Teitl y nofel

Ystyriwch beth yw arwyddocâd teitl y nofel a lliw y clawr?

Nodiadau CBAC

Mae enw’r llyfr - Llyfr Glas Nebo - yn ein hatgoffa o enwau rhai o lawysgrifau Cymraeg enwog yr Oesoedd Canol. Yn Llyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest y cafodd rhai o drysorau mawr ein llenyddiaeth eu diogelu, er enghraifft chwedlau’r Mabinogi. Mae’r llawysgrifau prin a gwerthfawr hyn yn mynd â ni’n ôl i’r cyfnod cyn dyfeisio’r wasg argraffu. Cawsant eu copïo a’u creu ar wahanol gyfnodau rhwng canol y drydedd ganrif ar ddeg a dechrau’r bymthegfed ganrif. Mae’r lliwiau yn eu henwau - y du, y coch a’r gwyn - yn cyfeirio at liw’r lledr a ddefnyddiwyd yn wreiddiol ar gyfer y cloriau oedd yn eu rhwymo ynghyd. Mae’n bosibl fod cyswllt rhwng y Llyfr Du a Phriordy Ieuan Efengylwr a Theulyddog yng Nghaerfyrddin (yno, efallai, y cafodd ei gopïo). Er mai ag ardal Abertawe y cysylltwyd y Llyfr Coch yn wreiddiol, cafodd ei gadw am gyfnod hir ym mhlasty Hergest yn swydd Henffordd. Ac mae’r enw Rhydderch yn ein hatgoffa mai cael ei lunio’n wreiddiol ar gyfer gŵr o’r enw Rhydderch ab Ieuan Llwyd o Geredigion a wnaeth y Llyfr Gwyn. Mae enwau’r llawysgrifau hyn felly yn datgelu rhywfaint am eu hanes.

Yn y nofel mae ‘Llyfr Glas Nebo’ yn deitl ar lyfr nodiadau lle mae’r ddau brif gymeriad yn cofnodi eu hanes. Cynnwys y llyfr nodiadau hwn yw corff y nofel. Mae’r cyswllt rhwng y teitl ac enwau’r hen lawysgrifau yn cael ei esbonio yn y nofel ei hun. Mae ‘Nebo’ yn rhan o’r teitl am mai yn y pentref hwnnw y mae’r nofel wedi’i gosod.


5. Golygfa- teitl y llyfr

t.5-6

5-6.m4a

t.14-15

14-15.m4a

t.32-33

32-33.m4a

t.143

143.m4a

Haen Sylfaenol

6. Gweithgaredd Haen Sylfaenol - Hanes dod o hyd i Lyfr Glas Nebo.pdf

Haen Uwch

2. Tudalennau i'r disgyblion am y golygfeydd teitl.pdf

*NEGES I ATHRAWON*

Cofiwch fod nodiadau i athrawon ac atebion posib i'r tasgau yn 'Y Pair'