Cylchlythyr Ysgol Gymraeg Dewi Sant

Ysgol Gymraeg Dewi Sant Newsletter

Croeso i gylchlythyr Ysgol Gymraeg Dewi Sant.

Welcome to Ysgol Gymraeg Dewi Sant Newsletter.

Croeso Nol / Welcome Back

Ar ddechrau’r hanner tymor, croesawyd Miss Gatt yn ôl i’r ysgol yn dilyn ei chyfnod mamolaeth. Hyfryd oedd clywed bod Miss Gatt wedi priodi ei phartner Matthew yn ystod yr hanner tymor ac y bydd bellach yn cael ei hadnabod fel Mrs Murphy. Bydd Mrs Murphy yn dysgu Blwyddyn 3 tan ddiwedd y tymor.

At the start of the half term, we welcomed Miss Gatt back to school following her maternity leave. It was a lovely surprise to hear that Miss Gatt had married her partner Matthew during the half-term break and will now be known as Mrs Murphy. Mrs Murphy will teach Year 3 until the end of the term.


Gwasanaeth Blwyddyn 1/Year 1 Assembly

Da iawn i Flwyddyn 1 ar eu gwasanaeth dosbarth. Ar yr 8fed o Fehefin, bu’r dosbarth yn cyflwyno gwasanaeth i'r ysgol gyfan a rhieni yn seiliedig ar y thema 'Arwyr' . Diolch yn fawr i bob un am ddysgu ei geiriau ac am berfformio'n hyderus ar y llwyfan - gwaith gwych!


Well done to Year 1 on their class assembly. On the 8th of June, the class presented an assembly to the whole school and Year 1 parents based on the theme 'Heroes'.  A big thank you to everyone for learning their words and for performing confidently on stage - great work!


Cit Pêl-droed Newydd / New Football Kit

Diolch enfawr i’r cwmnïau canlynol am noddi’r ysgol fel ein bod yn gallu buddsoddi mewn cit pêl-droed newydd sbon i’r ysgol. Bydd yr arian a dderbynnir hefyd yn galluogi'r ysgol i brynu cit rygbi a chit pêl-rwyd newydd. Rydym mor ddiolchgar iawn i bob cwmni a fu’n ddigon caredig i gyfrannu’r arian gan sicrhau pan fydd timau’r ysgol yn cystadlu mewn cystadlaethau eu bod yn gwisgo’r cit cywir. Diolch!


A huge thank you to the following companies for sponsoring the school so that we are able to invest in a brand new football kit for the school. The funds received will also enable the school to purchase a rugby kit and new netball kit.

We are so grateful to each company who were kind enough to donate the funds ensuring that when the school teams compete in competitions, that they are wearing the correct kit. Thank you! 

Technocapms

Ar y 6ed o Fehefin, ymwelodd Technocamps â’r ysgol i hwyluso gweithdy gyda disgyblion Blwyddyn 5. Diolch enfawr i Dan am weithio gyda’r disgyblion i ddatblygu eu sgiliau codio.

On the 6th of June, Technocamps visited the school to facilitate a workshop with Year 5 pupils. A huge thank you to Dan who worked with the pupils to develop their coding skills.

Diwrnod Pontio i Bawb / Transition Day for Everyone

Yn ystod wythnos y 26ain o Fehefin gwelwyd yr holl ddisgyblion yn cymryd rhan mewn Gweithgareddau Pontio. Ar y 27ain o Fehefin croesawyd ein disgyblion Derbyn a rhieni newydd i’r ysgol i gwrdd â staff ac i weld eu dosbarth newydd. Ar y 29ain o Fehefin aeth ein disgyblion meithrin newydd i sesiwn ‘Aros a Chwarae’ gyda’u rhieni lle cawsant cyfle i weld eu dosbarth newydd a chwrdd â staff y Meithrin.

