Ysgol yr Hendre

Dyluniad Cwricwlwm


Cyd-destun Ysgol yr Hendre

Agorwyd drysau'r adeilad newydd ym mis Mawrth 2012, ac mae dyluniad yr ysgol yn unigryw iawn. Credwn fod llais y disgybl yn allweddol bwysig i unrhyw ddatblygiad o fewn yr ysgol a hynny hefyd yn wir am ddyluniad yr adeilad. Dymuniad y disgyblion oedd cael ysgol oedd yn edrych fel castell! Yn wir, dyma a gafwyd! Mae'r ysgol wedi ei dylunio a'i adeiladu i efelychu siâp castell Caernarfon.




Mae cynhwysiant wrth wraidd ein hathroniaeth addysgol. Mae ein hysgol ni’n darparu amgylchedd cyffrous a hapus lle caiff plant eu hannog i ddod yn ddysgwyr annibynnol. Mae pob plentyn yn cael ei werthfawrogi fel unigolyn ac yn cael addysg eang a chytbwys er mwyn iddynt ddod yn ddysgwyr aeddfed, cyfrifol a hapus, sy'n cyfrannu at ddiwylliant ac ethos yr ysgol a'r gymuned ehangach.

Mae Ysgol yr Hendre, sydd wedi'i lleoli yn nhref hanesyddol Caernarfon, yn gartref i dros 400 o ddisgyblion, oll yn blant arbennig iawn. Mae ein gweledigaeth yn rhoi anghenion plant uwchlaw popeth arall, ac rydym yn gwbl argyhoeddedig fod y disgyblion yn haeddu'r cyfleoedd a phrofiadau addysgol gorau y gallwn eu darparu iddynt.​



Mae disgyblion yr ysgol yn cael eu rhannu’n 16 dosbarth a’r Gymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol. Mae tua 22% o’r disgyblion yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim ac mae’r ysgol wedi adnabod tua 15% o’i disgyblion fel rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.




Ein Gweledigaeth a'n Gwerthoedd:​


​Dysgu gyda’n gilydd yn Ysgol Yr Hendre i ysgogi ac ysbrydoli ein disgyblion i fod y gorau y gallent fod, i fyw yn hapus a bod yn hyderus mewn byd sy’n newid drwy’r amser!​


Partneriaeth yw addysg! Partneriaeth a pherthynas agos rhwng y plant, rhieni, staff a’r llywodraethwyr i sicrhau llwyddiant a hapusrwydd eich plentyn. Trwy gydweithredu hyderwn y bydd cyfnod eich plentyn gyda ni yn un hapus ac y bydd yn datblygu i’r eithaf yn addysgol a chymdeithasol. ​


Gyda’n gilydd, mi fyddwn yn gryfach!



Datblygu Gweledigaeth a Rennir

Trwy holi barn disgyblion, rhieni, staff a llywodraethwyr, datblygwyd gweledigaeth a rennir gyda phawb sydd ynghlwm â'r ysgol.

Casglwyd nifer o eiriau allweddol er mwyn cyfleu darlun eang o'r gwerthoedd ac ymagweddau rydym yn ceisio hyrwyddo yn Ysgol yr Hendre.

Ein Gweledigaeth a'n Gwerthoedd

Ein nod yn yr ysgol yw darparu addysg a phrofiadau o’r ansawdd uchaf i ysbrydoli pob plentyn i lwyddo beth bynnag eu gallu, cefndir a’u natur.

Trwy gynnig safon uchel o addysg, profiadau cyfoethog oddi fewn a thu allan i’r dosbarth mewn awyrgylch sy’n hapus, diogel a gofalgar byddwn yn sicrhau bod ein disgyblion yn datblygu’r sgiliau i fod yn aelodau gwerthfawr o’u cymdeithas ac yn datblygu i’w potensial yn llawn.

3 Rheol Ysgol yr Hendre

  • Byddwch yn Barod

  • Byddwch yn Barchus

  • Byddwch yn Ddiogel

4 Diben Cwricwlwm i Gymru




Mae 4 Diben Cwricwlwm i Gymru wrth wraidd Cwricwlwm Ysgol Yr Hendre.

Maen nhw’n sail i bob agwedd o'n dylunio cwricwlwm, ein cynllunio a’n addysgu. Mae ein gweledigaeth a’n gwerthoedd fel ysgol yn cefnogi’r 4 diben a chrynhown isod yr hyn maent yn ei olygu i ni. Bydd ein profiadau dysgu a’n dulliau addysgu yn anelu at wireddu’r isod bob amser.

