2022-23
2022-23
Roedd pawb o flwyddyn 3, 4, 5 a 6 wedi mynd i weld sioe Demon Dentist - dyma farn rhai o'r plant yn nosbarth 8... (Alannah)
"Roedd yr sioe yn gret! Y peth gorau am y sioe i fi oedd pan wnaeth dynes o'r enw Winnie fwyta Coffee Revels ac wedyn mi oedd hi'n chwythu!" (Alannah)
"Roedd y sioe yn ARBENNIG o dda!! Y peth gorau am y sioe i fi oedd pam oedd Raj, Gabs a dad Alfie yn ystafell wely Alfie ac roedd yna rhywbeth o dan y gwely ac fe wnaeth y peth falu'r ffenest." (Mia)
"Roeddwn i'n meddwl bod y sioe yn llawer o hwyl! Y peth gorau am y sioe oedd pan wnaeth Winnie fwyta Revels coffi a roedden nhw'n mynd reit drwyddi ac roedd hi'n chwythu gwynt. Hefyd roeddwn i'n hoffi y darn pan wnaeth Winnie ofyn i Alfie os oedd ganddo siocled. Ond roedd dad Alfie wedi marw ac roedd hyna'n drist iawn. Ym fy marn i, dwi'n rhoi **** 1/2 ser." (Ava)
"Roedd y sioe yn dda. Y peth gorau oedd pan oedd Winny wedi bwyta y Coffee Revels. Roeddwn i yn meddwl bod gweld Winnie yn rhedeg yn ddoniol iawn." (Hollie)
"Roeddwn i yn meddwl bod y sioe yn ddoniol iawn ac roedd o efo neges da iawn hefyd. Y peth gorau oedd pan wnaeth Winnie fwyta y coffee Revels a chwythu gwynt!" (Kyron)
"Roeddwn i yn meddwl bod y sioe yn dda iawn a llawer o hwyl. Y peth gorau i fi oedd pan wnaeth Miss Root losgi yn past dannedd ei hun a wedyn dod yn ol fel sgerbwd a gafael ar goes Gabrielle." (Lily)
"Roedd y sioe yn arbennig! Y peth gorau i fi oedd pan oedd Alfie yn dweud "She's not my girlfriend!" i lawer o bobl yn y sioe." (Florence).
"Roedd y sioe yn arbennig yn fy marn i. Fy hoff ddarn oedd pan wnaeth Raj ddod i mewn i'r ty drwy'r ffenest." (Khalen)
"Roeddwn i'n meddwl bod y sioe yn llawer o hwyl. Fy hoff ddarn oedd pan gafodd Alfie y tiwb past dannedd." (Tyler W)
"Yn fy marn i roedd y sioe yn anhygoel! Fy hoff beth i am y sioe oedd pan syrthiodd y demon dentist i mewn i'r asid." (Layla)
"Roedd y sioe yn dda a fy hoff ran o'r sioe oedd pan wnaeth dad achub y plant." (George)
"Roedd y sioe yn ardderchog! Roeddwn i wedi dychryn yn y rhannau ofnus." (Celt)
Dyma blant y dosbarth yn dysgu drwy wneud. Amser cylch i ddysgu am y Ddaear, y Lleuad a'r Haul. Pawb yn cael cyfle i drafod a dangos eu dealltwriaeth o gylchdro y Ddaear a'r Lleuad a'u orbit o gwmpas yr Haul.
Roeddwn i yn y grwp o blant aeth i'r athletau dan do. Roedd y rownd cyntaf yn erbyn Ysgolion David Hughes lle wnaeth ein tim ni ennill a mynd i'r ffeinal. Mi oeddwn ni yn cystadlu yn erbyn timau dros Ynys Mon. Roedd gwahanol weithgareddau fel rhedeg, taflu a neidio fel y rownd gyntaf. Roedd y plant o'n tim ni wedi gwneud yn ardderchog, ond roedd un o'r timau eraill wedi gwneud yn well na tim ni. Fe ddaethom yn ail efo gwahaniaeth o un pwynt! (Kyron)
Dyma'r Fari Lwyd yn dathlu'r Hen Galan gyda Dosbarth 8!
Llongyfarchiadau enfawr i'r hogia' am ennill twrnamaint pêl-droed 5-bob-ochr ysgolion Môn ym Mhlas Arthur.