Gwelsom hefyd ein disgyblion Blwyddyn 6 yn mynychu Ysgol Bro Morgannwg ar gyfer eu diwrnod pontio olaf lle cawsant eu gosod yn eu dosbarthiadau dosbarth newydd a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Yn olaf, ar y 29ain o Fehefin, treuliodd yr holl ddisgyblion o’r Meithrin i Flwyddyn 5 y diwrnod yn eu dosbarth newydd a chwrdd â’u hathro newydd. Cymerodd y disgyblion ran mewn gweithgareddau yn eu dosbarth newydd, treulio peth amser yn dod i adnabod eu hathro newydd a dilyn trefniadau’r dosbarth hwnnw am y dydd. Cyrhaeddodd disgyblion Blwyddyn 2 am y diwrnod drwy giât yr Adran Iau a bwyta eu cinio gyda gweddill yr Adran Iau. Gobeithiwn fod y plant wedi mwynhau’r diwrnod a’n bod wedi setlo eu nerfau ychydig cyn y tymor newydd ym mis Medi.


The week of the 26th of June saw all pupils participate in Transition Activities. On the 27th of June we welcomed our new Reception pupils and parents to school to meet with staff and to see their new classroom. On the 29th of June our new nursery pupils attended a 'Stay and Play' session with their parents where they also had the opportunity to see their new class and meet with the Nursery staff.

We also saw our Year 6 pupils attend Ysgol Bro Morgannwg for their final transition day where they were placed in their new form classes and participated in a variety of activities. Finally, on the 29th of June, all pupils from Nursery to Year 5 spent the day in their new class and met their new teacher. The pupils participated in activities in their new class and spent some time getting to know their new teacher and follow arrangement for that class for the day. Year 2 pupils arrived for the day via the Junior Gate and ate their lunch with the rest of the Junior department. We hope that the children enjoyed the day and that we have settled their nerves slightly before the new term in September.


Rygbi TAG

Ar yr 16eg o Fehefin, mynychodd disgyblion o Flynyddoedd 2 a 3 ŵyl rygbi TAG yng Nghlwb Rygbi Llanilltud Fawr. Nod y digwyddiad oedd codi ymwybyddiaeth o rygbi a chynnwys ysgolion lleol o'r gymuned. Er bod y tywydd yn gynnes, mwynhaodd y disgyblion y sesiwn yn fawr gan ddysgu sgiliau rygbi newydd. Diolch i Callum Digby, Swyddog Datblygu Rygbi ac i ddisgyblion Ysgol Uwchradd Llanilltud Fawr am drefnu’r diwrnod ac am wahodd disgyblion Dewi Sant i fynychu’r digwyddiad.


On the 16th of June, pupils from Years 2 and 3 attended a TAG rugby festival at Llantwit Major Rugby Club. The aim of the event was to raise awareness of rugby and involve local schools from the community. Although the weather was warm, the pupils thoroughly enjoyed the session learning new rugby skills. Thank you to Callum Digby, Rugby Development Officer and to pupils from Llantwit Major High School for organising the day and inviting pupils from Dewi Sant to attend the event.

Dementia Cafe & Cor Dewi Sant

Ar y 13eg o Fehefin, perfformiodd y côr unwaith eto yn y Caffi Dementia lleol. Yn dilyn eu perfformiad yn gynharach yn y flwyddyn, gwahoddwyd y côr i ganu eto yn y Caffi Dementia gan berfformio ystod o ganeuon. Rydym wedi gweld y côr yn tyfu yn ddiweddar gyda mwy o ddisgyblion yn mynychu ymarferion côr yn wythnosol. I rai disgyblion, dyma oedd eu tro cyntaf yn perfformio o flaen cynulleidfa. Da iawn i bawb ar berfformiad mor hyfryd a diolch yn fawr i Mrs Phillips a Miss Samuel am baratoi’r côr ar gyfer y digwyddiad. Os oes unrhyw ddisgyblion yn dymuno ymuno â’r côr, siaradwch â naill ai Mrs Phillips neu Miss Samuel. Mae croeso i fechgyn fynychu hefyd.


On the 13th of June, the choir performed once again at the local Dementia Cafe. Following their performance earlier in the year, the choir were invited to sing again at the Dementia Cafe performing a range of songs. We have seen the choir grow recently with more pupils attending choir practice on a weekly basis. For some pupils, this was their first time performing in front of an audience. Well done to all on such a lovely performance and a big thank you to Mrs Phillips and Miss Samuel for preparing the choir for the event. If there are any pupils who wish to join the choir, please speak to either Mrs Phillips or Miss Samuel. Boys are more than welcome to attend also.