Cyfrifoldebau Cwricwlwm

Mae ein Cwricwlwm yn Ysgol Yr Hendre yn gwreiddio’r sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol a’r sgiliau annatod sy’n sail i bedwar diben y Cwricwlwm.

Mae sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol yn hanfodol i alluogi dysgwyr i wireddu’r pedwar diben. Mae’r sgiliau trawsgwricwlaidd yma wedi’u gwreiddio a’u datblygu ar draws pob maes dysgu a phrofiad, i alluogi dysgwyr i gael mynediad i’r cwricwlwm cyfan a’u defnyddio yn y dyfodol.

Yn Ysgol Yr Hendre rydym yn ystyried yn ofalus elfennau mandadol y Cwricwlwm wrth gynllunio ac rydym yn manylu ar ein bwriad ar gyfer yr elfennau hyn o fewn ein polisïau.​

3 Sgil Trawsgwricwlaidd

Mae ein dysgwyr yn cael cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i:​

  • ddatblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu;​

  • allu defnyddio sgiliau rhif a datrys problemau mewn sefyllfaoedd go iawn;​

  • fod yn ddefnyddwyr hyderus o ystod o dechnolegau i'w helpu i weithredu a chyfathrebu'n effeithiol a gwneud synnwyr o'r byd;​


Sgiliau Cyfannol

Wrth gynllunio ein darpariaeth rydym yn sicrhau bod ein dysgwyr yn cael profiadau dysgu o ansawdd uchel, cyfoethog, eang a chytbwys. Rydym hefyd yn sicrhau bod ein darpariaeth a’n haddysgu yn canolbwyntio ar datblygu’r sgiliau allaweddol, sy’n hanfodol i gyflawni’r pedwar diben.​

5 Thema Trawsgwricwlaidd

Wrth ddylunio ein cwricwlwm rydym wedi cynnwys y pum thema trawsgwricwlaidd ac wedi ystyried yr elfennau statudol o fewn fframwaith CaW:​

  • Gyrfaoedd a Phrofiad Cysylltiedig â Gwaith​

  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015)​

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn​

  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau​

  • Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysgol (2018)​

Addysgeg

Ein nod yn yr ysgol yw darparu addysg a phrofiadau o’r ansawdd uchaf i ysbrydoli pob plentyn i lwyddo. Rydym am i’r cwricwlwm a'r profiadau dysu i'w hysgogi! Cwricwlwm sy’n eang ac yn llawn diddordeb a phrofiadau i’r plant. Cwricwlwm a wnaiff roi’r cyfle iddynt adael Ysgol Yr Hendre yn ddysgwyr gydol oes, sy’n gwbl ddwyieithog ac sydd â’r sgiliau academaidd ac emosiynol i dderbyn unrhyw her fydd gan fywyd yn yr 21ain Ganrif i’w gynnig iddynt.

Sut ydyn ni’n addysgu?

Bydd athrawon yn hwyluswyr dysgu. Gan ystyried anghenion, barn a chamau dysgu’r dysgwyr, byddant yn cynllunio profiadau hwyliog, heriol a blaengar. Bydd gan ddysgwyr lais cryf i ddylanwadu ar eu dysgu. Fel yr arbenigwyr, y staff addysgu fydd yn cyfeirio’r dysgu i gyfeiriad priodol gan ystyried barn a syniadau’r dysgwyr. ​​

Bydd dysgwyr yn dylanwadu ar ddyluniad eu hamgylchedd dysgu. Byddant yn cael cyfleoedd i weithio mewn ffyrdd sy’n cyfoethogi eu dysgu a hefyd i gyflwyno eu gwaith yn eu ffordd bersonol unigryw eu hunain.





Mae Ysgol yr Hendre yn sefydliad sy’n dysgu. Hynny yw, mae pawb sydd ynghlwm a’r ysgol yn gyfrifol am ddarparu’r addysg gorau i'n disgyblion. Trwy rhannu gweledigaeth a chyd-weithio, rydym yn ceisio sicrhau bod pob disgybl yn llwyddo. Er mwyn i'n disgyblion derbyn yr addysg orau, rydym yn ymchwilio a dysgu am addysgeg effeithiol ac rydym yn gosod datblygiad proffesiynol ein staff fel blaenoriaeth er mwyn gwireddu’r deilliant hwn.