Roeddwn i wedi chwarae i'r tim 5-bob-ochr ac roeddwn i yn nerfus yn y cychwyn ond roedd fy nhim wedi helpu efo fy hyder ac fe wnaethom ni ennill y twrnamaint. Roedd o'n teimlo dda i ennill oherwydd roedd pawb mor hapus. (Kyron)
Roedd yr hogiau wedi ennill twrnamaint pel-droed 5 pob ochr. Dwi yn meddwl bod yr ysgol yn falch ohonyn nhw. (Brooke)
Roeddwn i wedi chwarae yn y twrnamaint i dim 5 bob ochr Ysgol y Borth. Roeddwn i yn nerfus a chynhyrfus ar yr un pryd. Mi wnaethon ni ennill yn erbyn tim Y Graig a wedyn mi oedd pawb yn gynhyrfus i chwarae yn y ffeinal yn erbyn y tim wnaethon ni golli yn y gemau grwp sef Bodedern. Ond, mi wnaethon ni ENNILL y gem a da ni wedi ennill y darian ar gyfer y twrnamaint 5 bob ochr. (Charlie)
Mi wnes i, Kyron, Charlie, Ewan ac Evan chwarae mewn twrnamaint 5 bob ochr ac fe wnaethon ni ennill y darian! Roeddwn i wedi chwarae yn y gôl am bod Osian yn sâl. Roeddwn i a'r hogiau yn andros o hapus ac roeddwn i wedi chwarae yn dda iawn. Mi wnes i gael tarian bach fy hun achos fel arfer rydw i yn chwarae allan ond mi wnes i fynd i'r gôl a gwneud llawer o arbediadau da. Rydwi eisiau dweud diolch yn fawr i Mr Jones am fynd a ni i'r twrnamaint. (Ollie)
Nadolig Llawen Dosbarth 8! Ydych chi'n hoffi ein hetiau ni? (Florence)
Dyma ein sioe nadolig ni! Fe wnaethon ni gael hwyl yn gwneud y sioe oherwydd bod yr oedolion yn cael ei weld o.
Fe wnaethon ni ganu pedair cân, roedd o'n llawer o hwyl i ganu efo ffrindiau a gweld yr oedolion yn edrych arna ni. (Emily)
Dyma holl blant blwyddyn 5 a 6 ar y llwyfan ar gyfer ein rhan ni o'r cyngerdd Nadolig. A drodd a chanu gwerth chweil!
Yn ystod prysurdeb y Nadolig, dyma blant blwyddyn 6 yn adrodd neges heddwch ac ewyllys da yr Urdd. Rhywbeth i bawb feddwl amdano!
Cafwyd diwrnod ardderchog yn Ysgol David Hughes ble bu plant blwyddyn 5 a 6 yn cystadlu mewn twrnamaint pêl-droed 5-bob-ochr. Cafwyd nifer o goliau, taclo a phasio da a phawb wedi mwynhau. Llwyddodd un o'r timau ennill pob gêm gyda safon y pêl-droed yn arbennig o dda.
Dyma ni yn cefnogi Cymru yng Nghwpan y Byd. Fe fyddwn yn ei anfon i dim pel-droed Cymru i ddweud pob lwc. (Florence)
Rydym ni wedi creu gêm STEM i helpu plant mewn ysgol arall i wneud y gawith mathamateg yn fwy o hwyl. Yn gyntaf rydym ni wedi dewis rhan o fathemateg ein hun: tabl 7, tabl 8, tabl 9, enwau'r gwahanol onglau, enwau'r gwahanol siapiau 3D, enwau'r gwahanol drionglau, enwau'r gwahanol siapiau pedrochr a beth yw cymedr, modd, amrediad a chanolrif.