Ymweliad Llywodraethwyr/Governor Visit

Ar y 14eg o Fehefin, croesawyd y llywodraethwyr i'r ysgol ar gyfer 'Prynhawn Datblygu Llywodraethwyr'. Bwriad y prynhawn oedd ymweld â dosbarthiadau ac arsylwi gwersi. Siaradodd llywodraethwyr hefyd â disgyblion ac arweinwyr Meysydd Dysgu a Phrofiad. Bwriad y prynhawn oedd sicrhau bod llywodraethwyr yn ymwybodol o'r dysgu sy'n digwydd yn yr ysgol ac i rannu arfer dda. Diolch i’r llywodraethwyr a fynychodd a diolch i’r staff a’r disgyblion am siarad gyda’r llywodraethwyr a rhoi blas iddynt o fywyd Ysgol Dewi Sant.


On the 14th of June, we welcomed the governors into school for a 'Governor Development Afternoon'. The aim of the afternoon was to visit classes and observe lessons. Governors also spoke to pupils and Areas of Learning and Experience leaders. This was to ensure that governors are aware of the learning that takes place at the school and to share good practice. Thank you to the governors that attended and thank you to the staff and pupils who took the opportunity to speak with the governors and give them a taste of school life at Dewi Sant.

Seiclo Blwyddyn 5/Year 5 Cycling

Unwaith eto, gwahoddwyd disgyblion Blwyddyn 5 i fynychu digwyddiad seiclo yn RAF Sain Tathan ar yr 16eg o Fehefin. Gwahoddodd RAF Sain Tathan y disgyblion i fynychu eu digwyddiad elusennol blynyddol lle bu personél y RAF yn cymryd rhan mewn her feicio i godi arian ar gyfer apêl y RAFA. Diolch i Cpl Michael Hill a Sgt Robert Simon am gynnwys disgyblion Blwyddyn 5 a threfnu iddynt gymryd rhan yn eu hyfedredd beicio Lefel 1. Diolch i Gethin MTB am sicrhau fod pob disgybl wedi pasio ar y diwrnod. Mwynhaodd y disgyblion y sesiwn yn fawr ac enillodd pob disgybl dystysgrif ar ddiwedd y sesiwn. Da iawn disgyblion Blwyddyn 5.

Ewch i dudalen Trydar y dosbarth am fwy o luniau a fideos o'r digwyddiad - @MissMEvans1


Once again, pupils for Year 5 were invited to attend a cycling event at RAF St Athan on the 16th of June. RAF St Athan invited the pupils to attend their annual charity event where RAF personnel participated in a cycling challenge to raise funds for the RAFA appeal. Thank you to Cpl Michael Hill and Sgt Robert Simon for involving Year 5 pupils and arranging for them to participate in their Level 1 cycling proficiency. Thank you to Gethin MTB for ensuring that each pupil passed on the day. The pupils thoroughly enjoyed the session and each pupil won a certificate at the end of the session. Well done Year 5 pupils. 

Visit the class Twitter page for more pictures and videos of the event - @MissMEvans1

'Spotlight On'

Prynhawn Agored Darllen/Reading Open Afternoon

Diolch enfawr i'r holl rieni a fynychodd y Prynhawn Agored Darllen ar yr 8fed o Fehefin. Roedd y prynhawn yn gyfle i rieni a gofalwyr weld yr holl adnoddau darllen sy’n cael eu defnyddio yn yr ysgol i hybu a datblygu sgiliau darllen pob disgybl. Oherwydd effaith Covid-19 ar ddarllen, mae’r ysgol wedi sicrhau bod darllen yn flaenoriaeth ysgol gyfan ac yn gweithio’n galed i ddatblygu sgiliau darllen Cymraeg a Saesneg i bob disgybl.


Os nad oeddech yn gallu mynychu'r digwyddiad, ewch i wefan yr ysgol lle mae dolenni i adnoddau darllen - Darllen gyda Dewi, Darllen Co ac Oxford Reading Buddy.

