Cylchlythyr Ysgol Gymraeg Dewi Sant

Ysgol Gymraeg Dewi Sant Newsletter

Croeso i gylchlythyr Ysgol Gymraeg Dewi Sant

Welcome to Ysgol Gymraeg Dewi Sant Newsletter

Cwrs Preswyl Llangrannog/

Llangrannog Residential Course

Yn ystod wythnos y 9fed o Hydref, bu disgyblion Blwyddyn 5 ar gwrs preswyl yng Nghanolfan yr Urdd Llangrannog. Cafodd y disgyblion wythnos wych wrth gymryd rhan yn nifer o weithgareddau megis sgïo, marchogaeth, nofio, saethyddiaeth, gwibgartio, beicio cwad, gwyllt-grefft, dringo a llawer mwy. Rhoddodd yr holl ddisgyblion gynnig ar y gwahanol weithgareddau, gan wynebu eu hofn wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau newydd. Roedd hefyd yn gyfle gwych i gwrdd â disgyblion blwyddyn 5 o’r saith ysgol o fewn y Clwstwr Cymraeg a fydd maes o law yn mynychu Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg.

Diolch enfawr i Miss Jones, Miss Evans a Mrs Scully am ofalu am y disgyblion yn ystod yr wythnos. Rydym yn hynod ddiolchgar i’r staff ynghyd â’r staff a fynychodd y cwrs preswyl yng Nglan-llyn gyda Blwyddyn 6 sy’n gwirfoddoli i fynychu’r penwythnosau preswyl hyn. Maent yn rhoi eu hamser yn ddi-dâl i sicrhau bod y disgyblion yn cael gofal yn ystod y teithiau hyn - diolch yn fawr iawn i chi!


During the week of the 9th of October, Year 5 pupils attended a residential at the Urdd Centre in Llangrannog. The pupils had a fantastic week participating in various activities such as skiing, horse riding, swimming, archery, go-karting, quad biking, bush craft, climbing and much more. All pupils attempted the various activites, facing their fear when taking part in new activities. It was also a great opportunity to meet year 5 pupils from the seven schools within the Welsh Cluster that will eventually attend Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg. 

A huge thank you to Miss Jones, Miss Evans and Mrs Scully for looking after the pupils during the week. We are extremely grateful to the staff along with the staff that attended the residential at Glan-llyn with Year 6 who volunteer to attend these residentials. They give their time unpaid to ensure that the pupils are cared for during these trips - diolch yn fawr iawn i chi!


Hwyl am y tro Mrs Phillips/

Goodbye for now Mrs Phillips

Ar ddiwedd y tymor fe wnaethom ffarwelio am y tro gyda Mrs Phillips sy'n gadael dros dro i ddechrau ei chyfnod mamolaeth. Dymunwn yn dda i Mrs Phillips ac edrychwn ymlaen at gyfarfod aelod newydd o deulu y Phillips yn fuan iawn.

At the end of the term we said goodbye for now to Mrs Phillips who is leaving temporarily to start her maternity leave. We would like to wish Mrs Phillips all the very best and we look forward to meeting the new member of the Phillips family very soon.

Gwasanaeth y Maer/The Mayor's Service

Ar y 15fed o Hydref, gwahoddwyd côr yr ysgol i Wasanaeth Dinesig Maer y Dref a gynhaliwyd yn Eglwys Sant Illtud. Perfformiodd y côr ganeuon gyda disgyblion Ysgol Gynradd Sant Illtud ar gyfer Maer y Dref ac aelodau Cyngor y Dref. Da iawn hefyd i Alice, Moana ac Ava a wahoddwyd i gymryd rhan yn y gwasanaeth trwy rannu darlleniadau a ddewiswyd gan y Maer.

On the 15th of October, the school choir was invited to the Civic Service of the Town Mayor which was held at St Illtud's Parish Church. The choir performed songs with pupils from St Illtud Primary School for the Town Mayor and members of the Town Council. Well done also to Alice, Moana and Ava who were invited to participate in the service by sharing readings chosen by the Mayor.