Fe wnaeth fy ngrwp i (yr ysbryd) siapiau 3D. Fe wnaethom ni ddefnyddio cardbwrdd, paent, bwlb, llif pren, gwifren a batri. Fe wnaethom ni fesur yr cardbwrdd i 25cm a 3cm a wedyn mi wnesi i dyllau i'r ceg a'r llygaid. Wedyn mi wnaethom ni baentio yr ysbryd. Mi wnes i roi bwlb i mewn i'r llygaid a chysylltu fo efo'r batri. Ydych chi yn hoffi bob un ohonyn nhw? (Brooke)
Rydym ni wedi bod yn gwneud gwaith celf ar ein thema ni, "Y Byd Sy'n Newid." Roeddem wedi gweithio fel grwpiau i wneud llun ac wedyn wedi rhoi y lluniau efo'i gilydd i wneud un llun mawr. (Khalen)
Daeth Alison o gwmni Maint Cymru i'r ysgol i ddysgu pawb am y goedwig law. Roedd y dosbarth wedi creu posteri am ffa soia, cig eidion, ffa coco, yr orangwtan a FSC (Forest Stewardship Council). (Alannah)
Dyma ni gyd yn gwisgo pyjamas neu bethau smotiog. Roeddem wedi dod a un punt i mewn i godi arian i Blant Mewn Angen. Roedd llawer o blant efo pethau Pudsey hefyd. (Florence)
Roedd y dosbarth wedi gwneud gwaith celf ar Gwpan y Byd. Roeddem wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddylunio het bwced. Os bydd rhywun yn ennill bydd eu dyluniad yn cael mynd ar het fwced a bydd eu ffrindiau yn cael gwisgo'r het fwced hefyd. Trwy wneud y gystadleuaeth, roedd pawb wedi cael ymarfer anfon e-bost i'r bobl sy'n trefnu y gystadleuaeth. (Kyron)
"Helo, a bore da fy enw i yw Elin Naylor ac rydw i yma yn siarad hefo chi i gyd oherwydd rydw i isho bod yn rhan o'r cyngor ysgol. Cyn i fi gychwyn siarad am y cyngor byswn i'n licio siarad am fy hun. Dwi'n berson sydd yn hoffi helpu pobl, rwy’n ffrind da ac yn ffrindiau hefo pawb. Dwi’n un dda am wrando a trio helpu os y gallaf. Os byswn i yn cael cyfle i fod ar y cyngor ysgol fe wnai drio fy ngorau i drefnu pethau hwyl a newydd yn Ysgol y Borth. Beth am fynd i plas Menai i fwynhau paddlebordio a hwylio ar y Fenai? Neu fynd i Alton Towers? Fysa hynny yn hwyl diwedd y flwyddyn!
Yda chi yn anghofio dod a frwythau i’r ysgol bob hyn a hyn? Wel, mi alla i helpu chi yn fana… Beth am siop ffrwythau fresh o waitrose? Syniad da? Gall y cyngor ysgol werthu ffrwythau i chi bob dydd.
Cyn i fi symud i fy mhwynt nesaf, dwi isho chi feddwl am y bwyd ydan ni yn fwyta yn yr ysgol. Mae on costio lot o bres tydi?
Wel, mae ganddom ni ardd llysiau ein hunain yma. Gallwn defnyddio’r cynnyrch yma fel rhan o’r cinio ysgol?
Neu cael ‘Wythnos Werdd’ sef wythnos o fwyta bwyd sydd wedi ei dyfu ar dir yr ysgol? Rhwybeth i feddwl amddo- gallen ni fel plant helpu i goginio neu paratoi y bwyd i Anti Nia.
Dim ond ychydig bach o syniadau ydi hein. Mae gen i lot mwy dwi hefyd yn barod i wrando ar eich syniadau chi. Dwi’n un dda am wrando fel neshi ddeud gyna! Felly os newch chi bleidleisio amdana fi gewch chi rannu eich syniadau ac nai wneud fy ngorau glas i ni gael gwneud pethau hwyl fel Ysgol.
Cofiwch! Mae gen i lot o syniadau da i wella Ysgol y Borth.
Elin Naylor ydw i. Diolch am wrando!
"Helo pawb fy enw i yw Khalen a dwi isio croesawu pawb i'r gwasanaeth yma. Dyma rhai o fy syniadau fi i wneud yr ysgol yma lle gwell i pawb.
Syniad 1. Mae ni gallu rhoi to bach ar y stondinau beic a scwter oherwydd pan dani gadael nhw allan yn bob tywydd mae nhw mynd yn rhydlyd. Bysa to bach yn cadw nhw yn sych ac yn glan.
Syniad 2. Mae ni gallu trwsio y pethau pren tu allan achos dydi nhw ddim yn diogel i ni gyd chwarae arnyn nhw a efallai gwnawn nhw brifo ni. Os fydd pethau pren yn cael ei trwsio fydd pawb medru mwynhau nhw eto yn ddiogel.
Dwi eisio dweud diolch i bawb am wrando ar fy syniadau. Rydw i yn edrych ymlaen i wrando am syniadau pawb arall hefyd."
Dyma wasanaeth gan ein dosbarth ni am "Ddechreuadau Newydd" a sut bod pawb yn wahanol.
Dyma ni yn cael amser cylch tu allan. Roedd y gem "A fi!" i weld beth sydd yn debyg am ein gilydd. Dyma ni yn cael hwyl efo'r gwlan i gael dod i adnabod ein gilydd yn well! (Florence)
2021-22
Rydw i yn gadael Ysgol y Borth ar ol 8 mlynedd yma. Mae’n anodd dewis dim ond un atgof ond rhai o fy hoff atgofion oedd cael chwarae yn y twrnament pel-droed, mynd i Ganolfan Conwy a chael gwneud ffrindiau newydd.
Rydw i eisiau diolch i’r holl athrawon sydd wedi fy nysgu dros y blynyddoedd yn enwedig Mr Jones, mae Mr Jones wedi fy nysgu am y ddwy flynedd olaf yn Ysgol y Borth. Rydw i yn diolch i fy ffrindiau am fod yna am yr amseroedd anodd a’r amseroedd braf. Diolch.
Heddiw ydy fy niwrnod olaf yn Ysgol Y Borth. Dwi’n mynd i Ysgol Friars ym Mangor a dwi’n mynd i fethu pawb. Un o fy hoff atgofion oedd mynd i Ganolfan Conway. Mi wnes i aros i fyny tan 3 o’r gloch a chodi am 5 o'r gloch yn y bore. Dwi wedi bod yn yr ysgol yma am 6 mlynedd a dwi eisiau dweud diolch i Arthur, Osian a Finley am fod yna i fi bob amser. Dwi eisiau dweud diolch i Miss Owen sydd wedi fy nysgu ym mlwyddyn 1,Miss Roberts blwyddyn 2, Miss Edwards blwyddyn 3, Miss Bailey Hughes blwyddyn 4 a Mr Jones yn blwyddyn 5 a 6. Diolch am wrando.
Heddiw bydd blwyddyn 6 yn gadael yr ysgol yma am byth. Rydw i’n mynd i fethu yr ysgol yma llawer iawn oherwydd rydw i wedi bod yn yr ysgol am 8 mlynedd. Hoffwn ddiolch i’r holl athrawon am fy nysgu ac yn enwedig i Mr Jones am y ddwy flynedd orau yn yr ysgol. Hoffwn ddiolch i Arthur, Riley a phawb arall am fod yna i fi bob amser. Un o fy hoff atgofion oedd pan aethon ni i Glan Llyn ac fe wnes i aros i fyny tan 1 o’r gloch yn y bore! Diolch am wrando.
Rydw i wedi bod yn yr ysgol yma am 8 mlynedd o hwyl. Fy hoff atgof oedd pan oeddwn i yn goeden nadolig yn y sioe nadolig ac roedd Chloe yn seren. Hoffwn ddiolch i fy ffrindiau i gyd am fod yma i fi bob amser. Hefyd hoffwn ddiolch i’r athrawon am fy nysgu ac fy helpu. Diolch am lawer o flynyddoedd o hwyl yn yr ysgol yma. Diolch am wrando.
Mi wnes i symud i Ysgol Y Borth yng nghanol blwyddyn tri. Roedd gen i ofn wrth symud yma am bod na lot mwy o blant yma na yn fy hen ysgol. Ond, roedd pawb yn andros o neis. Mae’r ffrindiau nes i greu ym mlwyddyn tair yn dal fy ffrindiau gorau tair mlynedd wedyn.
Un o fy hoff atgofion yn yr ysgol yma oedd y daith ysgol lle aethon ni i Pontio i wylio sioe Twm Sion Cati. Hoff atgof arall oedd pan aethon i Glanllyn ym mlwyddyn pedwar ac mi wnes i helfa drysorn. Fy hoff atgof olaf oedd pan aethon ni i Ganolfan Conway.
Diolch i fy holl ffrindiau a Mrs Edwards am fod fy athrawes ym mlwyddyn tri. Mrs Bailey Hughes ym mlwyddyn pedwar, Mr Jones ym mlwyddyn 5 a 6 a Miss McCann ym mlwyddyn 6.
Diolch am wrando, dwi’n gobeithio wnai weld pawb a siarad efo pawb yn Ysgol David Hughes. Diolch.
Helo, dwi wedi mwynhau fy amser yn Ysgol y Borth, ers i mi gychwyn yn yr ysgol feithrin ac rwan yn symud ymlaen i Ysgol David Hughes.
Rwyf wedi mwynhau fy amser yma ac wedi cymryd rhan yn y sioeau Nadolig, chwaraeon yr Urdd a chanu ym mharti cerdd dant Miss Williams.
Diolch yn fawr i bawb, o staff y gegin am y bwyd blasus a’r athrawon sydd wedi fy nysgu dros y blynyddoedd. Diolch.
Helo, dydw i ddim yma ar hyn o bryd oherwydd rydw i yn yr Aifft. Rydw i wedi bod yn yr ysgol yma am 8 mlynedd. Mi wnes i wneud llawer o fffrindiau. Rydw i hefyd efo llawer o atgofion melys. Roeddwn i’n seren yn y sioe nadolig ac roeddwn i angen rhoi seren ar ben Neve oherwydd hi oedd y goeden nadolig. Rydw wedi dewis yr atgof yma oherwydd bod Neve yn un o fy ffrindiau gorau.
