Newyddion y Pasg

 Easter news

30.3.2023

Dewch i ddarllen am rai o'r pethau sydd wedi bod yn digwydd yn ystod y tymor diwethaf!

Come and read about some of the things that have been happening during the last term!

Gwersi cerddorol:

Mae nifer fawr o wersi cerddorol wedi eu cynnal yn ystod y tymor. 

Mae disgyblion o flynyddoedd 2 a 3 wedi bod yn derbyn gwersi recorder wythnosol gyda Cherdd Torfaen.

Mae plant blwyddyn 2 wedi bod yn derbyn gwers ffidil gyda Gwent Music ar fore dydd Gwener.

Mae blynyddoedd 5 a 6 wedi bod yn derbyn gwers ddrymio / ddawns wythnosol gyda Up Beat.

Rydym hefyd wedi cael sesiynau perfformio hyfryd gyda Eleri Darkins ar y delyn a Gwent Music.

Diolch yn fawr i bob un!

Music lessons:

During the term, a number of music lessons have been taking place.

Pupils from years 2 and 3 have been receiving a weekly recorder lesson with Torfaen Music.

Year 2 children have been receiving a weekly violin lesson with Gwent Music on a Friday morning.

Year 5 and 6 pupils have been receiving a weekly drumming / dance lesson with Up Beat.

We have also enjoyed lovely performances from Eleri Darkins on the harp and Gwent Music.

Thanks to them all!

Cefnogi elusennau / Supporting charities:

Rydym wedi cefnogi nifer o elusennau yn ystod y tymor. Mae'r rhain yn cynnwys: 

DEC Cymru - £355

Dydd y Trwynau Cochion - £224

Diolch yn fawr i bawb!

We have supported some charities during this term. 

These include:

DEC Cymru - £355

Comic Relief  -  £224

Thanks to everyone!

Llwyddiannau / Achievements: 

Rydym yn falch iawn o nifer fawr o bethau sydd wedi eu cyflawni yn ystod y tymor hwn. Isod, ceir rhai ohonynt:

We're very proud of a number of things that have been achieved during this term. Below are some of them:

Pêl-rwyd:

Llwyddodd y tîm pêl-rwyd i ennill gŵyl bêl-rwyd Torfaen wythnos ddiwethaf. Rydym mor, mor falch o ymdrechion yr holl dîm. Da iawn i chi gyd!

Netball:

The netball team won Torfaen's netball festival last week. We're so, so proud of the team's efforts. Well done to you all!

Y Siarter Iaith:

Gwobrwywyd yr ysgol gyda gwobr aur y Siarter Iaith wythnos ddiwethaf; yr ysgol gyntaf yn Nhorfaen i dderbyn y wobr! Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ar hyd y daith ond diolch yn arbennig i Miss Heledd Williams a'r criw Cymraeg am eu holl waith.

The Welsh Language Charter:

The school was awarded with the gold award for the Siarter Iaith last week; the first school in Torfaen to receive this award! Thanks to everyone who has supported us on our journey but a special thanks to Miss Heledd Williams and the Criw Cymraeg for all their hard work. 

Cystadlaethau pêl-droed a rygbi Nanteclyn

Nantcelyn football and rugby competitions:

Mae sawl tîm rygbi a phêl-droed wedi chwarae gemau yn Nant Celyn ar brynhawn dydd Gwener dros y tymor diwethaf. Mae wedi bod yn hyfryd gweld cymaint o ddisgyblion yn cymryd rhan. 

A number of rugby and football teams have played games in Nant Celyn on a Friday afternoon over the last term. It has been lovely seeing so many pupils taking part.

Llwyddiant yn yr Eisteddfod: 

Da iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr Eisteddfod Gylch a'r Eisteddfod Sir. Mae cymaint o amser ac ymdrech wedi mynd mewn i ddysgu'r geiriau, i ymarfer ac i berffeithio'r perfformiadau. Da iawn i bawb a llongyfarchiadau i'r parti deulais a'r grŵp llefaru sy'n mynd ymlaen i'r genedlaethol yn ystod gwyliau'r hanner tymor. 

Success in the Eisteddfod:

Well done to everyone who has taken part in the first two rounds of the Eisteddfod. A great deal of time and effort has gone into learning the words, to the practices and to perfecting the performances. Well done to everyone and congratulations to the two part singing group and the reciting group who are going on to the final round during the half term break.

Cyngerdd y côr yn Theatr y Congress:

Roedd hi'n hyfryd bod yn ôl yn Theatr y Congress ar gyfer cyngerdd flynyddol Cyngor Cwmbrân. Roedd y côr yn wych. Da iawn chi!

Choir concert in the Congress Theatre:

It was lovely being back in the Congress Theatre for Cwmbran Council's annual concert. The choir performed brilliantly. Da iawn!

Eco-bwyllgor / Eco-Committee:

Rydym wedi ein hailachredu gyda'r faner platinwm. Llongyfarchiadau mawr i bawb a diolch yn arbennig i'r eco-bwyllgor a Ms Newland-Jones a Mrs Young am eu holl waith. 

We have successfully renewed our platinum flag. Congratulations to everyone and a special thank you to the eco-committee and Ms Newland-Jones and Mrs Young for all their work. 

Newyddion arall / Other news:

Diwrnodau Agored / Open Days:

Roedd yn hyfryd croesawu ein teuluoedd mewn ar gyfer ein diwrnodau agored. Diolch yn fawr i bawb ddaeth i weld gwaith y disgyblion.

It was lovely welcoming our families in for our open days. Thanks to everyone who came in to see the pupils' work. 

Taith blwyddyn 4 i Gaerdydd / Year 4 trip to Cardiff:

Cafodd disgyblion blwyddyn 4 daith wych i Gaerdydd ddechrau'r mis. Roedd yn hyfryd gweld yr holl luniau ohonynt yn mwynhau'r daith.

Year 4 pupils had an excellent trip to Cardiff at the beginning of the month. It was lovely seeing all the photos of them enjoying the trip.

Gêm Celtic Dragons / Celtic Dragons game:

Aeth aelodau'r tîm pêl-rwyd i Gaerdydd i wylio gem y Celtic Dragons ddechrau'r wythnos. Roedd yn brofiad gwych, er gwaetha'r sgôr derfynol!

Members of the netball team went to Cardiff to watch the Celtic Dragons game at the beginning of the week. It was a great experience for them, even though the team lost by one goal!

Oriel Gelf / Art Exhibition: 

Roedd yn hyfryd gweld yr arddangosfa o waith celf ein disgyblion. Diolch i bawb ddaeth i weld a phrynu'r gwaith a diolch i'n tîm Celfyddydau Mynegiannol am eu holl waith trefnu. 

It was lovely to see the pupils' art work on display in the hall. Thanks to everyone who came and bought the work and thanks to our Expressive Arts team for their work with the organising. 

Diwrnodau ac wythnosau pwysig / Important days and weeks:

Rydym wedi dathlu nifer o ddiwrnodau ac wythnosau pwysig yn ystod y tymor, yn cynnwys y pethau canlynol:

Diwrnod y Llyfr / Dydd Gŵyl Dewi / Eisteddfod Ysgol / Wythnos Crefyddau'r Byd / Wythnos Wyddoniaeth / Diwrnod Defnyddio'r We yn fwy diogel / Wythnos Cerdded i'r ysgol

Diolch yn fawr i'r staff am eu holl waith caled yn paratoi tuag at y digwyddiadau hyn.

We've celebrated many important days and weeks during the term, including the events below:

World Book Day / St. David's Day / School Eisteddfod / World Religions Week / Science Week / Safer Internet Day / Walk to school week

Thanks to all the staff members for their hard work organising these events. 

Dyddiadau pwysig / Important dates: 

Dyma rai dyddiadau pwysig ar gyfer gweddill y flwyddyn:

Here are some important dates for the rest of the year:

Gŵyl y Banc

Bank holiday:

Mae dydd Llun, Mai 1af a dydd Llun, Mai 8fed yn ddiwrnodau gŵyl y banc felly fydd dim ysgol i'r disgyblion ar y diwrnodau hyn.

Monday, May 1st and Monday, May 8th are bank holidays so there will be no school for the pupils on these days.

Hanner Tymor

Half term:

Mae wythnos hanner tymor yn ystod yr wythnos Mai 29ain - Mehefin 2il. 

The half term break is during the week of May 29th - June 2nd. 

Hyfforddiant Staff

Staff Training:


Mae un diwrnod hyfforddiant staff gyda ni ar ôl yn ystod y flwyddyn academaidd hon sef dydd Llun, Mehefin 5ed. (Ar ôl yr hanner tymor.)

We have one staff training day left during this academic year which is Monday, June 5th. (After the half term break.)

Diwrnod ola'r flwyddyn

Last day of the year:

Byddwn yn gorffen ar gyfer gwyliau'r haf ar ddydd Gwener, Gorffennaf 21ain.

We will be finishing for the summer holiday on Friday, July 21st. 

Byddwn yn ail agor ar ôl y Pasg ar ddydd Llun, Ebrill 17. Mwynhewch y gwyliau!

The school will reopen after Easter on Monday, April 17th. Enjoy the Easter break!

Trefniadau'r wythnos gyntaf yn ôl

The arrangements for the first week back: 

Clybiau ar ôl y Pasg

Clubs after Easter: