Cylchlythyr Ysgol Gymraeg Dewi Sant
Ysgol Gymraeg Dewi Sant Newsletter
Cylchlythyr Ysgol Gymraeg Dewi Sant
Ysgol Gymraeg Dewi Sant Newsletter
Digwyddiad Cymunedol / Community Event
Ar y 13eg o Chwefror, cynhaliodd yr ysgol ei digwyddiad cymunedol cyntaf i rieni. Nod y digwyddiad oedd casglu partneriaid at ei gilydd mewn un lle a allai gynnig cymorth a chyngor i rieni. Diolch enfawr i dîm Ysgolion Iach Caerdydd a'r Fro, y nyrs ysgol, tîm CELT+ a siaradodd gyda'n rhieni ac am rannu llawer o bethau am ddim. Hoffem hefyd ddiolch i'r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon am rannu eu gwaith ac am ddarparu te a choffi i'r rhai oedd yn bresennol.
Diolch enfawr i’r holl rieni a fynychodd y digwyddiad. Ein nod yw hwyluso digwyddiadau tebyg yn y dyfodol i gefnogi ein teuluoedd felly os oes maes cymorth/grŵp penodol yr hoffech ei weld yn y digwyddiadau hyn, cysylltwch â ni a rhannwch eich syniadau.
On the 13th of February, the school held it's first community event for parents. The aim of the event was to gather partners together in one place that could offer support and advice to parents. A huge that you to Cardiff and the Vale Healthy Schools Team, the school nurse and the CELT+ team who all attended, spoke with parents and shared lots of 'freebies'. We would also like to thank the PTA for sharing their work and for providing tea and coffee to those in attendance.
A huge thank you to all parents that attended the event. Our aim is to facilitate similar future events to support our families therefore if there is a particular area of support/group you would like to see in these events, please get in touch and share your ideas.
Croeso Myfyrwyr / Welcome Students
Hoffem groesawu tair athrawes dan hyfforddiant i'r ysgol o Brifysgol Met Caerdydd. Dechreuodd eu lleoliad ar yr 17eg o Chwefror a byddant yn Dewi Sant tan ganol mis Mai. Mae'r myfyrwyr wedi'u lleoli yn y Meithrin, Derbyn a Blwyddyn 5 lle byddant yn datblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth wrth addysgu'r disgyblion. Dymunwn y gorau i’r myfyrwyr a gobeithio y byddant yn mwynhau eu profiad yn Ysgol Dewi Sant.
We would like to welcome three student teachers to the school from Cardiff Met University. Their placement began on the 17th of February and they will be at Dewi Sant until the middle of May. The students have been placed in Nursery, Reception and Year 5 where they will develop their skills and knowledge in teaching the pupils. We wish the students the best and hope that they enjoy their experience at Dewi Sant.
Treialon Gymnasteg / Gymnastics Trials
Llongyfarchiadau enfawr i Dexter (Blwyddyn 6), Generosa (Blwyddyn 4) ac Elsie (Blwyddyn 3) a gynrychiolodd yr ysgol yng Nghystadleuaeth Tymbl a Vault Caerdydd a’r Fro ar y 3ydd o Chwefror. Cymerodd y tri disgybl ran mewn diwrnod o gystadlu lle buont yn gweithio’n hynod o galed yn ystod y digwyddiad. Hon oedd y gystadleuaeth gyntaf i rai a gyda channoedd o ddisgyblion yn cystadlu, yn sicr fe wnaethon nhw eu gorau glas i gynrychioli’r ysgol. Rydym yn falch iawn o’r tri disgybl ac yn gobeithio y byddant yn edrych i gystadlu eto y flwyddyn nesaf. Diolch enfawr i’w rhieni am gefnogi a sicrhau eu bod yn barod am y diwrnod.
A huge congratulations to Dexter (Year 6), Generosa (Year 4) and Elsie (Year 3) who represented the school in the Cardiff and Vale Tumble and Vault Competition on the 3rd of February. The three pupils participated in a day of competition where they worked incredibly hard and showed great determination during the event. This was the first competition for some and with hundreds of pupils competing, they certainly did their best in representing the school. We are very proud of the three pupils and hope that they look to compete again next year. A huge thank you to their parents for supporting and ensuring that they were prepared for the day.
Healthy Cooking Sessions
Ar y 13eg o Chwefror, cymerodd disgyblion a rhieni Blwyddyn 3 ran mewn gweithdy coginio iach a hwyluswyd gan Dîm Ysgolion Iach Caerdydd a’r Fro. Diolch yn fawr iawn i Kim o'r tîm am ddarparu prynhawn o weithgareddau a oedd yn cefnogi dysgu am wneud dewisiadau bwyd iach. Hoffem hefyd ddiolch i'r holl rieni a fynychodd ac am weithio gyda'u plant i baratoi byrbryd iach. Roedd yr adborth o’r sesiwn yn hynod gadarnhaol ac ni allai Kim ganmol digon ar y disgyblion gyda’u brwdfrydedd yn ystod y digwyddiad.
