Dyma blant ein dosbarth ni yn plannu hadau yn y dosbarth ac wedyn yn gweithio'n brysur i baratoi'r gwelyau yng ngardd yr ysgol, fel bod plant y cyfnod sylfaen yn cael plannu tatws.
Aeth Kyron, Ryan ac Ollie i siop Evans Bros yn Borth a chael hadau am ddim fel rhodd i'r ysgol. (Alannah a Riley)
Mae'r plant yma wedi dod o hyd i lawer o ffeithiau diddorol am wastraff bwyd a'u hysgrifennu ar fap meddwl. (Alannah a Riley)
Tomatos organig
Mae'r plant yma wedi gwneud gwaith mathemateg ar drin data ar ol dod o hyd i brisiau tomatos organig o Tesco, Asda, Morrisons, Ocado a Waitrose. (Alannah a Riley)
Mae'r grwp yma yn ymchwilio i mewn i egino a sut mae planhigion yn tyfu o hadau. (Alannah a Riley)
Mae'r plant yma wedi helpu gweddill y dosbarth i adnabod eu hadau drwy fesur nhw'n fanwl ac yna tynnu llun i raddfa. (Alannah a Riley)