Addysgeg yw’r grefft o addysgu, ac yma yn Ysgol yr Hendre, rydym yn ceisio darparu profiadau a chyfleoedd cyfoethog sy’n cynnwys deilliannau caiff eu rhannu rhwng disgyblion a’r staff mewn awyrgylch ysgogol a phositif. Rydym yn annog bawb i ymdrechu hyd eu gorau a dyfalbarhau gyda heriau amrywiol sydd yn ei dro yn datblygu gwytnwch ein disgyblion.

Mae addysgeg effeithiol yn golygu darpariaeth sy’n diwallu anghenion amrywiol. Mae pob un disgybl yn Ysgol yr Hendre yn unigryw ac rydym yn ceisio cynllunio gwersi a phrofiadau sy’n ymateb i hyn. Rydym yn gwrando ar y disgyblion, gan roi llais iddynt ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw ac o ran beth y hoffai ei ddysgu. Wrth adeiladu cwricwlwm sy’n agored i bawb, rydym yn gweithredu’r 12 Egwyddor Addysgeg sydd yn ffocysu ar addysgu effeithiol ac yn ei dro yn sicrhau dysgu dwfn ac yn gwireddu’r 4 Diben.

12 Egwyddor Addysgeg

Meysydd Dysgu a Phrofiad

Mae Cwricwlwm i Gymru yn rhoi rhyddid i ni gynllunio ein cynnwys ein hunain yn seiliedig ar:

·6 Maes Dysgu a Phrofiad a’u Datganiadau o’r Hyn sy’n bwysig;

·Datblygu Sgiliau Trawsgwricwlaidd;

·5 o Themâu Trawsbynciol;


Mae'r 'Datganiadau o’r Hyn Sy’n Bwysig' ar gyfer bob Maes yn sail i’n cynllunio ar gyfer cynnydd, dyfnder ac ehangder sgiliau a gwybodaeth ac ar gyfer cynnydd dysgwyr.

Mae gennym Dimau MDPh sydd wedi cydweithio i ddatgloi’r 27 Datganiad o’r Hyn sy’n Bwysig i greu cysylltiadau ar draws yr holl Feysydd Dysgu a Phrofiad fel sy’n briodol.


Cynllunio


Cymraeg fydd iaith dydd i ddydd yr ysgol. Rydym yn ymgorffori egwyddorion y Siarter Iaith i'r cwricwlwm cyflawn ac ym mhob agwedd o'n gwaith.

Addysgir yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at 7 oed. Cyflwynir Saesneg yn raddol i ddysgwyr yn unol â'u parodrwydd at hynny o 7 oed ymlaen. Addysgir 50-70% yn y Gymraeg o 8-11 oed, yn ddibynnol ar anghenion blynyddoedd penodol. Ein nod yw sicrhau bod pob dysgwr yn hyderus ddwyieithog yn gadael yr ysgol.


Wrth gynllunio yn Ysgol Yr Hendre, rhoddir pwyslais ar gynnig profiadau dysgu cyfoethog, eang a dwfn o ansawdd uchel i’n dysgwyr sy’n addas ar gyfer eu hoedran a’u datblygiad: Credwn fod rhoi digon o amser i ddysgwyr feithrin, ymarfer a chymhwyso gwybodaeth a sgiliau yn allweddol er mwyn gwreiddio eu dysgu. Byddwn yn magu brwdfrydedd y dysgwyr tuag at eu dysgu trwy sicrhau eu bod yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gynllunio’r ‘Cwestiwn Mawr’ a'r profiadau dysgu bob tymor. O fewn ein cynllunio byddwn yn sicrhau bod ein profiadau dysgu a’n haddysgu yn datblygu’r sgiliau cyfannol a thrawsgwricwlaidd sydd eu hangen ar ein dysgwyr i gyflawni’r 4 diben.


ADY a Chynhwysiant

Fel ysgol rydym yn sicrhau bod anghenion pob dysgwr yn cael eu diwallu trwy ddarpariaeth addysgu a dysgu o ansawdd uchel. Mae Iechyd a Lles pawb yn ffocws ac yn flaenoriaeth uchel ar draws popeth a wnawn yn Ysgol Yr Hendre.

