Cylchlythyr Ysgol Gymraeg Dewi Sant

Ysgol Gymraeg Dewi Sant Newsletter

Croeso i gylchlythyr Ysgol Gymraeg Dewi Sant

Welcome to Ysgol Gymraeg Dewi Sant Newsletter

Croeso Nôl / Welcome Back

Ar y 5ed o Fedi, croesawyd yr holl ddisgyblion yn ôl i’r ysgol ar ôl gwyliau’r haf. Braf oedd gweld y disgyblion nôl yn yr ysgol yn barod ar gyfer y flwyddyn i ddod. Mae'r holl ddisgyblion wedi ymgartrefu yn eu dosbarthiadau newydd ac eisoes yn gweithio'n galed.

Yn ystod yr wythnos gyntaf, croesawyd ein disgyblion meithrin newydd. Cafodd y disgyblion ddechrau graddol i’r wythnos gyda’r holl ddisgyblion yn mynychu erbyn dydd Gwener yr wythnos gyntaf. Gobeithiwn eu bod yn setlo'n dda a'u bod yn hapus iawn gyda ni yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant.


On the 5th of September, we welcomed all pupils back to school after the summer break. It was great to see the pupils back in school again ready for the year ahead. All pupils have settled into their new classes and are already hard at work.

During the first week, we also welcomed our new nursery pupils. The pupils had a staggered start to the week with all pupils attending by the Friday of the first week. We hope that they settle well and that they are very happy with us at Ysgol Gymraeg Dewi Sant


Cwrs Prewsyl Glan-llyn / Glan-llyn Residential

Yn ystod y 25ain - 29ain o Fedi, mynychodd disgyblion Blwyddyn 6 wythnos breswyl yng Nghanolfan yr Urdd Glan-llyn yng Ngogledd Cymru. Cafodd y dosbarth wythnos wych yn cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored amrywiol gan gynnwys caiacio, padl fyrddio, adeiladu rafftiau, saethyddiaeth, a thaith gerdded i Lyn Celyn. Mwynhaodd y disgyblion hefyd noson ffilm a disgo gyda phawb wedi gwisgo yn eu gwisg dawnsio gorau. Mwynhaodd y disgyblion yn fawr yr wythnos yn cymryd rhan mewn gweithgareddau newydd ac yn wynebu eu hofnau. Roedd eu hymddygiad yn berffaith ac yn glod i'r ysgol - rydym mor falch o bob un. Diolch enfawr i Miss Samuel, Mr Howe a Miss Cichocki am ofalu am y disgyblion yn ystod yr wythnos.

During the 25th - 29th of September, pupils from Year 6 attended a residential course at the Urdd Centre Glan-llyn in North Wales. The class had a fantastic week participating in various outdoor activities which included kayaking, stand-up paddle boarding, raft building, archery, and a trek to Llyn Celyn. The pupils also enjoyed a movie night and a disco with all dressed in their best dancing attire. The pupils thoroughly enjoyed the week taking part in new activities and facing their fears. Their behaviour was impeccable and a credit to the school - we are so proud of each one. A huge thank you to Miss Samuel, Mr Howe and Miss Cichocki for looking after the pupils during the week.

Criced yn Ngherddi Soffia / Cricket at Sophia Gardens

Ar y 19eg o Fedi, gwahoddwyd disgyblion Blwyddyn 5 i fynychu digwyddiad criced yng Nghlwb Criced Morgannwg yng Ngerddi Sophia, Caerdydd. Nod y digwyddiad oedd hybu’r teulu criced byd-eang a datblygu diddordeb y disgyblion yn y gêm. Cafodd pob un diwrnod ardderchog lle cawsant gyfle i edrych ar yr amgueddfa yn y clwb yn ymddangos hanes criced. Cawsant gyfle hefyd i ymweld â chanolfan y cyfryngau a chwarae gêm o griced. Rydym yn ddiolchgar iawn i Glwb Criced Morgannwg am hwyluso’r diwrnod.


On the 19th of September, pupils from Year 5 were invited to attend a cricket event at Glamorgan Cricket Club in Sophia Gardens, Cardiff. The aim of the event was to promote the global family of cricket and to develop the pupil's interest in the game. The pupils had an excellent day where they had the opportunity to look at the museum at the club showing the history of cricket. They also had the opportunity to visit the media centre and play a game of cricket. We are very grateful to Glamorgan Cricket Club for facilitating the day.

Capteiniad Llys/House Captains 

Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd, mae disgyblion Blwyddyn 6 yn paratoi maniffesto i’w rannu gyda’u tai i ddod yn Gapten Llys neu Is-gapten Llys. Mae’r disgyblion yma yn cynrychioli eu llys yn ystod amrywiaeth o weithgareddau’r ysgol ar hyd y flwyddyn.

Da iawn i bob disgybl ym mlwyddyn 6 am gynnig eu hunain a pharatoi maniffesto. Llongyfarchiadau enfawr i’r disgyblion canlynol fydd yn cynrychioli eu llys eleni.


At the beginning of each academic year, pupils in Year 6 prepare a manifesto to share with their houses to become the House Captain or Vice House Captain. These pupils represent their houses during various school activities throughout the year.

Well done to each pupil in year 6 who put themselves forward and prepared a manifesto. A huge congratulations to the following pupils who will represent their houses this year.

Illtud - Arthur & Isobel

Tathan - Arianne & Junior

Dewi - Neve & Moana

Cadog - Phoebe & Eos

Pwyllgorau Ysgol/School Councils

Mae Pwyllgorau'r Ysgol hefyd wedi eu sefydlu gyda disgyblion o ddosbarthiadau ar draws Cyfnod Allweddol 2. Da iawn i bob disgybl a ddangosodd ddiddordeb i fod yn aelod yn un o’r pwyllgorau. Bydd pob pwyllgor yn gweithio ar ffocws penodol yn ystod y flwyddyn ac yn cynrychioli llais y disgybl ar draws yr ysgol.

School Councils have also been established with pupils from classes across Key Stage 2. Well done to each pupil who showed interest in becoming a member of the committees. Each council will work on a specific focus during the year and will represent pupil voice across the school.

Y Pwyllgorau yw/The councils are:

Dewiniaid Digidol/Digital Wizards - Emyr, Millie, Ava M, Ava B, Ross, Arthur & Gethin.

Y Cyngor Iechyd/The Health Council - Sophie, Gabriel, Eryn, Tomos, Aaron, Meredith, Joseff, & Alice.

Y Cyngor Eco/Eco Council - Ruby, Lavinia, Jesse, Caleah, Katy, Oscar, Ellis & Nia.

Dreigiau Dewi Sant/Welsh Charter Dreigiau - Arianne, Dexter, Teifi, Arianwen, Betsy, Ollie, Aria & Phoebe.

Wythnos Beicio i'r Ysgol/Cycle to School Week

Yn ystod wythnos y 25ain - 29ain o Fedi, bu disgyblion ar draws yr ysgol yn cymryd rhan yn Wythnos Beicio i'r Ysgol. Nod yr wythnos oedd codi ymwybyddiaeth o sut y gall bod yn egnïol ar y daith i’r ysgol fod o fudd i’ch iechyd. Rydym yn ffodus iawn i gael digon o le i barcio beiciau a sgwteri yn yr ysgol. Gyda hyn mewn golwg, rydym yn annog teuluoedd i feicio neu sgwtera i'r ysgol gymaint â thrwy gydol y flwyddyn.


During the 25th - 29th of September, pupils across the school participated in Cycle to School Week. The aim of the week was to raise awareness of how being active on the journey to school can benefit your health. We are very fortunate to have ample cycle and scooter parking at school. With this in mind, we encourage families to cycle or scoot to school as much as throughout the year.

O Dan y Chwyddwydr / Spot Light On


Prosbectws yr Ysgol/School Prosbectus


Mae prosbectws yr ysgol wedi ei ddiweddaru. Mae'r prosbectws yn cynnwys gwybodaeth am bob agwedd o'r ysgol. Cymerwch amser i ddarllen y prosbectws sydd i'w weld ar wefan yr ysgol.