Diolch Enfawr/A Huge Thank You

Diolch yn fawr i rieni'r plant yma sydd wedi bod yn brysur iawn yn ein helpu i adeiladu pwll. Rydym yn ffodus iawn i gael eich cymorth i greu’r ardal arbennig hon ar dir yr ysgol. Derbyniwyd cyllid drwy Bartneriaeth Natur Leol Bro Morgannwg a nod y prosiect yw cynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu gwydnwch ecosystemau.


Many thanks to the parents of these children who have been very busy helping us build a pond. We are very lucky to have your help in creating this special area on the school grounds. Funding was received via the Vale of Glamorgan Local Nature Partnership and the aim of the project is to maintain and enhance biodiversity and promote the resilience of ecosystems.


Diwrnod Shwmae Su'mae

Ar y 15fed o Hydref rhannodd yr ysgol fideo i hyrwyddo Diwrnod Shwmae Su'mae. Fel cymuned ysgol rydym yn ffodus iawn ein bod yn gallu siarad a rhannu cariad at ein hiaith gyda chi.

On the 15th of October the school shared a video to promote Diwrnod Shwmae Su'mae. As a school community we are very fortunate that we are able to speak and share the love of our language with you.


Fideo Shwmae Su'mae 

Llongyfarchiadau Clwb Garddio/

Congratulations to the Gardening Club

Llongyfarchiadau enfawr i'r Clwb Garddio sydd wedi derbyn Gwobr Garddio Ysgolion Lefel 1 gan yr RHS yn ddiweddar. Llwyddiant gwych - da iawn chi!

A huge congratulations to the Gardening Club who have recently been awarded with Level 1 School Gardening Award by the RHS. A fantastic achivement - well done!

Prynhawn Coffi Macmillan/

Macmillan Coffee Afternoon

Diolch i’r teuluoedd ddaeth i brynhawn Coffi MacMillan ar ddydd Iau y 5ed o Hydref. Diolch hefyd i’r rhieni a’r staff a gyfrannodd cacennau a bisgedi. Codwyd £184 i'r elusen - diolch yn fawr!

Thank you to the families that attended the MacMillan Coffee afternoon on Thursday the 5th of October. Thank you also to the parents and staff that donated cakes and biscuits. We raised £184 for the charity - diolch yn fawr!

Cystadleuaeth CogUrdd/CogUrdd Competition

Ar y 23ain o Hydref bu disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 yn cystadlu yng Nghystadleuaeth CogUrdd. Cymerodd chwech ar hugain o ddisgyblion ran yn y gystadleuaeth a’r briff oedd creu salad. Llongyfarchiadau i bob disgybl a gymerodd ran ar y diwrnod. Enillydd y gystadleuaeth oedd Phoebe o Flwyddyn 6 a fydd nawr yn cystadlu yn y rownd ranbarthol ym mis Tachwedd. Llongyfarchiadau hefyd i Aria a Nia a ddaeth yn ail, ac i Edan a Niamh  a ddaeth yn drydydd. Hoffem ddiolch hefyd i Mrs Jennings a Mrs Edwards a dreuliodd y bore gyda ni yn beirniadu’r gystadleuaeth. Roedd eu tasg yn anodd iawn oherwydd y safon uchel a ddangoswyd ar y diwrnod.

On the 23rd of October, pupils from years 4, 5 and 6 competed in the CogUrdd Competition. Twenty six pupils took part in the competition where the brief was to create a salad. Congratulations to every pupil that took part on the day. The winner of the competition was Phoebe from Year 6 who will compete in the regional round in November. Also congratulations to second place Aria and Nia, and to 3rd place Edan and Niamh. We would also like to thank Mrs Jennings and Mrs Edwards who spent the morning with us judging the competition. Their task was very difficult due to the high standard shown on the day.

Gweithdy 'Nuts for the Trees' Workshop

Ar y 26ain o Hydref, cymerodd disgyblion Blwyddyn 3 ran mewn gweithdy o'r enw 'Cnau i Goed' a ddarparwyd gan Aberddawan a'u gwaith prosiect cyfredol 'Adfer y Ddawan'. Yn ystod y sesiwn bu’r disgyblion yn chwilio am hadau coed ar ein tir ysgol, yn ailblannu, ac yn dysgu am fioamrywiaeth ar hyd y ffordd. Cludwyd glasbrennau hefyd gyda'r bwriad o'u tyfu a'u hail-blannu ar dir yr ysgol. Mwynhaodd y plant y sesiwn yn yr awyr agored yn archwilio tir yr ysgol yn fawr.