'Un o gryfderau’r ysgol yw’r gefnogaeth sensitif i’r disgyblion mwyaf bregus. Mae’r staff yn cefnogi disgyblion ag anghenion emosiynol, iechyd a chymdeithasol yn effeithiol iawn.​'

- Estyn

Cynnydd ac Asesu

Ein rôl ni yn y pontio ar hyd y continwwm 3 i 16:

Mae ein dysgwyr wrth galon y broses bontio. Rydym yn cefnogi pob dysgwr ar hyd y continwwm dysgu, wrth iddynt symud rhwng gwahanol grwpiau, gwahanol ddosbarthiadau, gwahanol flynyddoedd a gwahanol leoliadau. Rydym yn sicrhau bod lles pob dysgwr yn rhan bwysig ac annatod o’n prosesau, gan gydnabod anghenion unigolion, ar yr un pryd â chefnogi dilyniant a chynnydd yn eu dysgu. Mae ein dealltwriaeth o bob dysgwr unigol, a geir drwy ein strategaethau asesu, yn hanfodol i gefnogi’r broses hon.


Rydym wedi penodi Arweinydd Dysgu ar gyfer pob ‘Cam Cynnydd’:

​​Mae Arweinwyr Dysgu yn gyfrifol am helpu i Ddylunio’r Cwricwlwm o fewn eu cyfnod cynnydd nhw, gan gynnwys sicrhau sylw priodol i’r Meysydd Dysgu a Phrofiad ynghyd a dilyniant a chynnydd priodol o fewn eu cam. ​

Mae’r Arweinwyr Dysgu yn gweithio gyda’r Uwch Dîm Arwain i gyfrannu at y ‘darlun ehangach’, gan sicrhau dilyniant a chynnydd drwy’r ysgol gyfan.


Cam 1

Meithrin a Derbyn

Miss Lisa Thomas

Cam 2

Blwyddyn 1, 2 a 3

Miss Lowri Jones

Cam 3

Blwyddyn 4, 5 a 6

Mrs Glenda Jamieson

Mae dilyniant dysgwyr ar hyd y continwwm dysgu rhwng 3 ac 16 oed yn ganolog i’r Cwricwlwm i Gymru. Byddwn yn defnyddio nifer o strategaethau amrywiol ar gyfer asesu a fydd yn galluogi pob dysgwr unigol i wneud cynnydd ar gyflymder priodol, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi a’u herio i wneud y cynnydd disgwyliedig.

Diben Asesu:

  • Mae asesu yn chwarae rôl sylfaenol mewn sicrhau bod pob dysgwr unigol yn cael ei gefnogi a’i herio’n briodol ac rydym yn defnyddio’r strategaethau i gyfrannu at ddatblygu darlun cyflawn o’r dysgwr – ei gryfderau, y ffyrdd y mae’n dysgu, a’i feysydd i’w datblygu – er mwyn llywio’r camau nesaf o ran dysgu ac addysgu.

  • Mae ein hasesiadau’n cefnogi cynnydd dysgwyr unigol yn barhaus o ddydd i ddydd(AaGD); yn nodi, cofnodi a myfyrio ar gynnydd dysgwyr unigol dros amser; ac yn deall cynnydd grwpiau er mwyn adlewyrchu ar ein hymarfer.

  • Rydym hefyd yn asesu ac yn monitro lles pob dysgwr (PASS) a’i ddatblygiad gwybyddol (CAT4). Defnyddir yr asesiadau hyn i lunio ciplun manwl sy’n darparu targedau cyrhaeddiad, cynnydd a lles.


Rydym yn cyfathrebu’n effeithiol gyda rhieni/gofalwyr yn barhaus i feithrin perthnasoedd cadarnhaol ac er mwyn eu cynnwys mewn deialog pwrpasol ac ystyrlon. O wneud hyn yn dda, gall hyn helpu cynnydd dysgwyr drwy helpu rhieni/gofalwyr i ddeall sut i gefnogi'r dysgu y tu mewn a thu allan i amgylchedd yr ysgol.


Cyfathrebu ac ymgysylltu gyda rhieni:

  • Rydym wedi datblygu a gweithredu prosesau sy’n cefnogi cyfathrebu ac ymgysylltu dwy ffordd effeithiol gyda rhieni/gofalwyr. Wrth ddatblygu’r prosesau hyn, ystyriwyd defnyddio amrywiaeth eang o wahanol ddulliau cyfathrebu, e.e. wyneb i wyneb ac yn digidol drwy SeeSaw, Facebook, Instagram ac e-bost.

  • Mae gwybodaeth am unrhyw gymorth, ymyraethau neu anghenion ychwanegol sydd eu hangen ar gyfer datblygiad y dysgwr yn cael ei rhannu gyda rhieni a gofalwyr.