Mi fyswn yn hoffi diolch i Mr Jones am fy nysgu ym mlwyddyn 5 a 6 a pob athro ac athrawes arall sydd wedi fy nysgu. Mi fyswn yn hoffi diolch i Miss Edwards am fy nysgu i chwarae pel rwyd ac i fy ffrindiau sydd wedi bod yna i fi bob dydd. Diolch hefyd i fy mam am fy helpu hefo fy ngwaith cartref.
Hebddoch chi gyd fyswn i ddim y ferch rydych chi’n weld yma heddiw. Dwi’n dymuno pob lwc i blwyddyn 5 hefyd. Rydw i’n mynd i fethu’r ysgol yma. Diolch
Rydw i wedi bod yn yr ysgol yma am 8 mlynedd ac heddiw yw fy niwrnod olaf yma. Dwi isio dweud diolch i bob un o’r athrawon gan gynnwys yr rhai sydd wedi fy nysgu fel Mr Jones a Miss McCann, Mrs Bailey Hughes, Mrs Edwards a Mrs Roberts. Rhai o fy hoff atgofion oedd mynd ar dripiau ysgol fel Glan Llyn a chael mynd i’r twrnament pel droed hefo Zack, Enzo, Jaydan, Ollie Wood, Ollie John, Charlie ac Evan. Dwi’n cofio ar y ffordd yn ol o’r twrnament mi nes i fynd i gysgu yng nghefn y car ac roedd Zack, Ollie a Charlie yn gwneud hwyl ar fy mhen i. Un o fy hoff themau oedd gwneud gwaith am y Celtiaid ym mlwyddyn chwech a chael mynd ar dripiau ysgol i lefydd i ddysgu amdanyn nhw. Dwi hefyd isio dweud hwyl fawr a diolch enfawr i Riley achos mae o yn mynd i Friars. Dwi isio dweud diolch am fod yna pan oeddwn i’n drist ac ar ben fy hun ar yr iard ond hefyd tu allan i’r ysgol yn y parc. Ta Riley, da ni gyd yn mynd i fethu chdi. Diolch am wrando.
Rydw i’n mynd i fethu Ysgol y Borth ac yr holl bethau nes i neud.
Dwi mond wedi bod yn Ysgol y Borth am ddwy flynedd ond roedd rhain y dwy flynedd gorau.
Fy hoff atgofion oedd pan oedden ni’n ffilmio y sioe Nadolig a chael mynd i Ganolfan Conway wrth gwrs. Diolch i fy ffrindiau am fod mor arbennig i fi, dwi mor ddiolchgar i Neve, Milly, Mari, Chloe a Casi am fod mor neis efo fi pan wnes i ddechrau yn Ysgol y Borth.
Diolch i Mr Jones and fy nysgu ym ,lwyddyn 5 a blwyddyn 6 a diolch i Miss Cara a Miss McCann am fod yna i fi pan oeddwn i yn drist.
Pob lwc i blwyddyn 5 blwyddyn nesaf a phob lwc i’r athrawon hefyd. Diolch am wrando!
Fe aeth pawb o flwyddyn 5 a 6 i draeth Benllech am y dydd. Roedd y môr wedi dod i fyny at gazebos yr ysgol! Roedd y daith yn lawer o hwyl ac roedd yr hogiau yn canu ar y bws ar y ffordd yn ôl. Roedden ni wedi cael cymaint o hwyl ar y traeth! (Kyron)
Mi wnes i fwynhau mynd i Ganolfan Conwy efo fy ffrindiau a gwneud yr holl weithgareddau yna. Mi wnes i fwynhau'r cysgu drosodd oherwydd fe wnaeth ein ystafell ni aros fyny bron iawn drwy'r nos i gyd! (Kyron)
Rydwi eisiau dweud diolch i'r holl athrawon am drefnu'r trip yma. Mi wnes i fwynhau mynd ar y trip yma. Hwn oedd fy nhrip cyntaf dros nos efo'r ysgol am bod y ddau arall wedi cael eu canslo. Ond roedd hwn yn gymaint o hwyl. Mi wnes i fwynhau y canwio fwyaf. (Ollie)
Mi wnesi fwynhau mynd i Ganolfan Conway gyda fy holl ffrindiau. Mi wnes i fwynhau'r canwio fwyaf am fy mod i wedi cael neidio mewn i'r môr! Cefais hwyl yn yr ystafell hefyd oherwydd mi wnes i aros i fyny tan 2:00 yn y bore! (Elin)