On the 26th of October, pupils from Year 3 participated in a workshop called 'Nuts for Trees' provided by Aberthaw and their current project work 'Restore the Thaw'. During the session the pupils searched for tree seeds on our own grounds, replanted, and learnt about biodiversity along the way. Saplings were also taken away with the aim of growing them and re-planting them in the school grounds. The children thoroughly enjoyed the session in the outdoors exploring the school grounds.

Ymweliad i Sant Fagan/Visit to St Fagan

Ymwelodd disgyblion o Flynyddoedd 2 a 3 â Sain Ffagan ar y 9fed o Hydref fel rhan o’u gwaith Dyniaethau y tymor hwn. Treuliodd disgyblion Blwyddyn 2 amser mewn gweithdy yn dysgu am Ddiwrnod Golchi gyda Beti Bwt. Cawsant hefyd gyfle i archwilio’r gwahanol gartrefi ac adeiladau yn Sain Ffagan. Bu disgyblion Blwyddyn 3 yn treulio amser yn y Pentref Celtaidd yn Sain Ffagan lle buont yn dysgu am fywyd a chartrefi o’r cyfnod hwn. Diolch byth roedd y tywydd yn sych a mwynhaodd y ddau ddosbarth eu diwrnod yn fawr. Diolch i’r rhieni a gefnogodd yn ystod y dydd.


Pupils from Years 2 and 3 visited St Fagan on the 9th of October as part of their Humanities work this term. Year 2 pupils spent time in a workshop learning about a Washing day with Beti Bwt. They also had the opportunity to explore the different homes and building in St Fagan. Year 3 pupils spend time at the Celtic Village in St Fagan where they learnt about life and homes from this period. Thankfully the weather was dry and both classes throughly enjoyed their day. Thank you to the parents that supported during the day.

Hawliau Plant/Rights of the Child

Mae disgyblion Blwyddyn 6 wedi bod yn edrych yn fanwl ar Hawliau’r Plentyn fel rhan o’u gwaith thema y tymor hwn. Bu’r disgyblion yn trafod pwysigrwydd Hawliau’r Plentyn ac yn creu posteri i hybu’r hawliau. Da iawn Blwyddyn 6.

Year 6 pupils have been looking in detail at the Rights of the Child as part of their topic work this term. The pupils discussed the importance of the Rights of the Child and created posters to promote the rights. Well done Year 6.

Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2023/

World Mental Health Day 2023

Ar y 10fed o Hydref fe wisgodd yr holl ddisgyblion melyn i godi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2023. Bu’r disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau drwy gydol y dydd sy’n helpu i gefnogi iechyd emosiynol a meddyliol.


On the 10th of October all pupils wore yellow to raise awareness of World Mental Health Day 2023. The pupils participated in various activities through out the day that help support emotional and mental health. 

Kerb Craft

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae disgyblion Blwyddyn 2 wedi bod yn cymryd rhan mewn gwersi 'Kerb Craft' sy'n helpu i ddysgu'r plant sut i fod yn ddiogel wrth groesi'r ffordd. Rydym yn hynod o ddiolchgar i Mr John Rodgers o’r Awdurdod Lleol am weithio gyda’r plant a’u dysgu sut i fod yn ddiogel. Mae’r disgyblion wedi ymarfer croesi ffyrdd yn yr ysgol ac allan yn y gymuned leol. Diolch Mr Rodgers.

During the past few weeks, pupils from Year 2 have been participating in Kerb Craft lessons that help teach the children how to be safe when crossing the road. We are extremely grateful to Mr John Rodgers from the Local Authority for working with the children and teaching them how to be safe. The pupils have practiced crossing roads in school and out in the local community. Diolch Mr Rodgers.

