Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel
7/2/2023
7/2/2023
Mae Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn, i hyrwyddo defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol gan blant a phobl ifanc ac i ysbrydoli trafodaeth yn genedlaethol.
Gweminar yn cyflwyno adnoddau Diwrnod diogleu'r Rhyngrwyd 2023
Adnoddau defnyddiol
Dyma gasgliad o fideos (yn y Gymraeg a'r Saesneg) gallwch eu defnyddio fel gwasanaeth dosbarth ar Ddiwrnod Diogelu'r rhyngrwyd yn Fwy Diogel ar gyfer dysgwyr 3 - 7 oed , 7 i 11 oed a dysgwyr Uwchradd ar y thema o ddefnyddio gemau ar-lein yn ddiogel.
Dyma gasgliad o syniadau ar gyfer gweithgareddau (cyfrwng Cymraeg a Saesneg) ar gyfer dysgwyr 3 - 7 oed , 7 i 11 oed ac 11 - 14 oed ar y thema o ddefnyddio gemau -ar lein yn ddiogel.
Dyma gasgliad o adnoddau amrywiol gallwch eu defnyddio i ddysgu am sut i gadw yn ddiogel ar-lein.
Adnoddau i rieni a gwarchodwyr
Sesiynau Dysgu Byw
Yn y sesiwn byddwn ni'n creu clawr cylchgrawn a fideo.
Yn y sesiwn byddwn ni'n creu neges diogelwch ar-lein sydd wedi ei animeiddio a creu ffeithlun am chwarae gemau ar-lein.
Adnoddau - Templed ffeithlun
Yn y fideo bydd Mr Luke Clements o Technocamps yn esbonio sut i greu cwis 'Diwrnod Diogelu'r Rhyngrwyd' gan ddefnyddio Scratch (addas ar gyfer dysgwyr uwchradd).
Wythnos Iechyd Meddwl Plant 6/2/23 - 10 /2/23
Dyma gasgliad o adnoddau a syniadau o weithgareddau dyddiol gallwch eu defnyddio gyda eich dysgwyr fel rhan o Wythnos Iechyd Meddwl Plant.