Cliciwch ar y ddolen i weld yr adnoddau hyn - https://www.ysgolgymraegdewisant.co.uk/darllen-darllen/

Diolch i Mr G Jones am drefnu’r digwyddiadau ac i staff a disgyblion Blwyddyn 6 am helpu i hwyluso a gweithio gyda rhieni ar y diwrnod.


A huge thank you to all parents that attended the Reading Open Afternoon on the 8th of June. The afternoon was an opportunity for parents and carers to view all reading resources that are used in the school to promote and develop reading skills for all pupils. Due to the impact of Covid-19 on reading, the school has ensured that reading is a whole school priority and is working hard to develop both Welsh and English reading skills for all pupils. 

If you were unable to attend the event, please visit the school website where there are links to reading resources - Darllen gyda Dewi, Darllen Co and Oxford Reading Buddy.

Click the link to view these resources - https://www.ysgolgymraegdewisant.co.uk/darllen-reading/

Thank you to Mr G Jones for organising the events and to staff and Year 6 pupils for helping to facilitate and work with parents on the day.


Mabolgampau/Sports Day

Yn ystod wythnos y 19eg o Fehefin, cymerodd pob disgybl ran yn Mabolgampau'r ysgol. Buom yn ffodus iawn gyda’r tywydd a sicrhaodd fod pob sesiwn wedi gallu digwydd yn ystod yr wythnos. Bu disgyblion o’r Meithrin i Flwyddyn 6 yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol o rasys sbrintio, rasys rhedeg hir a rasys dŵr. Diolch i'r holl staff am sicrhau bod pob sesiwn wedi rhedeg mor esmwyth â phosibl. Diolch hefyd i’r disgyblion am eu hymddygiad gwych ac am gystadlu yn y cystadlaethau amrywiol.

Llongyfarchiadau enfawr i Lys Tathan a oedd yn fuddugol. Da iawn hefyd i’r holl ddisgyblion a gymerodd ran ar y diwrnod. Ewch i Drydar a gwefan yr ysgol i weld mwy o luniau o'r sesiynau.


During the week of the 19th of June, all pupils participated in Sports Day. We were very fortunate with the weather which ensured that all events could go ahead during the week. Pupils from Nursery to Year 6 participated in various activities from sprint races, long-distance races and water races. Thank you to all staff for ensuring that each event ran as smoothly as possible. Thanks also go to the pupils for their fantastic behaviour and for competing in the various events. A huge congratulations to Tathan House who were the overall winners. Well done also to all pupils that took part on the day. Please visit Twitter and the school website to see many photos from each day.


https://www.ysgolgymraegdewisant.co.uk/oriel-gallery/


 


Syrpreis Cyw/Cyw Surprise

Cafodd disgyblion Blwyddyn 1 a 2 syrpreis mawr iawn ar yr 16eg o Fehefin pan gyflwynodd Cyw ymweliad syrpreis iddynt. Derbyniodd y disgyblion neges fideo gan y cyflwynwyr trwy sgrin y neuadd. Yn ddiarwybod i'r disgyblion, roedd y cyflwynwyr yn cuddio yn storfa'r neuadd ac wedi peri cryn syndod a phleser wrth iddynt ymddangos. Yn dilyn y syndod, cafodd y disgyblion sesiwn stori, canu a bu llawer o ddawnsio. Diolch i gyflwynwyr Cyw am ymweld ag Ysgol Dewi Sant a diddanu'r disgyblion.

Cliciwch y linc isod er mwyn gweld ymateb y disgyblion.


Pupils in Years 1 and 2 received a very big surprise on the 16th of June when Cyw presented them with a surprise visit. Pupils received a video message from the presenters via the screen in the hall. Unbeknown to the pupils, the presenters appeared much to their surprise and delight. Following the surprise, the pupils were treated to a story, singing and lots of dancing. Thank you to the Cyw Presenters for visiting Ysgol Dewi Sant and entertaining the pupils.