Dathlu y Cynhaeaf/Harvest Celebration

Fel rhan o ddathliadau’r Cynhaeaf eleni, rydym unwaith eto wedi bod yn casglu bwyd i’r Banc Bwyd yn y Barri. Diolch i’r Cyngor Ysgol am drefnu’r casgliad a diolch yn fawr iawn i’r holl deuluoedd am ddanfon bwyd i’r ysgol yn ystod wythnos olaf yr hanner tymor. Byddwn yn sicrhau bydd y bwyd yn cael ei ddosbarthu i’r banc bwyd a’i rannu gyda'r teuluoedd sy’n gweld pethau’n anodd ar hyn o bryd. Ar y 26ain o Hydref, cynhaliodd yr ysgol Wasanaeth Diolchgarwch i'r holl ddisgyblion.

As part of this years Harvest celebrations, we have once again been collecting food for the Food Bank in Barry. Thank to the School Council for organising the collection and  a huge thank you to all families who sent food in to school during the last week of the half term. We will ensure that the food is delivered to the food bank and shared with the many families who are finding things difficult at the moment. On the 26th of October, the school held a Harvest assembly for pupils.

O Dan y Chwyddwydr / Spot Light On

Polisi Perthnasedd/Relationship Policy

“Mae perthnasoedd cadarnhaol mewn ysgolion yn ganolog i les myfyrwyr ac athrawon ac yn 

sail i amgylchedd dysgu effeithiol.”


Yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant gwelwn berthnasoedd fel y ffactor mwyaf arwyddocaol sy’n dylanwadu ar lwyddiant ein hysgol. Rydyn ni eisiau i bawb deimlo a phrofi ymdeimlad o berthyn, diogelwch, cariad a pharch. Credwn pan fydd pobl, yn enwedig plant, yn cael eu gwerthfawrogi a’u meithrin yn wirioneddol fel unigolion, eu bod yn teimlo synnwyr o bwrpas ac yn deall eu lle mewn cymuned. Pan fydd hyn yn digwydd mewn ysgolion, mae plant yn ymgysylltu ac yn ffynnu gyda lefelau uchel o les ac yn datblygu cariad at ddysgu.

 

Mae gennym ddisgwyliadau uchel o ymddygiad gan ein disgyblion ac oedolion a chredwn yn gryf fod pob ymddygiad yn gyfrwng cyfathrebu; ffordd o fynegi emosiynau. Mae ein Polisi Perthnasoedd Cadarnhaol yn sicrhau, o fewn fframwaith o ddisgwyliadau, arferion, hawliau a chyfrifoldebau. Byddwn yn arwain, yn annog ac yn addysgu disgyblion i ffurfio perthnasoedd cadarnhaol â phawb sydd o’u cwmpas sydd yn ei dro yn caniatáu i athrawon addysgu a disgyblion i ddysgu.


Yn Ysgol Gymraeg Dewi Sant, ein disgwyliadau yw bod pob disgybl yn barod i ddysgu, yn barchus ac yn ddiogel. Rydym hefyd yn disgwyl i bob disgybl siarad Cymraeg ar bob cyfle. Rydym yn galw’r rhain yn ‘Disgwyliadau Dewi Sant’.


Rydym yn cydnabod nad oes neb yn berffaith! Mae hyn yn cynnwys disgyblion ac oedolion. Bydd adegau pan fydd pob un ohonom yn gwylltio, yn ypsetio neu'n ddig. Rydym yn galw’r teimlad hwn yn ‘wobble’ ac yn dysgu’r plant bod hyn yn gwbl dderbyniol ac yn arferol.

Byddwn yn cefnogi’r plant a’r staff gan ddefnyddio ystod o strategaethau a thechnegau, fel y gallwn adnabod a deall gwahanol deimladau ac ymateb mewn modd sy’n gymdeithasol briodol. 


Canlyniadau - I’r mwyafrif helaeth o ddisgyblion, atgof ysgafn neu hwb i’r cyfeiriad cywir yw’r cyfan sydd ei angen. Gall hwn fod yn air tawel neu'n ciw gweledol er mwyn cywiro'r ymddygiad. Lle mae disgyblion yn dangos ymddygiad mwy heriol, bydd nodyn atgoffa neu rybudd o’r disgwyliadau yn cael ei rannu gyda’r disgybl gan gyfeirio at reolau ‘Barod, Parchus a Diogel’. Os bydd disgybl yn penderfynu peidio â chywiro ei ymddygiad, bydd y canlyniadau'n cael eu hamlinellu'n glir i'r disgybl a byddwn yn cyfathrebu gyda’r rhieni.