The school prospectus has been updated. The prospectus includes information about all aspects of the school. Please take some time to read the prospectus which can be found on the school website.

Prosbectws/Prospectus 





Gwasanaeth Ysgol In-Reach/School In-Reach Service

Mae eich Barn yn bwysig!/Your opinion matters!

Mae croeso i chi fel rhieni i gysylltu gyda ni os oes gennych unrhyw syniadau neu sylwadau i gynnig ynghylch ein cwricwlwm a'r gweithgareddau sy'n digwydd yn dymhorol yn yr ysgol. Defnyddiwch y ffurflen a'r cod QR isod i fewnbynnu eich syniadau. Hoffwn hefyd glywed gennych chi os oes gennych sgil i'w rhannu neu amser i gynnig i helpu'r ysgol mewn unrhyw ffordd. 


We would like to encourage you as parents to contact us should you have any ideas or comments to offer with regard to our curriculum or the activities offered on a termly basis in the school. Please use the QR code below to submit any of your comments. We would also like to hear from you if you're able to share a particular skill with the children, or if you have spare time to offer support to the school in any way.

Cymry Balch

Llongyfarchiadau i Nia, Willow, Oscar, Imogen, Harry a Llew am ennill tystysgrif Cymry Balch ar gyfer mis Medi. Diolch am wneud ymdrech enfawr i siarad Cymraeg bob amser yn yr ysgol. 


Congratulations to Nia, Willow, Oscar, Imogen, Harry and Llew for winning a Cymry Balch certificate for September. Thank you for making a huge effort to speak Welsh at all times in school. 


Dechreuodd menter newydd yn ystod wythnos olaf mis Medi o'r enw 'Clod Cymreictod' lle mae disgyblion yn ennill pwyntiau am siarad Cymraeg â'i gilydd o amgylch yr ysgol. Bydd disgyblion yn cystadlu yn erbyn eu cyfoedion dosbarth i ennill pwyntiau yn ystod yr wythnos. Gwobrwyir y disgybl ym mhob dosbarth gyda’r mwyaf o bwyntiau gyda siocled poeth a bisgedi gydag arweinydd y Dreigiau, Mrs Roberts. Da iawn i’r disgyblion fu’n llwyddiannus yn ystod yr wythnos gyntaf.

A new initiative started during the final week of September called 'Clod Cymreictod' where pupils are awarded points for speaking Welsh with each other around the school. Pupils will compete against their class peers to win the most points during the week. The pupil in each class with the most points is rewarded with a hot chocolate and biscuits with the leader of the Dreigiau, Mrs Roberts. Well done to the pupils that were successful during the first week. 

Newyddion CRhA/PTA News

Digwyddiadau Cymdeithas Rhieni ac Athrawon ar gyfer Tymor yr Hydref


Llynedd cafodd y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon flwyddyn lwyddiannus iawn lle llwyddwyd i godi cyfanswm o £10,000! Mae'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn gweithio i godi arian tuag at brynu canopïau haul ar gyfer iard CA2. Diolch i bawb a gefnogodd y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon yn ystod y flwyddyn ac i’r rhai a roddodd o’u hamser i godi arian i’r ysgol.


Mae'r GRhA wrthi yn paratoi gweithgareddau ar gyfer tymor yr hydref. Dyma'r digwyddiadau sydd yn y calendr tymor yma:


26/10/23 - Disgo Calan Gaeaf  / Halloween Disco 


30/11/23 - Noson Ffilm / Film Night


Ffair Nadolig - Dyddiad i'w cadarnhau


Cardiau Nadolig - gwybodaeth i ddilyn.





PTA Events for the Summer Term

Last year the PTA had a very successful year where they raised a total of £10,000! The PTA is working to raise funds towards purchasing sun canopies for the KS2 yard. Thank you to everyone who supported the PTA during the year and to those who gave their time working to raise funds for the school.


