Mr Arlotte

(Blwyddyn 1/2 / Year 1/2)

Croeso i wefan gwaith cartref dosbarth Mr Arlotte. Bydd gwaith cartref y disgyblion yn cael ei osod ar ddechrau bob hanner tymor a bydd tasgau Iaith a Mathemateg yn cael eu darparu ar eu cyfer. Y prif bethau y dylai'r disgyblion fod yn eu gwneud adref yw darllen yn gyson, ymarfer sillafu ac ymarfer y tablau.

Gall y disgyblion gwblhau'r gwaith cartref pryd y mynnent ond rydym yn eu hannog i gwblhau tasg yn wythnosol. Gall y disgyblion gwblhau'r gwaith yn y llyfr sy'n cael ei ddarparu ar eu cyfer neu uwchlwytho'r gwaith ar 'Seesaw'. Gweler y cyfarwyddiadau isod.

Welcome to Mr Arlotte's class homework website. The pupils' homework is set at the beginning of each half term and both language and Maths tasks are provided for the pupils. The main things the pupils should be doing at home are: reading on a regular basis, practise their spelling and their tables.

The pupils can complete their homework when they wish but we do encourage them to try to complete a task each week. They can complete the work in the book provided for them or they can upload their work on 'Seesaw'. See the instructions below.

Llythyr Seesaw 2022-23.pdf

Cyswllt gyda'r cartref / Links with the home:

Llythyr cyswllt gyda'r cartref.pdf
Llythyr schoop.pdf

Gwefan yr ysgol:

The school's website:

www.ysgolgymraegcwmbran.co.uk

Cofiwch i rannu eich lluniau gyda ni ar gyfrif Twitter yr ysgol. Dilynwch ein dosbarth gyda'r hashnod #DosbMariJones.

Remember to share your photos with us on the school's Twitter account. Follow our class with the hashtag #DosbMariJones.

@ygcwmbran

Cymorth gyda Mathemateg / Support with Maths:

Y peth pwysicaf gyda Mathemateg yw bod y disgyblion yn deall gwaith rhif. Mae’n anodd iddynt symud ymlaen at rywbeth arall e.e. gwaith arian, amser ayyb os nad ydynt yn deall gwaith rhif. Yn ystod y tymor cyntaf bob blwyddyn, byddwn yn canolbwyntio yn bennaf ar waith rif er mwyn sicrhau bod y disgyblion a dealltwriaeth dda o rif cyn symud ymlaen at bethau eraill. Isod ceir syniad o’r math o bethau y gallwch helpu eich plentyn gydag adref. Cofiwch mai syniad yw’r rhain yn unig ac mae cefnogi gydag unrhyw beth yn help enfawr.


The most important thing with Maths is that the pupils understand number work. It’s hard for the pupils to move on to other things e.g. work on money or time if they don’t understand the number system to begin with. During the first term of every year, we will be concentrating mainly on number work, ensuring that the pupils have good understanding of the number system before moving on to other things. Below is an idea of the kind of things you could help your child with at home. Remember that they’re only an idea, and supporting your child with anything is a big help.

Blwyddyn 1 / Year 1:

Blwyddyn 2 / Year 2:

Mathemateg - bl 1.pdf
Mathemateg - Bl 2.pdf

Diolch yn fawr / Thank you!