 

Mae copi o’r Polisi Perthnasoedd ar wefan yr ysgol os hoffech weld y polisi llawn.


“Positive relationships in schools are central to the well-being of both students and teachers and 

underpin an effective learning environment.”

 

At Ysgol Gymraeg Dewi Sant we view relationships as the most significant factor that influences success at our school. We want everyone to feel and experience a sense of belonging, safety, love and respect. We believe that when people, especially children, are genuinely valued and nurtured as individuals, they feel a sense of purpose and understand their place in a community. When this happens in schools, children engage and thrive with high levels of well-being and develop a love for learning.


We have high expectations of behaviour from both our pupils and adults and strongly believe that all behaviour is a means of communication; a way of expressing emotions. Our Positive Relationships Policy ensures that within a framework of expectations, routines, rights and responsibilities, we guide, encourage and teach pupils to form positive relationships with all that are around them which in turn, allows teachers to teach and pupils to learn.


At Ysgol Gymraeg Dewi Sant, our expectations are that all pupils are ready to learn, are respectful and safe. We also expect all pupils to speak Welsh at every opportunity. We call these ‘Disgwyliadau Dewi Sant’.


However, we recognise that no one is perfect! This includes pupils and adults. There will be times when all of us get annoyed, upset or angry. We call this feeling a ‘wobble’ and will teach the children that this is perfectly acceptable and normal. We will support the children and staff using a range of strategies and techniques, so that we can recognise and understand different feelings and respond in a socially appropriate manner.


Consequences - For the vast majority of pupils, a gentle reminder or nudge in the right direction is all that is needed. This may be a quiet word or a visual cue in order to correct the behaviour.  Where pupils are displaying more distressing behaviour, a reminder or warning of the expectations will be shared with the pupil referring to the rules of ‘Ready, Respectful and Safe’. Should a pupil decide not to correct their behaviour, consequences will be outlined clearly to the pupil and will be communicated to the parents.

 

A copy of the Relationships Policy is on the school website if you would like to view it in full.


 Polisi Perthnasedd/Relationships Policy 

Gwasanaeth Ysgol In-Reach/School In-Reach Service

Mae eich Barn yn bwysig!/Your opinion matters!

Mae croeso i chi fel rhieni i gysylltu gyda ni os oes gennych unrhyw syniadau neu sylwadau i gynnig ynghylch ein cwricwlwm a'r gweithgareddau sy'n digwydd yn dymhorol yn yr ysgol. Defnyddiwch y ffurflen a'r cod QR isod i fewnbynnu eich syniadau. Hoffwn hefyd glywed gennych chi os oes gennych sgil i'w rhannu neu amser i gynnig i helpu'r ysgol mewn unrhyw ffordd. 


We would like to encourage you as parents to contact us should you have any ideas or comments to offer with regard to our curriculum or the activities offered on a termly basis in the school. Please use the QR code below to submit any of your comments. We would also like to hear from you if you're able to share a particular skill with the children, or if you have spare time to offer support to the school in any way.

Cymry Balch

Llongyfarchiadau i Tomos, Arianne, Leighton, Thea, Niamh, Charlie, Lottie am ennill tystysgrif Cymry Balch ar gyfer mis Hydref. Diolch am wneud ymdrech enfawr i siarad Cymraeg bob amser yn yr ysgol. 


Congratulations to Tomos, Arianne, Leighton, Thea, Niamh, Charlie, Lottie for winning a Cymry Balch certificate for October. Thank you for making a huge effort to speak Welsh at all times in school. 

Llongyfarchiadau hefyd i'r disgyblion sydd wedi ennill Clod Cymreictod yn ystod mis Hydref.

Congratulations also to the pupils that won the Clod Cymreictod during October.

Newyddion CRhA/PTA News

Digwyddiadau Cymdeithas Rhieni ac Athrawon ar gyfer Tymor yr Hydref


Disgo Calan Gaeaf 

Nos Iau y 26ain o Hydref gwelwyd llawer o ddisgyblion yn gwisgo lan yn eu gwisgoedd Calan Gaeaf gorau ar gyfer disgo Calan Gaeaf y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon. Diolch i’r rhieni a brynodd docynnau ac a gefnogodd y digwyddiad. Daeth nifer ffantastig yno ac roedd y gwisgoedd yn wych.