The PTA is currently preparing activities for the autumn term. These are the events in this season's calendar:


26/10/23 - Halloween Disco


30/11/23 - Film Night


Christmas Fayre - Date to be confirmed


Christmas Cards - details to follow


Sut i gysylltu/How to get in touch

Twitter: DM us @YDewiSantPTA

Facebook: PM us on Facebook. You can find us under Ysgol Dewi Santa PTA


                   

Presenoldeb / Attendance


Yn ystod y flwyddyn academaidd 2022 - 2023 presenoldeb y  disgyblion oedd 93.7%.

Targed presenoldeb yr ysgol ar gyfer eleni yw 95%. Sicrhewch fod eich plentyn yn mynychu'r ysgol fel ein bod yn gallu cyrraedd y targed a osodwyd.

Y dosbarth gyda'r presenoldeb gorau ar gyfer mis Medi oedd Bedwen (Blwyddyn 3) gyda 96%.

During the academic year of 2022 - 2023 pupil attendance was 93.7%. 

The school attendance target for this year is 95%. Please ensure that your child attends school so that we are able to reach the target set. 

The class with the best attendance for September was Bedwen  (Year 3) with 96%.



Dyddiadur / Diary

9.10.23 - 13.10.23 - Llangrannog Blwyddyn 5/Year 5

9.10.23 - Ymweliad i Sain Ffagan (Blwyddyn 2 & 3)/Visit to St Fagan (Yr 2 & 3)

12.10.23 - Diwrnod Pontio YGBM Blwyddyn 6/Transition Day YGBM Year 6

15.10.23 - Perfformiad y Côr yng Ngwasanaeth Maer y Dref/Choir Perfformance in the Town Mayor's Service

23.10.23 - Wythnos Nosweithiau Rhieni/Parents Evening Week

26.10.23 - Disgo Calan Gaeaf/Halloween Disco

30.10.23 - 3.11.23 - Hanner Tymor/Half Term

6.11.23 - Lluniau Unigol/Individual Photos

7.11.23 - Cystadleuaeth Cog Urdd Blwyddyn 4, 5 & 6/Cog Urdd Competition Years 4, 5 & 6

13.11.23 - Brechiad Ffliw - Derbyn i Flwyddyn 6/Flu Vaccination - Reception to Year 6

15.11.23 - Gweithdai 'Bullies Out' Blwyddyn 3 - 6/'Bullies Out' Workshops Years 3 - 6

16.11.23 - 9.30am Gwasanaeth Dosbarth Blwyddyn 6/Year 6 Class assembly

20.11.23 - Wythnos Diogelwch y Ffordd/Road Safety Week

30.11.23 - Sioe Nadolig 'Babis Bach' - Meithrin/Christmas Show 'Babis Bach' - Meithrin

30.11.23 - Noson Ffilm/Film Night

1.12.23 -  Sioe Nadolig - Derbyn, Blwyddyn 1 & 2/Christmas Show - Reception, Year 1 & 2


Perfformiadau Cyngherddau Nadolig Ysgol/School Christmas Concert Performances

12.12.23 - Perfformaid Bore/Morning Performance

                        Perfformiad Meithrin/Derbyn & Perfformiad Cyngerdd Blwyddyn 1 & 2 

                        Nursery/Reception Performance & Year 1 & 2 Performance


13.12.23 - Perfformaid Bore/Morning Performance

                        Perfformiad Meithrin/Derbyn yn unig

                        Nursery/Reception Performance only


                       Perfformiad Prynhawn/Afternoon Performance

                       Perfformiad Cyngerdd Blwyddyn 1 & 2 yn unig

                       Year 1 & 2 Performance only


14.12.23 - Cyngerdd Nadolig Cyfnod Allweddol 2 - Eglwys St Illtud

                        Key Stage 2 Christmas Performance - St Illtud Church



22.12.23 - Diwedd Tymor/End of Term


8.1.24 - Diwrnod HMS/Inset Day

9.1.24 - Disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol/Pupils return to School

19.2.24 - Diwrnod HMS/Inset Day