Prosiect
Lessons from Auschwitz

Prosiect Auschwitz 2022-2023

 

Ar yr wythfed ar hugain o Chwefror, derbyniais i a Tom y fraint o allu cynrychioli’r ysgol wrth deithio i Wlad Pwyl am ddiwrnod ingol gyda’r elusen Holocost Education Trust.  Bwriad yr ymweliad oedd i gofio am fywydau dioddefwyr yr Holocost. Roedd yn brofiad bythgofiadwy ac emosiynol, wrth i ni grwydo’r dref Oświęcim ac yna ymweld â’r gwersyll adnabyddus Auschwitz ll. Roedd ymweld â’r adeiladau a gweld maint y gwersylloedd yn brofiad dirdynnol  ac yn brofiad nad anghofiwn wrth weld y rhestr diddiwedd o enwau y dioddefwyr yn y llyfr ‘Book of Names’. Dychmygwch -  4 miliwn o enwau yn gorchuddio’r tudalennau. Anodd oedd credu maint yr ail Wersyll Crynhoi Auschwitz-Birkenau, wrth i ni grwydro’r gwersyll a myfyrio, wrth gofio hanes y milynau bu farw yn ddi drugaredd. Y profiad mwyaf trawiadol oedd gwrando ar y Rabbi yn darllen cerdd am yr holl bobl collodd eu bywydau yng ngwersylloedd, fel Auschwitz-Birkenau, ar draws Ewrop. I orffen ein taith fel llysgenhadwyr, cawsom ni’r cyfle bythgofiadwy i gwrdd ag un o oroeswyr yr Holocost, Mr Manfred Goldberg. Rhoddodd y profiad o wrando ar stori ei fywyd ac ar fywyd ei deulu ias i’r ddau ohonom a’n hatgoffa o bwysigrwydd y daith sef i barhau i gofio unigolion a ddioddefodd erchyllterau’r Holocost ac i ledaenu’r hanes i’r genhedlaeth iau. Greta Hall Williams

 
Gan Greta Hall Williams 12C1