On the 13th of February, pupils and parents from Year 3 participated in a healthy cooking workshop facilitated by Cardiff and the Vale Healthy Schools Team. A huge thank you to Kim from the team for providing an afternoon of activities which supported learning around making healthy food choices. We would also like to thank all parents that attended and worked with their children to prepare a healthy snack. Feedback from the session was extremly positive and Kim could not praise the pupils enough with their enthusiasm during the event.
Urdd Cystadleuaeth Pêl-rwyd/Netball Competition
Ar y 6ed o Chwefror, bu tîm o ferched Blwyddyn 5 a 6 yn cystadlu yng nghystadleuaeth pêl-rwyd yr Urdd gan gystadlu yn erbyn timau o ysgolion ar draws Caerdydd a’r Fro. Da iawn i’r tîm a chwaraeodd yn arbennig o dda a diolch iddynt am gynrychioli’r ysgol.
On the 6th of February, a team of Year 5 & 6 girls entered the Urdd netball competition competing against teams from schools across Cardiff and the Vale. Well done to the team who played extremely well and for representing the school.
Dydd Miwsig Cymru
Dathlwyd Dydd Miwsig Cymru unwaith eto ar y 7fed o Chwefror. Mae’r diwrnod yn gyfle i godi ymwybyddiaeth a gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg boblogaidd o bob genre.
Dilynwch y linc i gael mynediad i Tiwns Dewi Sant os hoffech chi wrando ar fwy o gerddoriaeth Gymraeg:
The annual Dydd Music Cymru was celebrated once again on the 7th of February. The day is an opportunity to raise awareness and listen to popular Welsh music of all genres.
Please follow the link to access Tiwns Dewi Sant if you would like to listen to more Welsh music:
Diwrnod Diogelwch ar y We/Safer Internet Day
Mae Diwrnod Diogelwch ar y We yn gyfle i godi ymwybyddiaeth ynghylch bod yn ddiogel ar-lein. Diolch i Mr Rhys Jones a'r Dewiniaid Digidol am ddarparu gwasanaeth llawn gwybodaeth am fod yn ddiogel ar-lein. Bu’r holl ddisgyblion hefyd yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ar yr 11eg o Chwefror gan godi ymwybyddiaeth bellach o’r pwnc hynod bwysig hwn.
Safer Internet Day is an opportunity to raise awareness around being safe online. Thank you to Mr Rhys Jones and the Dewiniaid Digidol (Digital Wizards) for providing an informative assembly around being safe online. All pupils also participated in a variety of activities on the 11th of February rasing further awareness around this very important subject.
Urdd Eisteddfod Offerynnol/Instrumental Eisteddfod
Da iawn Aria (Blwyddyn 6) am gystadlu yn yr Eisteddfod offerynnol ddiweddar yng Nghanolfan yr Urdd, Bae Caerdydd. Cystadlodd Aria yn y gystadleuaeth gitâr unigol a pherfformiodd yn arbennig yn erbyn disgyblion o ysgolion ar draws Caerdydd a’r Fro. Dywedodd Mr Ackland, athro gitâr Aria, ei fod yn falch iawn o berfformiad Aria - da iawn Aria.
Well done to Aria (Year 6) for competing in the recent instrumental Eisteddfod at the Urdd Centre, Cardiff Bay. Aria competed in the solo gitar competition and performed very well against pupils from schools across Cardiff and the Vale. Mr Ackland, Aria's gitar teacher stated that he was very pleased with Aria's performace - well done Aria.
Mynd am Dro yn yr Ardal Leol/A Walk in the Local Area
Mwynhaodd y dosbarth Derbyn daith gerdded o amgylch yr ardal leol ar yr 11eg o Chwefror. Roedd hwn yn gyfle i gerdded yr ardal leol, ymweld â’r orsaf dân ac ambiwlans ynghyd â’r orsaf drenau a Filco. Mwynhaodd y disgyblion eistedd yn yr injan dân a’r ambiwlans a chael cyfle i roi cynnig ar wisgoedd. Diolch i Miss Jones am drefnu’r daith.
The Reception class enjoyed a walk around the local area on the 11th of Febraury. This was an opportunity to walk the local area, visit the fire and ambulance station along with the train station and Filco. The pupils enjoyed sitting in the fire engine and ambulance and having an opportunity to try on uniform. Thank you to Miss Jones for organising the trip.
Cwrs Coginio i Rieni/Cooking Course for Parents
Cyfle am ddim i rieni gan Menter Bro Morgannwg.
Cysylltwch â’r ysgol os hoffech sicrhau lle ar y cwrs 4 wythnos.
A free opportunity for parents provided by Menter Bro Morgannwg.
Please contact the school if you would like to secure a place on the 4 week course.
Gwasanaeth Ysgol In-Reach/School In-Reach Service
Mae eich Barn yn bwysig!/Your opinion matters!
Mae croeso i chi fel rhieni i gysylltu gyda ni os oes gennych unrhyw syniadau neu sylwadau i gynnig ynghylch ein cwricwlwm a'r gweithgareddau sy'n digwydd yn dymhorol yn yr ysgol. Defnyddiwch y ffurflen a'r cod QR isod i fewnbynnu eich syniadau. Hoffwn hefyd glywed gennych chi os oes gennych sgil i'w rhannu neu amser i gynnig i helpu'r ysgol mewn unrhyw ffordd.
We would like to encourage you as parents to contact us should you have any ideas or comments to offer with regard to our curriculum or the activities offered on a termly basis in the school. Please use the QR code below to submit any of your comments. We would also like to hear from you if you're able to share a particular skill with the children, or if you have spare time to offer support to the school in any way.
Linc Cymraeg: https://forms.office.com/r/XYCmaArKec
English Link: https://forms.office.com/e/aqK0mxuSCD
Cymry Balch
Llongyfarchiadau i Ruban, Eryn, Iago, Seren, Ivy, Oscar a Carwyn am ennill tystysgrif Cymry Balch ar gyfer mis Chwefror. Diolch am wneud ymdrech enfawr i siarad Cymraeg bob amser yn yr ysgol.
Congratulations to Ruban, Eryn, Iago, Seren, Ivy, Oscar and Carwyn for winning a Cymry Balch certificate for February. Thank you for making a huge effort to speak Welsh at all times in school.
Newyddion CRhA/PTA News
Digwyddiadau Cymdeithas Rhieni ac Athrawon ar gyfer Tymor y Gwanwyn
Digwyddiadau ar gyfer Tymor y Gwanwyn:
Lliain Sychu Llestri Ysgol - Mae'r disgyblion wedi creu eu hunanbortreadau unigol a fydd yn cael eu harddangos ar liain sychu llestri'r ysgol. Gwybodaeth bellach i ddilyn ynglŷn â phrynu'r lliain sychu llestri.
28.3.25 - Stondin Sul y Mamau
11.4.25 - Gorymdaith Bonedau Pasg a Chystadleuaeth Bake Off
Events for the Spring term:
School Tea Towels - Pupils have completed their individual self portraits that will be displayed on the school tea towel. Further information to follow regarding purchasing the tea towel.
28.3.25 - Mother's Day Stall
11.4.25 - Easter Bonnet Parade and Bake Off Competition
Sut i gysylltu/How to get in touch
Instagram: Ysgol Dewi Sant PTA
Facebook: DM us on Facebook. You can find us under Ysgol Dewi Santa PTA
Presenoldeb / Attendance
Presenoldeb Mis Chwefror / February Attendance
Meithrin/Nursery - 88%
Derbyn/Reception - 86%
Blwyddyn 1/Year 1 - 96%
Blwyddyn 2/Year 2 - 95%
Blwyddyn 3/Year 3 - 93%
Blwyddyn 4/Year 4 - 98%
Blwyddyn 5/Year 5 - 91%
Blwyddyn 6/Year 6 - 94%
Llongyfarchiadau i ddosbarth Sycamorwydden (Blwyddyn 4) am y presenoldeb gorau ar gyfer mis Chwefror.
Congratulations to Sycamorwydden (Blwyddyn 4) for the best attendance for the month of February.
Dyddiadur / Diary
3.3.25 - Diwrnod HMS/Inset Day
4.3.25 - Dathlu Dydd Gwyl Dewi/St David's Day Celebration
5.3.25 - Eisteddfod Ysgol / School Eisteddfod
6.3.25 - Diwrnod y Llyfr/World Book Day
13.3.25 - Gwasanaeth Dosbarth Blwyddyn 5/Year 5 Class Assembly
18.3.25 - Diwrnod Pontio Blwyddyn 6/Year 6 Transition Day
20.3.25 - Gwasanaeth Dosbarth Derbyn/Reception Class Assembly
22.3.25 - Eisteddfod Cylch Bro Morgannwg
W. 24.3.25 - Wythnos Nosweithiau Rhieni/Parents Evening Week
28.3.25 - GRhA Stondin Sul y Mamau/PTA Mothers Day Stall
3.4.25 - Gwasanaeth Dosbarth Blwyddyn 1/Year 1 Class Assembly
5.4.25 - Eisteddfod Sir / County Eisteddfod
9.4.25 - Lluniau Dosbarth/Class Photos
10.4.25 - Gwasanaeth Dosbarth Blwyddyn 4/Year 4 Class Assembly
11.4.25 - Pared a chystadleuaeth 'Bake Off' Pasg/Easter Parade and Bake Off competition.
14.4.25 - 25.4.25 - Gwyliau Pasg/Easter Holidays
28.4.25 - Diwrnod HMS/Inset Day
29.4.25 - Disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol/Pupils return to School
17.5.25 - Gŵyl Fach y Fro