Click the link to see the reaction of the pupils: https://twitter.com/YDewiSant/status/1669744509335351317

 

Literary Eisteddfod/Eisteddfod Lenyddol

Ar yr 22ain o Fehefin, cymerodd yr holl ddisgyblion ran yn yr Eisteddfod Lenyddol lle cynhelir cystadlaethau ysgrifennu straeon a barddoniaeth. Mae disgyblion o bob dosbarth yn cystadlu yn y cystadlaethau gyda’r tri uchaf o bob dosbarth yn cael eu gwobrwyo gyda thystysgrif 1af, 2il neu 3ydd. Diolch i ddisgyblion Blwyddyn 6 a'r  Derbyn am berfformio eu dawns arbennig i gloi’r seremoni. Llongyfarchiadau enfawr i Anwen ar ennill y gadair ac i Mirain am ennill y goron.


On the 22nd of June, all pupils participated in the Literary Eisteddfod which sees competitions for writing stories and poetry. Pupils from all classes compete in the competitions with the top three from each class rewarded with a 1st, 2nd or 3rd certificate. Thank you to Year 6 and Reception pupils for performing their special dance to close the ceremony. A huge congratulations to Anwen on winning the chair and to Mirain for winning the crown.


Ymweliad Cyngor y Dref/Town Council Visit

Braf oedd croesawu aelodau’r Cyngor y Dref i’r ysgol ar yr 21ain o Fehefin. Bwriad yr ymweliad oedd cael golwg ar ardd yr ysgol fel rhan o ddathliadau’r coroni yn ddiweddar. Croesawodd Miss Davies a disgyblion y Meithrin a Derbyn yr ymwelwyr gan ddangos y planhigion a’r blodau amrywiol y maent wedi bod yn eu tyfu. Prif thema gardd yr ysgol yw cadwraeth ac maent wedi plannu hadau i gefnogi Wild Wales Seeds. Diolch i’r aelodau gan gynnwys Cynghorydd Gerwyn Thomas am ymweld â'r ysgol ac am yr anrhegion garddio i’r disgyblion.


It was a pleasure to welcome members of the Town Council to the school on the 21st of June. The aim of the visit was to view the school garden as part of the recent coronation celebrations. Miss Davies and pupils from Nursery and Reception welcomed the visitors showing the various plants and flowers that they have been growing. The main theme for the school garden is conservation and they have planted seeds in support of Wild Wales Seeds. Thank you to the members of the Town Council which included Councillor Gerwyn Thomas for visiting the school and for the garden gifts for the pupils.

Sioe Pypedau / Puppet Show

Roedd pawb yn y Derbyn, Blwyddyn 1 a 2 wedi mwynhau’r sioe pypedau ‘Yr Ardd Hardd’ ar y 27ain o Fehefin. Diolch i Mrs Roberts am drefnu'r sioe.


Everybody in the Reception class, Year 1 and 2 enjoyed the puppet show on the 27th of June. Thank you to Mrs Roberts for arranging the puppet show.


Gwasanaeth Ysgol In-Reach/School In-Reach Service

Mae eich Barn yn bwysig!/Your opinion matters!

Mae croeso i chi fel rhieni i gysylltu gyda ni os oes gennych unrhyw syniadau neu sylwadau i gynnig ynghylch ein cwricwlwm a'r gweithgareddau sy'n digwydd yn dymhorol yn yr ysgol. Defnyddiwch y ffurflen a'r cod QR isod i fewnbynnu eich syniadau. Hoffwn hefyd glywed gennych chi os oes gennych sgil i'w rhannu neu amser i gynnig i helpu'r ysgol mewn unrhyw ffordd. 


We would like to encourage you as parents to contact us should you have any ideas or comments to offer with regard to our curriculum or the activities offered on a termly basis in the school. Please use the QR code below to submit any of your comments. We would also like to hear from you if you're able to share a particular skill with the children, or if you have spare time to offer support to the school in any way.

Cymry Balch

Llongyfarchiadau i Ellie-May, Carys, Poppy, William, Betsan, Meredith, Koby, Bronwen a Caio am ennill tystysgrif Cymry Balch ar gyfer mis Mehefin. Diolch am wneud ymdrech enfawr i siarad Cymraeg bob amser yn yr ysgol.


