pynciau yr hoffent eu hastudio ym mis Medi, fodd bynnag, rhaid gwneud penderfyniad terfynol yn awr ar ba bynciau yr hoffent eu dilyn ym mhob un o'r grwpiau opsiwn.
Bydd angen i chi lenwi'r ffurflen dewisiadau erbyn 10/02/2022. Dilynwch y linc isod i fynd ati.
Os hoffech ragor o wybodaeth, neu sgwrs bellach, cysylltwch â Mr Ben Williamson: WilliamsonB6@hwbcymru.net
Gallwch hefyd gysylltu yn uniongyrchol gyda chynghorydd gyrfaoedd yr ysgol, Bobbie Rees ar ebost: bobbie.rees@gyrfacymru.llyw.cymru
Chwaraeon ac Egwyddorion Hyfforddi
Creadigol a'r Cyfryngau
Dysgu Gorau, Dysgu Byw
Ffotograffiaeth
Gwasanaethau Cyhoeddus
Lletygarwch ac Arlwyo
Peirianneg
Sbaeneg
Technoleg Ddigidol