Yng Nghanolfan Conway roedd na lawer o weithgareddau hwyl. Roedd na un weithgaredd pan oeddwn i ddim yn gallu gweld ac roedd o'n anodd i fynd drwy y rhwystrau ond fe wnaeth Ethan helpu lot! (Ryan)
Rydw i wedi mynd i Ganolfan Conway. Mi es i drwy rwystrau efo gogls ond doeddwn i ddim yn gallu gweld! (Charlie)
Mi wnes i fwynhau bwydo'r tatws. Mi wnes i bwyso'r bag efo'r tatws ynddo ac roedd o'n pwyso 879g ac roedd y tatws mwyaf yn pwyso 94g. (Casi)
Roedd o'n hwyl gweld y tatws yn tyfu! (Ryan)
Cefais i hwyl yn codi'r tatws ac eu plannu nhw. Mi wnaeth o gymryd tua 13 wythnos i'r tatws dyfu. (Alannah)
Rydw i wedi mwynhau plannu, gofalu a bwydo'r tatws. Roedd fy mag o datws yn pwyso 322g ac roedd fy nhatws mwyaf yn pwyso 43g. (Ava)
Rydw i wedi mwynhau gwneud y mabolgampau. Cefais ar y podiwm ar gyfer pob ras, 2 cyntaf ac un ail. Cyntaf yn y ras byr a chyntaf yn y ras rwystrau ac ail yn y ras hir. (Ollie)
Mi wnesi i fwynhau y mabolgampau ddoe. Cefais ddau ail ac un 3ydd. Cefais 2il yn y ras rwystrau, 2il yn y rhedeg efo'r holl genod o flwyddyn 5 a 3ydd yn y ras hir! (Elin)
Cefais drydydd yn y ras rwystrau ac roeddwn i yn hapus wrth wneud y mabolgampau er fy mod wedi blino'n lan. Fy hoff rhan or rhwystrau oedd yr wy ar lwy. (Kyron)
Cefais gyntaf yn y ras rwystrau. Fy hoff ddarn o'r ras rhwystrau oedd yr wy ar lwy ond fe wnaeth yr wy syrthio oddi ar fy llwy! (Ryan)
Rydw i wedi mwynhau gwneud y mabolgampau a fy hoff ras oedd yr un o gwmpas y cae. Roeddwn yn teimlo'n gynhyrfus i redeg efo fy ffrindiau ac roeddwn i wedi blino ar ol y ras. Roedd i wedi cael ail a dau drydydd. (Charlie)
Rydw i wedi mwynhau gwneud y mabolgampau ac y ras o gwmpas y cae am nad oeddwn i allan o wynt. Cefais ail yn y ras rwystrau. (Brooke)
Mi wnes i ddod yn ail yn y ras hir. Roedd y mablogampau yn llawer o hwyl ac roeddwn i'n hoffi'r ras rwystrau. Cefais i mewn i'r rownd derfynol yn y ras redeg ond mi wnes i ddod yn 4ydd yn hwnna. (Neve)
Mi wnes i fwynhau gwneud y mabolgampau. Yn y ras rhedeg cefais 1af , yn y ras rwystrau cefais 3ydd ac yn y ras hir cefais 1af ! (Casi)
Cefais llawer o hwyl yn gwneud y mabolgampau. Cefais ail yn ras rwystrau, rhedeg a rhedeg hir. (Osian)
Am y tri diwrnod diwethaf rydym wedi bod yn dysgu can rap Buddug i ddawnsio ac i ganu. Mi wnes i fwynhau creu yr cleddyfau a tarianau ar gyfer gwneud y ddawns. Roedd y dawnsio yn hwyl ac mi wnes i fwynhau gwenud yr agoriad efo Kyron ac Evan.
(Ollie)
Fe wnaethom ni dysgu rap Buddug a chael ein recordio. Mi wnes i fwynhau'r canu y rhan agoriadol efo Evan ac Ollie.
(Kyron)
Aeth y dosbarth i gyd i weld sioe Twm Sion Cati yng Nghanolfan Pontio ym Mangor. Roedd pawb yn edrych fel eu bod wedi mwynhau'r sioe ac roedd yna lwyth o sgwrsio cyffrous ar y bws yn dod yn ol i'r ysgol!
Alannah
Roedd y sioe am leidr pen-ffordd o'r enw Twm Sion Cati. Roedd Twm Sion Cati yn dwyn gan y bobl gyfoethog a rhoi i'r tlawd.
Ryan
Aeth pawb o flwyddyn 6 i'r clwb golf yn Henllys. Roedd o'n llawer iawn o hwyl. Y peth wnes i hoffi orau oedd hitio'r bel mor bell oeddwn i'n gallu!