Congratulations to Ellie-May, Carys, Poppy, William, Betsan, Meredith, Koby, Bronwen and Caio for winning a Cymry Balch certificate for June. Thank you for making a huge effort to speak Welsh at all times in school

Newyddion CRhA/PTA News

Digwyddiadau Cymdeithas Rhieni ac Athrawon ar gyfer Tymor yr Haf


Loli Iâ Gwener

Bydd Loli Iâ Gwener yn parhau nes diwedd y tymor heblaw am y 7fed o Orffennaf oherwydd y Ffair Haf! Mynnwch eich danteithion rhewllyd bob dydd Gwener ar ôl ysgol ond gwnewch yn siŵr eich bod yn taflu eich papur lapio yn y bin ar ôl gorffen neu ewch â’r sbwriel adref.


Ffair Haf

Mae paratoadau ar y gweill ar gyfer digwyddiad Cymdeithas Rhieni ac Athrawon mwyaf y flwyddyn, sef y Ffair Haf sydd wedi'i threfnu ar gyfer y 7fed o Orffennaf. Cadwch y dyddiad a chysylltwch os oes gennych unrhyw syniadau neu os hoffech gymryd rhan!


Y Ras Amryliw

Cynhelir y Ras Amryliw ar ddydd Gwener y 23ain o Fehefin. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr gyda nifer o blant, rhieni a staff yn cymryd rhan. Codwyd dros £400 felly llongyfarchiadau mawr i'r Gymdeithas Rhieni am drefnu'r diwgwyddiad. Ewch i dudalen Trydar y Gymdeithas Rhieni neu'r Ysgol i weld llawer o luniau o'r digwyddiad.



PTA Events for the Summer Term

Freeze Pop Friday

Freeze Pop Fridays will continue until the end of term apart from the 7th of July which is the date for the Summer Fayre! Grab your icy treat every Friday after school but please ensure you discard your wrappers in a bin after finishing or take the rubbish home.


Summer Fayre

Preparations are underway for the biggest PTA event of the year, the Summer Fayre which is scheduled for the 7th of July. Save the date and get in touch if you have any ideas or would like to get involved!

Colour Run

The Color Race took place on Friday the 23rd of June. The event was a great success with many children, parents and staff taking part. Over £400 was raised so big congratulations to the Parents' Association for organising the event. Go to the PTA or School Twitter page to see lots of photos from the event.


Sut i gysylltu/How to get in touch

Twitter: DM us @YDewiSantPTA

Facebook: PM us on Facebook. You can find us under Ysgol Dewi Santa PTA


                   

Presenoldeb / Attendance


Y dosbarth gyda'r presenoldeb gorau ar gyfer mis Mai oedd  Sycamorwydden (Blwyddyn  4  ) gyda 97%.

The class with the best attendance for was Sycamorwydden (Year 4) with 97%.


Dyddiadur / Diary

3.7.23 - Nofio Blwyddyn 4/Year 4 Swimming

5.7.23 - Derbyn, Blwyddyn 1 & 2 - Parc Play

6.7.23 - Dathliad Meithrin/Nursery Celebration

6.7.23 - Noson Agored YGBM - Blwyddyn 6 / YGBM Open Evening - Year 6

7.7.23 - Ffair Haf/Summer Fayre

11.7.23 - Cyngerdd Haf Blwyddyn 3/Year 3 Summer Concert - Memo, Barry

12.7.23 - Noson Rieni Opsiynol/Optional Parents Evening

13.7.23 - Ymweliad i Ynys y Barri - Bl 6/Trip to Barry Island - Yr 6

14.7.23 - Gwerthu Nwyddau Menter/Selling of Business Products (Meithrin - Bl 6)

14.7.23 - Sleep Over - Blwyddyn 4/Year 4 @5.30pm

18.7.23 - Trip Amgueddfa Blwyddyn 5/Year 5 visit to Museum

20.7.23 - Gwasanaeth Gadael Blwyddyn 6/Year 6 Leavers Assembly (9.30am)

21.7.23 - Diwedd y Flwyddyn / End of School Year