I ddod:


30/11/23 - Noson Ffilm / Film Night


6/12/23 - Ffair Nadolig


PTA Events for the Autumn Term

Halloween Disco 

Thursday the 26th of October saw lots of pupils dressing up in their best Halloween outfits for the PTA Halloween disco. Thank you to the parents that bought tickets and supported the event. There was a fantastic turn out and the costumes were brilliant.


Events to come:


30/11/23 - Film Night


6/12/23 - Christmas Fayre


Sut i gysylltu/How to get in touch

Twitter: DM us @YDewiSantPTA

Facebook: PM us on Facebook. You can find us under Ysgol Dewi Santa PTA


                   

Presenoldeb / Attendance


Targed presenoldeb yr ysgol ar gyfer eleni yw 95%. Sicrhewch fod eich plentyn yn mynychu'r ysgol fel ein bod yn gallu cyrraedd y targed a osodwyd.


Diolch i chi am ein cefnogi gyda'r ymgyrch presenoldeb. Ym mis Medi fe gyrhaeddon ni ein targed gyda phresenoldeb o 95.10% - Diolch!

Y dosbarth gyda'r presenoldeb gorau ar gyfer mis Hydref oedd Bedwen (Blwyddyn 3 ) gyda 97%.


The school attendance target for this year is 95%. Please ensure that your child attends school so that we are able to reach the target set. 

Thank you to you for supporting us with the attendance campaign. In September we hit our target with attendance at 95.10% - Diolch!

The class with the best attendance for October was Bedwen (Year 3) with 97%.



Dyddiadur / Diary

30.10.23 - 3.11.23 - Hanner Tymor/Half Term

6.11.23 - Lluniau Unigol/Individual Photos

13.11.23 - Brechiad Ffliw - Derbyn i Flwyddyn 6/Flu Vaccination - Reception to Year 6

15.11.23 - Gweithdai 'Bullies Out' Blwyddyn 3 - 6/'Bullies Out' Workshops Years 3 - 6

16.11.23 - 9.30am Gwasanaeth Dosbarth Blwyddyn 6/Year 6 Class assembly

17.11.23 - Plant Mewn Angen - Gwisgwch eich Pyjamas/Children in Need - Wear your Pyjamas

20.11.23 - Wythnos Diogelwch y Ffordd/Road Safety Week

30.11.23 - Sioe Nadolig 'Babis Bach' - Meithrin/Christmas Show 'Babis Bach' - Meithrin

30.11.23 - Noson Ffilm/Film Night

1.12.23 -  Sioe Nadolig - Derbyn, Blwyddyn 1 & 2/Christmas Show - Reception, Year 1 & 2

4.12.23 - Diwrnod HMS/INSET Day

6.12.23 - Ffair Nadolig/Christmas Fayre


Perfformiadau Cyngherddau Nadolig Ysgol/School Christmas Concert Performances

12.12.23 - Perfformaid Bore/Morning Performance (9.30am)

                        Perfformiad Meithrin/Derbyn & Perfformiad Cyngerdd Blwyddyn 1 & 2 

                        Nursery/Reception Performance & Year 1 & 2 Performance


13.12.23 - Perfformaid Bore/Morning Performance (9.30am)

                        Perfformiad Meithrin/Derbyn yn unig

                        Nursery/Reception Performance only


                       Perfformiad Prynhawn/Afternoon Performance (2.00pm)

                       Perfformiad Cyngerdd Blwyddyn 1 & 2 yn unig

                       Year 1 & 2 Performance only


14.12.23 - Cyngerdd Nadolig Cyfnod Allweddol 2 - Eglwys St Illtud (2.00pm)

                        Key Stage 2 Christmas Performance - St Illtud Church



22.12.23 - Diwedd Tymor/End of Term


8.1.24 - Diwrnod HMS/Inset Day

9.1.24 - Disgyblion yn dychwelyd i'r ysgol/Pupils return to School

19.2.24 - Diwrnod HMS/Inset Day