Riley
Fe wnethon ni greu potiau coil Celtaidd gan defnyddio clai. Pan sychodd y clai roedd y dosbarth angen peintio nhw. Doedd y gwaith ddim yn hawdd ond rydw i yn hoffi sut mae nhw'n edrych ar ol gorffen. Yn anffodus, roedd un fi wedi torri ar y gwaelod.
Brooke
Rydym wedi gwneud potiau clai Celtaidd yn y dosbarth. Ar ôl i'r potiau sychu fe aethon ni allan ar fyrddau i baentio y potiau efo lliwiau Celtaidd fel brown, aur, ac ychydig o ddu a gwyn.
Alannah
"Fe aeth rhai o blant blwyddyn 5 a 6 i chwarae criced i lawr yn Borth. Fe wnaeth un tim o Borth gyrraedd y "semi finals" ac mi gafon ni lawer o hwyl. Y peth gorau gen i oedd bowlio oherwydd doeddwn i ddim yn dda yn batio!" - Elin
"Aeth rhai o 5a6 i lawr i chwarae criced mewn twrnamaint ac roedd ein grwp ni (Ysgol Y Borth 1) wedi cyrraedd y rownd cyn-derfynol ac roedd y grwp arall (Ysgol Y Borth 2) wedi mynd i'r rownd terfynol." - Kyron
"Mi aeth pawb i chwarae criced ddoe yn y clwb criced yn Borth. Mi oedd yna 2 dim Borth ac roedd tim 1 wedi dod yn 3ydd ac fe ddaeth tim 2 yn 2ail. Roedd o'n llawer o hwyl. Hoff beth Neve oedd batio a hoff beth MIlly oedd maesu." -Neve a Milly
"Mi es i i'r twrnamaint criced efo rhai o flwyddyn 5 a 6. Roedd o'n llawer o hwyl ac roeddwn i'n hoffi batio fwyaf." - Mia
Fe wnaethom waith darllen a deall gwahanol ffynonellau am ryfelwyr Celtaidd am sut yr oedden nhw'n edrych. Wedyn fe wnaethom dynnu llun o ryfelwyr Celtaidd a'u lliwio i mewn.
(Kyron a Chloe)
Mae'r dosbarth i gyd wedi bod yn gwneud arbrawf gwyddoniaeth i gweld pa ymarfer sydd yn codi curiad y galon gyflymaf. Rydym ni wedi bod yn mesur ein pwls ac mae rhai pobl wedi bod yn defnyddio monitorau curiad y galon. (Alannah)
Heddiw, fe aeth rhai o blant o'r adran iau i gymryd rhan mewn ras traws gwlad, yng Nghlwb Rygbi Borth. Roedd pawb wedi cael hwyl dda. (Zack)
"Roedd rhedeg am hir yn anodd ond yn hwyl dda hefyd."-Riley
"Roedd yn hwyl cael cefnogi pawb ar yr ochr oherwydd roedd pawb yn gweiddi "Ysgol y Borth"." - Zack
"Mi wnes i fwynhau osgoi'r tyllau yn y gwair yn y clwb rygbi ac er bod o ddim yn hwyl yn y dechrau, pan oeddwn i bron iawn a gorffen, mi oedd yn deimlad braf."- Charlie
"Mi oeddwn i'n nerfus iawn cyn cychwyn ond pan wnaethon ni ddechrau rhedeg mi oeddwn i'n hyderus."- Ollie
"Mi wnes i fwynhau gwneud y traws gwlad ac er fy mod i'n chwysu lot, mi oeddwn i'n hapus iawn pan wnes i basio'r linell derfyn." -Mia
Yn dilyn ymweliad y plant â Melin Llynon ac Oriel Môn, fe aeth pawb ati i alw i gof rhai o'u hatgofion o'r diwrnod.
Dyma blant ein dosbarth ni yn plannu hadau yn y dosbarth ac wedyn yn gweithio'n brysur i baratoi'r gwelyau yng ngardd yr ysgol, fel bod plant y cyfnod sylfaen yn cael plannu tatws.
Roedd y dosbarth wedi defnyddio synwyryddion newydd ac roedd yn bosib plygio thermomedrau i mewn iddynt. Roedd pawb yn y dosbarth wedi gwneud arbrawf i weld pa rew oedd yn oeri gyflymaf, rhew mawr neu rew bach bach. Mi wnes i fwynhau defnyddio y synwyryddion am eu bod nhw'n edrych fel nintendo DS ac mae nhw'n hawdd i'w defnyddio pan ydych chi'n gwybod sut. (Kyron)
Fe aeth pawb yn ôl mewn hanes i Montgomery, Alabama ar Ragfyr 1af, 1955 i ddysgu am arwahanu drwy chwarae rôl i ddysgu am hanes pwysig Rosa Parks. Fe benderfynodd y dosbarth ar eu meini prawf llwyddiant ar gyfer y dasg ac yna fe aeth pawb ati i berfformio.
