Newyddion y Gwanwyn

Spring News

Mae wedi bod yn dymor prysur iawn yn yr ysgol. Dyma rai o’r pethau sydd wedi bod yn digwydd dros yr wythnosau diwethaf:

It has been a very busy term in school. Here are some of the things that have been happening over the past few weeks:

Chwaraeon / Sport: 

Mae nifer o dimoedd gwahanol wedi bod yn brysur yn ystod y tymor. 

Aeth tîm rygbi i Fedwas ddoe (21.3.2024) ar gyfer cystadleuaeth rygbi'r Urdd. Chwaraeodd y tîm yn wych. 

Mae'r tîm pêl-rwyd wedi mwynhau cymryd rhan mewn gem gyfeillgar yn erbyn Nant Celyn ar ôl ysgol a mwynhaon nhw gymryd rhan mewn gŵyl bêl rwyd a drefnwyd gan Dorfaen, gan ddod yn bedwerydd. 

Aeth dau dîm pêl-droed i gystadleuaeth yr Urdd ym mis Chwefror a chwaraeodd y ddau dîm yn dda iawn.

Aeth tîm pêl-droed merched i gystadleuaeth yr Urdd ym mis Chwefror. Da iawn i'r chwaraewyr i gyd.

Mae wedi bod yn hyfryd gweld nifer fawr o ddisgyblion yn aros i'n clybiau ar ôl ysgol ac yn cynrychioli'r ysgol yn ystod y tymor.

Mae'r ysgol wedi buddsoddi mewn cit newydd ac rydym hefyd wedi bod yn lwcus iawn i dderbyn cit am ddim i'n tîm merched gan gymunedau 'Premier League' felly diolch yn fawr iddyn nhw.

A number of different teams have been busy during the term. 

A rugby team went to Bedwas yesterday (21.3.2024) to take part in the Urdd's rugby competition. The team played excellently.

The netball team have enjoyed a friendly game after school against Nant Celyn and they also enjoyed taking part in Torfaen's Netball Festival, coming fourth overall. 

Two football teams went to the Urdd's competition in February and both teams played very well.

A girls' football team took part in an Urdd competition in February. Well done to all the players. 

It has been lovely seeing a large number of pupils staying for different afterschool clubs and representing the school this term. 

We've invested in a new kit and we've also been very fortunate to receive a free kit for our girls' team from Premier League Communities so a big thank you to them. 

Thema / Theme work:

Ein cysyniad ar gyfer y tymor hwn, ar draws yr ysgol, oedd 'Dewrder'. Mae'r disgyblion wedi mwynhau dysgu am bobl ddewr o'n cwmpas, o arwyr ein cymunedau lleol i archarwyr ac i bobl ddewr yn hanes Cymru megis Betty Campbell, Betsi Cadwaladr, Aneurin Bevan a llawer mwy. 

Ein cysyniad ar gyfer y tymor nesaf fydd 'Newidiadau'. Bydd mwy o fanylion yn dilyn am ein cysyniad ar ôl y gwyliau. 

Our concept for the term, across the school, was 'Bravery'. The pupils have enjoyed learning about brave people around us, from the heroes in our local communities to super heroes and to brave people in Wales' history like Betty Campbell, Betsi Cadwaladr and Aneurin Bevan.

The concept for the next term is 'Changes'. More details will follow about our new concept after the holiday.

Profiadau / Experiences:

Sioe Mewn Cymeriad:

I gyd-fynd gyda'n gwaith thema, mwynhaodd disgyblion blynyddoedd 5 a 6 ddrama yn seiliedig ar frenhines ddewr o gyfnod y Rhufeiniad, sef Buddug.

Gwersi cerddoriaeth:

Rydym wedi bod mor, mor lwcus y tymor hwn, gyda chymaint o wersi cerddorol yn digwydd ar draws yr ysgol.

Mae Mr Beecham wedi bod yn brysur iawn yn dysgu cerdd yn ystod y tymor, yn dysgu pawb o blant y feithrin i ddisgyblion blwyddyn 6. Diolch iddo am ei holl waith caled gyda'r disgyblion i gyd ac wrth hyfforddi gwahanol unigolion a grwpiau ar gyfer yr Eisteddfod.

Mae disgyblion blwyddyn 3 wedi mwynhau gwersi ukulele gyda Cherddoriaeth Gwent yn ystod y tymor.

Mae plant blwyddyn 2, dosbarth Mr Arlotte, wedi bod yn derbyn gwersi ffidil wythnosol, eto gyda Cherddoriaeth Gwent.

In Character show:

To coincide with our theme work, year 5 and 6 pupils enjoyed a performance based on a brave queen from the Roman period, Buddug.

Music lessons:

We've been so, so lucky this term, with so many music lessons taking place across the school. 

Mr Beecham has been very busy teaching music during the term, teaching everyone from the nursery children to year 6 pupils. Thanks so much to him for all his work with the pupils and whilst getting different pupils and groups ready for the Eisteddfod. 

Year 3 pupils have enjoyed ukulele lessons with Gwent Music for the last term.

Year 2 children from Mr Arlotte's class have received weekly violin lessons, again with Gwent Music.

