Gwybodaeth: Beth am greu cronfa ddata gan ddefnyddio J2data gan ddefnyddio'r data o rhai o'r llyfrau sydd yn eich llyfrgell ddosbarth neu defnyddio'r data o'r cardiau brwydro.
Oed targed: Cam cynnydd 2 a 3
Adnoddau: Cardiau brwydro Cymraeg
Gwybodaeth: Beth am greu poster 'Adnabod awdur' gan ddefnyddio Creative Cloud Express ( yr enw newydd am Adobe Spark).
Oed targed: Cam cynnydd 2 a 3
Adnoddau: Enghraifft Gareth James
Gwybodaeth: Beth am fynd ati i addasu y syniad yn y fideo i greu cwis gan ddefnyddio Scratch am awdur penodol neu am lyfrau yn gyffredinol.
Oed targed: Cam cynnydd 3 a 4
Gwybodaeth: Beth am fynd ati i greu clawr newydd i lyfr neu i greu adolygiad llyfr ar ffurf fideo gan ddefnyddio Creative Cloud Express (Fideo Saesneg yn unig)
Oed targed: Cam cynnydd 2 a 3
Gwybodaeth: Beth am fynd ati i osod gweithgaredd Flipgrid i ddisgyblion fel gallant greu recordiad llafar am eu hoff lyfrau.
Oed targed: Cam cynnydd 2 a 3
Gwybodaeth: Beth am addasu y syniad yn y fideo i greu hysbyseb i lyfr neu i greu poster wedi ei animeiddio sy'n annog pobl i ddarllen gellid ei roi ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yr ysgol.
Oed targed: Cam cynnydd 2 a 3
Gwybodaeth: Beth am fynd ati i greu animeiddiad o gymeriad o lyfr gan ddefnyddio Jit5. Gallwch rannu llun o gymeriad gyda'r dosbarth os nad yw'r llun yn J2e.
Oed targed: Cam cynnydd 1, 2 a 3
Gwybodaeth: Beth am fynd ati i greu animeiddiad o rhan o stori neu beth sy'n digwydd nesaf mewn llyfr gan ddefnyddio'r ap 'I can Animate' ar yr iPad.
Oed targed: Cam cynnydd 2 a 3