Ar ôl yr hoth waith prysur o gynllunio, dylunio, cyfrifo a chreu - dyma grysau T "tie dye" ein dosbarth ni!
Roedd pawb wedi mynd tu allan i ddysgu am ronynnau. Roedden ni wedi dysgu pa fath o siap oedd y gronynnau yn eu gwneud mewn solid, hylif a nwy.
Roedd y gronynnau mewn solid mewn patrwm syth ac yn sownd at ei gilydd.
Roedd y gronynnau mewn hylif yn gorgyffwrdd ac yn symud dipyn bach.
Doedd y gronynnau mewn nwy ddim yn cyffwrdd ei gilydd ac roedden nhw'n symud yn gyflym.
(Kyron a Riley)
Dyma'r plant wrthi'n brysur yn torri a gludo eu cennin pedr allan o bapur wrth ystyried y cwestiwn mawr, "Beth yw'r peth gorau am fyw yng Nghymru?"
Dyma pawb yn y dosbarth yn cymeryd tro i fesur y cynhwysion yn oflaus cyn coginio a bwyta'r crempogau blasus!
Roedd pawb yn gorfod defnyddio eu dychymyg heddiw i greu crempogau ych-a-pych (yn seiliedig ar lyfr Roald Dahl "Bwydydd Ych-Y-Pych"). Meini prawf llwyddiant y plant oedd creu crempogau mor afiach â phosib gan ddefnyddio pethau gwyrdd, gwyn neu goch yn unig.
Dyma pawb wrthi'n brysur yn gwlychu, clymu a lliwio eu crysau-t. Bydd rhaid disgwyl 24 awr i weld y patrwm gorffenedig.
Dyma waith cartref ardderchog gan Osian, Casi a Neve. Beth am glicio ar eu cyflwyniadau?
Mae ein grwp ni wedi bod yn chwarae rol o bobl yn protestio, i drio cael Cyngor Lerpwl i beidio boddi Cwm Tryweryn. Roeddwn i yn chwarae'r newyddiadurwr, roedd Ryan yn chwarae rhan y ffermwr, roedd Chloe yn chwarae y plentyn ysgol, roedd Neve yn chwarae yr athrawes a roedd Casi yn chwarae plentyn. Roeddem ni angen dod i fyny efo cwestiynau i'r newyddiadurwr ofyn iddyn nhw. (Zack)
Rydym ni wedi bod yn protestio i drio cael Cyngor Lerpwl i beidio boddi Capel Celyn. (Milly)
Rydym ni wedi bod yn protestio i drio cael Cyngor Lerpwl i beidio boddi Capel Celyn, a smalio ein bod ar newyddion teledu. Mi oedd Ava yn chwarae rol gwaith yn y llythyrdy, Mia yn athrawes, Sweetpea yn ffermwr, Brooke yn gweithio yn y capel/mynwent a fi oedd y newyddiadurwr. (Alannah)
Rydym ni wedi bod yn brysur yn smalio protestio i drio cael Cyngor Lerpwl i beidio boddi Capel Celyn. Osian oedd y newyddiadurwr, Tyler oedd y ffermwr, Charlie oedd y plentyn yn yr ysgol, Finley oedd y gweinidog, Riley oedd yr athro ac roeddwn i yn gweithio yn y llythyrdy. Roedd o yn lot o hwyl. (Kyron)
Cliciwch ar y saethau i weld y plant yn chwarae rol wrth iddynt brotestio yn erbyn boddi Capel Celyn.
Mae pawb yn y dosbarth wedi bod yn dysgu am barch a pherthnasoedd ar-lein gyda trafodaethau diddorol am gemau ar-lein, sgwrsio, ffrydio a fideo ar ddiwrnod defnyddio'r rhyngrwyd yn fwy diogel. (08/02/22)
Dyma'r plant yn gwerthfawrogi gwaith celf ei gilydd. Y dasg oedd creu darn o waith celf ble mae pob dim yn y darn yn cynrychioli beth ddigwyddodd yng Nghapel Celyn.
Mae'n edrych fel bod protest ar y gweill!
Rydw i wedi bod yn dangos i'r hogiau sut i uwchlwytho'r lluniau oedden nhw wedi tynnu o'u hunain ar y chromebooks. (Kyron)
Mae'r dosbarth wedi bod yn creu gwefan (y wefan yma) gan defnyddio google sites, camera a'r cwmwl (Google Drive). (Alannah)