Darllewnch y darn isod ac yna atebwch y cwestiwn canlynol
Beth yw cyfanswm rhifau y flwyddyn y cafodd Ystrad Fflur ei hadeiladu?
* Ar ddiwedd y pumed her rhowch eich ateb yn y ffurflen ar y dudalen lanio.
Darllewnch y darn isod ac yna atebwch y cwestiwn canlynol
Beth yw cyfanswm rhifau y flwyddyn y cafodd Ystrad Fflur ei hadeiladu?
* Ar ddiwedd y pumed her rhowch eich ateb yn y ffurflen ar y dudalen lanio.
Abaty canoloesol crand lle claddwyd cenedlaethau o dywysogion Cymru
Saif abaty Ystrad Fflur neu Strata Florida – y Lladin am ‘Fro’r Blodau’ – ar ddolydd ffrwythlon wrth ymyl glannau afon Teifi ers 1201.
Fe’i sefydlwyd gan fynachod Sistersaidd mentyll gwynion yn rhan o fudiad a aeth fel ymchwydd ledled gorllewin Ewrop i gyd yn yr Oesoedd Canol cynnar. Cyn hir, yma oedd yr eglwys enwocaf yng Nghymru ar ôl Tyddewi – man pererindod ac echelbin diwylliant Cymru.
Mae rhai o’r teils addurnedig anhygoel a fuasai’n gorchuddio lloriau’r eglwys yn y golwg o hyd. Ceir griffoniaid, adar a gellesg o amgylch y ‘Dyn gyda’r Drych’ enigmatig. Tybir bod y ffigwr hwn o’r 14eg ganrif, a chrysbais a chwfl clos amdano, yn symbol o goegfalchder.
Ystrad Fflur yw man gorffwys olaf cenedlaethau o dywysogion canoloesol Cymru. Dywedir bod y bardd mawr Dafydd ap Gwilym wedi’i gladdu o dan ywen yn y fynwent. Nid yw’n syndod bod y lle wedi’i alw’n ‘Abaty San Steffan Cymru’.
Tyfodd poblogrwydd Ystard Fflur fel safle twristiaeth yn yr 1800au wrth i'r rheilffordd datblygu rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth.