Annwyl Ddisgybl,
Pleser yw cyflwyno ein Prosbectws Dewisiadau Blwyddyn 10, "Y CAM NESAF" i’ch sylw. Rydych bellach wedi cyrraedd cyfnod pwysig iawn yn eich gyrfa ysgol a rhaid dewis pynciau sy’n addas i’ch diddordeb a’ch anghenion i’r dyfodol. Bwriad y llyfr hwn yw eich helpu
(i) i ddewis yn ddoeth
(ii) i ddewis cyfuniad cytbwys o bynciau
(iii) i sicrhau fod y cwbl yn addas ar gyfer eich anghenion personol chi
Mae’r cwricwlwm yn mlwyddyn deg wedi ei rannu yn ddwy ran – sef y craidd dysgu gorfodol a phynciau dewisol.
Eleni mae tri grŵp dewis ac mae'n bwysig dros ben eich bod yn gwneud dewisiadau doeth. Er mwyn gwneud dewisiadau doeth rhaid:
(a) Gofyn am gyngor oddi wrth y penaethiaid cyfadran, athrawon pwnc, athrawon dosbarth, Pennaeth Blwyddyn, y Dirprwy Bennaeth a'r Pennaeth.
(b) Sicrhau eich bod yn gwybod beth yw cynnwys y gwahanol bynciau gan gynnwys y dull asesu.
(c) Gofyn am gyngor oddi wrth y swyddog gyrfaoedd rhag ofn bod angen astudio rhyw bwnc arbennig ar gyfer gyrfa benodol neu gwrs penodol mewn Colegau Addysg Bellach/Uwch.
Beth bynnag eich dewis o bynciau, ni chewch lwyddiant heb waith caled. Fe fydd rhaid i chi weithio yn gyson drwy gydol y cwrs a pheidio â gadael gwaith adolygu tan y funud olaf. Mae’n fyd cystadleuol o safbwynt sicrhau swyddi a llefydd mewn Prifysgolion a Cholegau Addysg Bellach ac felly mae graddau da yn hanfodol bwysig er mwyn cael eich derbyn.
Gofynnaf i chi wneud eich gorau ym mhob pwnc drwy weithio hyd eithaf eich gallu. Gyda gwaith caled, fe ddaw llwyddiant!
Yn gywir,
Gareth Evans
Pennaeth
Er mwyn dewis yn ddoeth dylech yn amlwg geisio cyngor wrth eich rheini a darpar gyflogwyr, ond o fewn yr ysgol cofiwch ofyn am gyngor wrth y bobl ganlynol:
Pennaeth
Mr Gareth Evans
Dirprwy Bennaeth
Mrs Eirlys Thomas
Pennaeth Blwyddyn 9
Mr Michael Davies
Penaethiaid Cyfadran / Arweinwyr Pwnc / Athrawon
Yn ôl y gofyn
Swyddog Gyrfaoedd
Mr Wyn Davies
Enw'r cwrs a ddilynir gan eich plentyn yn yr ysgol yw'r Cwricwlwm. O fis Medi 2025 mae Cwricwlwm i Gymru yn weithredol a bydd disgyblion blynyddoedd 10 yn dilyn cwricwlwm a fydd yn rhoi proffil eang a chytbwys iddynt. Bydd y cwricwlwm yn cael ei gynllunio gan gyfeirio at 4 elfen yr hawl i ddysgu 14 i 16.
Dylid neilltuo amser digonol i bob rhan o'r cwricwlwm er mwyn sicrhau cydbwysedd. Bydd y deunydd yn berthnasol ym mhob rhan o'r cwricwlwm. Dylai gael ei ddysgu yn y fath fodd fel y bydd yn cysylltu â phrofiadau'r disgyblion ac yn hybu eu datblygiad yn ogystal â'u paratoi ar gyfer bywyd oedolion.
Bydd y cwricwlwm yn wahaniaethol ac yn darparu ar gyfer anghenion arbennig disgyblion mewn ffyrdd sy'n peri bod y cwricwlwm ar gael i bob disgybl. Mae'n bwysig hefyd bod dilyniant yn y rhaglenni astudio a gyflwynir i'r disgyblion. Mae'r Cwricwlwm yn cwmpasu nifer o bynciau ynghyd â materion trawsgwricwlaidd.
Rhennir y cwricwlwm yn
* Bydd y mwyafrif helaeth o ddisgyblion yn astudio'r cymwysterau dwyradd.
Rhaid i ysgolion sicrhau rhywfaint o ddysgu ym mhob Maes ac ym mhob un o elfennau mandadol y cwricwlwm gan gynnwys addysg cydberthynas a rhywioldeb a chrefydd gwerthoedd a moeseg.
Bydd pob disgybl yng Nghyfnod Allweddol 4 yn derbyn 3 neu 4 gwers Chwaraeon y pythefnos er mwyn hyrwyddo ffitrwydd corfforol a iechyd a lles meddyliol. Bydd angen cofio dod i mewn a chit swyddogol yr ysgol er mwyn cymryd rhan. Bydd gweithgareddau chwaraeon allgyrsiol hefyd ar gael o fewn amryw feysydd.
Ffocws canolog Bagloriaeth Cymru yng Nghyfnod Allweddol 4 yw darparu cyfrwng i rai 14-16 oed atgyfnerthu a meithrin sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd. Bydd y cymhwyster yn helpu disgyblion i baratoi ar gyfer y dyfodol drwy feithrin sgiliau, priodoleddau a mathau o ymddygiad a gaiff eu gwerthfawrogi gan addysgwyr ôl-16 a darpar gyflogwyr. Mae pwyslais Bagloriaeth Cymru ar ddysgu cymhwysol h.y. caffael a defnyddio amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy. Bydd yr ysgol yn cynnig profiad dysgu sy'n berthnasol i anghenion a gofynion y gweithle yn meithrin hyder, cymhelliant a blaengaredd dysgwyr, gan eu paratoi i ymuno â'r byd gwaith, i lwyddo yn y byd hwnnw ac i ddatblygu ynddo.
Mae Bagloriaeth Cymru yn seiliedig ar Dystysgrif Her Sgiliau ynghyd â Chymwysterau Ategol. Rhaid bodloni gofynion y Dystysgrif Her Sgiliau a'r Cymwysterau Ategol er mwyn cyflawni Bagloriaeth Cymru yn ei chyfanrwydd.
Mae'r Dystysgrif Her Sgiliau yn cynnwys pedair cydran a gaiff eu dilyn gan bob dysgwr:
Bydd canlyniadau cyfunol y pedair cydran yn penderfynu p'un a gaiff y Dystysgrif Her Sgiliau ei dyfarnu ar lefel Genedlaethol neu Sylfaen. Bydd ffocws y Dystysgrif Her Sgiliau ar y sgiliau hanfodol a’r sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen ar bobl ifanc yn eu bywydau yn y dyfodol a chaiff y sgiliau hyn eu meithrin a’u hasesu drwy Broject Unigol a thair Her. Cynlluniwyd y Dystysgrif Her Sgiliau i gynnwys dysgu ac asesu a fydd yn ennyn brwdfrydedd dysgwyr, yn ymgysylltu â hwy ac yn eu cymell yn yr ystafell ddosbarth, y gweithle a’r gymuned ehangach. Bydd gofyn i’r disgyblion ystyried sut y gallant wrth ddefnyddio’r dysg effeithio ar unigolion, cyflogwyr, y gymdeithas a’r amgylchedd. Lluniwyd y cymhwyster yn seiliedig ar y cysyniad o ddull dysgu trwy ‘gynllunio, gwneud ac adolygu’ lle caiff y dysgwyr eu cyflwyno i gyd-destun ar gyfer dysgu lle byddant yn cynllunio gweithgareddau, yn ymgymryd â gweithgareddau, yn adolygu deilliannau a’r hyn a ddysgir.
Mae’r Cymwysterau Ategol yn cynnwys dau gymhwyster TGAU gorfodol mewn Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith ynghyd â Mathemateg – Rhifedd. Mae angen tri chymhwyster TGAU arall hefyd, y gall dau ohonynt fod yn gymwysterau cyfwerth. Er mwyn bodloni gofynion Bagloriaeth Genedlaethol Cymru, rhaid ennill gradd A*-C ym mhob un o'r pum Cymhwyster Ategol. Yn yr un modd, er mwyn bodloni Bagloriaeth Sylfaen Cymru, rhaid ennill gradd A*-G yn y Cymwysterau Ategol.
Bydd angen i chi ddewis un pwnc o bob bloc opsiwn. Ar adegau, mae angen newid lleoliad rhai pynciau ond gwneir hynny dim ond mewn amgylchiadau prin.
Gweler isod y blociau dewis sydd ar gynnig ar gyfer Medi 2026.
NODER: Mae'n bosib na fydd pob un o'r pynciau isod yn rhedeg ym mis Medi 2026. Byddwn yn asesu y nifer o ddisgyblion sydd yn dymuno dilyn y cwrs cyn penderfynu ar yr arlwy terfynol.
I'r mwyafrif helaeth o ddisgyblion, bydd angen dewis un pwnc allan o bob bloc. Fodd bynnag, deallwn, i rai disgyblion, bydd hyn yn heriol oherwydd eu hamgylchiadau neu anhawsterau eraill. Ar gyfer y disgyblion hynny, mae modd dewis llwybr ychydig yn wahanol o fewn rhai blociau sydd yn cynnwys cymwysterau Rhaglen Llwyddo, Sgiliau Bywyd neu dilyn cwricwlwm amgen o dan arweiniad staff yr awdurdod addysg. Bydd aelod o staff yn trafod addasrwydd y cyrsiau yma ar eich cyfer ac yn eich cynghori yn ôl yr angen.
- Dallenwch gynnwys y prosbectws ac ymchwiliwch i mewn i bob cwrs sydd yn cael ei gynnig fel y gallwch wneud penderfyniad deallus.
- Trafodwch eich teimladau gyda'ch rhieni ac aelodau eich teulu.
- Siaradwch gyda'r athrawon a staff eraill er mwyn cael y cyngor gorau am eich addasrwydd ar gyfer y cyrsiau.
Cofiwch mai gwaith ymchwil yw'r allwedd i lwyddo - defnyddiwch yr amser yn effeithiol er mwyn darganfod pa bynciau sydd orau i chi.