Elusennau / Charities:

Rydym wedi cefnogi nifer o elusennau eto y tymor hwn:

Diolch yn FAWR i bawb.

We have supported a number of charities again this term:

Red Nose Day - a contribution was made by year 6.

Year 6 café - £226 profit.

Sponsored challenge - £3415 towards the cost of trips and resources for our outdoor areas. 


Thanks SO MUCH to everyone.

Newyddion arall / Other news:

Diwrnod Agored:

Diolch i bawb ddaeth i'n diwrnod agored wythnos ddiwethaf. Daeth nifer fawr ohonoch chi i weld gwaith caled eich plant. Roedd yn hyfryd croesawu cymaint ohonoch trwy'n drysau.

Cofiwch bod cyfle gyda chi i gwrdd gydag athro eich plentyn ar nos Lun, Ebrill 15 neu nos Fawrth, Ebrill 16. (Gwelwch y ddolen ar Schoop)

Caffi i neiniau a theidiau:

Diolch i'r holl neiniau a theidiau ddaeth i fwynhau caffi arbennig plant blwyddyn 2 wythnos ddiwethaf. Mwynhaodd y plant weini a pherfformio i aelodau o'u teulu. 

Eisteddfod:

Da iawn i'r rheiny gymerodd ran yn yr Eisteddfod y tymor hwn. Gweithiodd y disgyblion mor galed ac rydym mor falch o'u perfformiadau i gyd. 

Open Day:

Thanks to everyone who came to our open day last week. Many of you came to see your children's hard work. It was lovely to welcome so many of you through our doors.

Reminder: There is an opportunity for you to meet with your child's teacher on Monday, April 15th or Tuesday, April 16th. (See the link on Schoop)

Café for grandparents:

Thanks to all the grandparents who came to enjoy year 2 children's special cafe last week. The children enjoyed serving and performing for members of their family.

Eisteddfod

Well done to those who took part in the Eisteddfod this term. The pupils worked so hard and we're extremely proud of their performances. 

Tripiau / Trips:

Mae nifer o'r disgyblion wedi mwynhau gwahanol dripiau yn ystod y tymor:

Blwyddyn 1 - Roedd plant blwyddyn 1 yn lwcus i gael taith i'r sinema am ddim, trwy Into Ffilm Cymru. 

Dosbarth T. Llew Jones - Cafodd rhai o ddisgyblion blwyddyn 3 gyfle i fynd ar daith am ddim i Techniquest. 

Dosbarth Betsi Cadwaladr - Mwynhaodd rhai o ddisgyblion blwyddyn 4 daith am ddim i'r Acwariwm ym Mryste.

Mae bawb ym mlynyddoedd 3 a 4 wedi bod ar daith i'r eglwys leol yn ystod y tymor hwn.

Cafodd disgyblion blwyddyn 4 daith lwyddiannus iawn i Gaerdydd yr wythnos hon. Diolch yn fawr i Mr Price am drefnu'r daith gyda'r Urdd.

Blwyddyn 5 - Mae disgyblion blwyddyn 5 yn edrych ymlaen at eu taith dros nos i Langorse ar Ebrill 25ain. 

Many pupils have enjoyed different trips during the term. 

Year 1 - Year 1 children were lucky to enjoy a trip to the cinema for free, through Into Film Cymru.

T. Llew Jones' class - Some year 3 pupils had the opportunity to go on a trip, for free, to Techniquest.

Betsi Cadwaladr's class - Some year 4 pupils enjoyed a free trip to the Aquarium in Bristol. 

All year 3 and 4 pupils have visited the local church as part of our R.E. work during the term. 

Year 4 pupils had a very successful trip to Cardiff this week. Thanks to Mr Price for organising the trip with the Urdd.

Year 5 - Year 5 pupils are looking forward to their overnight trip to Llangorse on April 25th. 

Dyddiadau i'w nodi / Dates for the diary:

Cofiwch bod yr holl ddyddiadau pwysig wedi eu nodi ar galendr yr ysgol: https://www.ysgolgymraegcwmbran.co.uk/cy/calendar.php 

Reminder: All important dates are noted on the school calendar:

https://www.ysgolgymraegcwmbran.co.uk/en/calendar.php 

Diwrnodau Hyfforddiant Mewn Swydd:

Dydd Llun, Ebrill 8fed

Dydd Llun, Mehefin 3ydd

Hanner Tymor: Mai 27-31

Staff Training Days:

Monday, April 8th

Monday, June 3rd

Half term: May 27-31

Gweithgareddau dros wyliau'r Pasg / Activities over the Easter holiday:

Trefniadau'r wythnos gyntaf ar ôl gwyliau'r Pasg / Arrangements for the first week after the Easter break:

Clybiau ar gyfer tymor yr haf / Clubs for the summer term:

Sylwer bod y clwb pêl-droed yn newid i glwb criced. / Please note that the football club is changing to a cricket club.

Mwynhewch y gwyliau ac fe welwn ni chi ar ddydd Mawrth, Ebrill 9fed. 

Enjoy the holiday and we'll see you on Tuesday, April 9th.

Diolch yn fawr! / Thank you!