Beth all fy ysgol ei wneud?
1)Gwrando ar rai o restrau chwarae Dydd Miwsig Cymru ar Spotify, YouTube neu raglen Miwsig y Siarter Iaith ar BBC Sounds
2)Canu ar y cyd i draciau Carioci Seren a Sbarc
3)Dylunio poster ar gyfer Dydd Miwsig Cymru – rho her i dy ddosbarth neu'r Criw Cymreictod i ddylunio poster ar gyfer gig neu ddefnyddia ein posteri templed a gofynna iddyn nhw ysgrifennu beth fydden nhw'n hoffi ei wneud i ddathlu Dydd Miwsig Cymru 2026.
4)Creu cân Gymraeg gan ddefnyddio ein cynllun gwers.
5)Dathlu gyda disgo Dydd Miwsig Cymru i ddisgyblion, rhieni a staff yn ystod amser cinio.
6)Cymryd rhan yn y Cwis Pop rhithiol Siarter Iaith
7) Ymuna yn hwyl Disgo yn y Dosbarth ar Cymrufm rhwng 1 - 3yp.
8)Disgyblion i hyrwyddo ac annog siopau / busnesau yn y pentref / tref i chwarae cerddoriaeth Cymraeg.
9)Danfon neges o Helo, a holi cwestiwn pwy yw eich hoff artist / band Cymraeg neu hoff gân i Selebs Cymru (gan obeithio am ateb!)
10)Disgyblion i gasglu data am hoff ganeuon staff yr ysgol a chreu rhestr chwarae
11)Creu rhaglen radio i gynnwys caneuon, cyfarchion, ffeithiau am gerddorion ........a'i rhannu â gweddill yr ysgol.
12)Trefnu / Mynychu Gig Dydd Miwsig Cymru
Siwr bod gyda chi nifer o syniadau eich hun hefyd.
Ewch ati i fod mor greadigol ac y medrwch a chofiwch rannu sut fyddwch chi'n dathlu Dydd Miwsig Cymru gyda ni!
Cofia yr hashnod #DyddMiwsigCymru wrth hyrwyddo ar y cyfryngau cymdeithasol.