Annwyl Fyfyriwr,
Pleser yw cael cyflwyno’r wefan yma i chi. Pwrpas y wefan yw rhoi arweiniad i’r rhai ohonoch sydd yn bwriadu parhau â’ch addysg llawn amser trwy amlinellu y llwybrau posib y gallwch eu cymryd yn dilyn Blwyddyn 11. Mae addysg yn llawn dewisiadau a phenderfyniadau. Bu'n rhaid i chi benderfynu yn 11 oed ym mha ysgol uwchradd yr oeddech am barhau gyda'ch addysg; yna ar ddiwedd blwyddyn 9 pa bynciau yr oeddech am eu hastudio ar gyfer TGAU, Mae nawr gennych ddewis am ble i barhau gyda’ch haddysg. Gallwch aros yn Ysgol Bro Teifi, mynychu'r Chweched Dosbarth mewn ysgol arall neu fynd i Goleg Addysg Bellach. Bydd rhaid penderfynu pa gyrsiau, pa golegau mewn addysg uwch ac yna'n derfynol, maes o law, pa swydd/yrfa y dymunwch ei ddilyn.
Cyn penderfynu beth sydd orau dylech roi ystyriaeth fanwl i'r manteision o aros yn Ysgol Bro Teifi.
· Awyrgylch sydd eisoes yn gyfarwydd i chi - rydych yn adnabod yr athrawon a'r disgyblion.
· Safonau academaidd ardderchog.
· Cyfleoedd di-ri ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol – Eisteddfod Ysgol, Chwaraeon, Cerddoriaeth, Clybiau a Chymdeithasau, Gwaith Cymunedol.
· Cymuned ddwyieithog agos a chlos gydag ethos Gymreig.
· Cwricwlwm eang sy’n cynnwys amrywiaeth o gyrsiau academaidd a galwedigaethol yn ogystal ag ail-sefyll pynciau TGAU.
· Wythnos o brofiad gwaith.
· Cyfleusterau rhagorol gan gynnwys:
o Ystafell Gyffredin fodern gyda loceri i bob aelod o’r Chweched
o Ystafell Gyfrifiaduron pwrpasol i’r Chweched
o Ystafell Waith
o Mynediad i gaffi’r ysgol o 9 tan 2 bob dydd.
o Mynediad i’r Llyfrgell ar gyfer cwblhau astudio personol neu ymchwil
· Record o lwyddiant o safbwynt ein darpariaeth Bagloriaeth Cymru
Yr hyn sy’n bwysig yw eich bod yn gwneud yn fawr o bob cyngor ac arweiniad y cewch a’ch bod yn gwneud y penderfyniad sydd yn gywir i CHI! I gloi, o’m rhan innau a'r staff, dymunaf bob llwyddiant i chi yn eich arholiadau. Rhowch o'ch gorau - ni ellir gofyn mwy wrth neb.
Yn gywir
G Evans
Pennaeth
Fel ysgol, gwnawn popeth o fewn ein gallu i ddiwallu eich anghenion addysgiadol, diwyllianol a chymdeithasol. Mae gan yr ysgol adnoddau ardderchog ac athrawon ymroddgar a phrofiadol sy'n barod i fynd y filltir ychwanegol.
Ein neuadd chwaraeon yw’r fwyaf yng Ngheredigion. Y mae dros 700m2 a gall gynnwys amrywiaeth eang o chwaraeon gan gynnwys pêl-droed, pêl-fasged, pêl-rwyd, pêl-foli, criced, tenis a llawer o rai eraill. Rydym hefyd yn cynnig ystafell ffitrwydd a chyfleusterau newid gwych.
Mae gan bob dosbarth ar draws yr ysgol y sgriniau rhyngweithiol Clevertouch diweddaraf sydd yn gwneud Ysgol Bro Teifi yn un o’r cyfleusterau addysgu mwyaf blaenllaw ac arloesol yn y wlad. Ceir mynediad llawn i WiFi yn fewnol ac yn allanol a chaniateir i ddisgyblion y Chweched i ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain yn unol â pholisi’r Ysgol. Ar hyn o bryd, rydym hefyd yn darparu gliniadur i unrhyw aelod o'r 6ed sydd angen un.
Mae ein gweithdai technoleg yn cynnwys yr offer diweddaraf gan gynnwys argraffwyr 3D, torwyr laser ac Ystafell Dylunio TGCh ar gyfer 30 o ddisgyblion.
Er mwyn dewis yn ddoeth dylech yn amlwg geisio cyngor wrth eich rheini a darpar gyflogwyr, ond o fewn yr ysgol cofiwch ofyn am gyngor wrth y bobl ganlynol:
Pennaeth
Mr Gareth Evans
Dirprwy Bennaeth
Mrs Eirlys Thomas
Pennaeth y Chweched Dosbarth
Mrs Elinor Morgan
Penaethiaid Cyfadran / Arweinwyr Pwnc / Athrawon
Yn ôl y gofyn
Swyddog Gyrfaoedd
Mr Wyn Davies
Pennaeth Blwyddyn 11
Miss Carys Williams
Cyngor ac Addysg Gyrfaol
Yn ystod eich cyfnod yn y chweched, bydd rhaglen o addysg, cyngor a chyfarwyddyd gyrfaol ar gael i bob disgybl.
Bydd y swyddog gyrfaoedd yn cynnal cyfweliadau unigol yn ogystal â chydweithio gyda staff yr ysgol i roi cyngor ynglŷn ag addysg uwch ac i drefnu Gweithdai Addysg Uwch.
Yn ychwanegol, bydd pob disgybl ym mlwyddyn 12 yn dilyn rhaglen Addysg Byd Gwaith fel rhan o Her Menter a Chyflogadwyedd Bagloriaeth Cymru. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar baratoi ceisiadau am lefydd mewn sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, blwyddyn allan, ysgoloriaethau, cyflogaeth ac ati.
Rhaid i chi ystyried yr holl bosibiliadau a phenderfynu ar beth sy'n addas ar eich cyfer chi. Byddai’n syniad i gwblhau ymchwil gyrfaol er mwyn sicrhau eich bod yn dewis y llwybr mwyaf addas er mwyn eich caniatáu i ddilyn eich gyrfa dewisol. Os nad ydych yn sicr, yna mae’n bwysig i chi gadw eich opsiynau yn agored a pheidio a dewis llwybr sydd yn rhy gul. Yn fras, eich cam nesaf ar y llwybr gyrfaol fydd:
1. Aros yn yr ysgol - Mynd ymlaen i Flwyddyn 12
2. Gadael yr ysgol - Mynd i Goleg Addysg Bellach
3. Gadael yr ysgol –Prentisiaeth/Cynllun Hyfforddi/Gwaith
Pam fod aros yn yr ysgol yn syniad da?
1. aros yn yr ysgol byddwch yn cael y cyfle i ennill mwy o gymwysterau a phrofiadau perthnasol a fydd yn ei dro yn eich galluogi i fynd ymlaen i goleg addysg uwch neu brifysgol neu i ddilyn rhyw yrfa arbennig.
2. Mi fydd astudio yn y 6ed am ddwy flynedd yn caniatáu i chi ohirio dewis gyrfa am gyfnod a chadw'r drysau ar agor ar gyfer posibiliadau eraill.
3. Rydych chi'n gyfarwydd â'r ysgol, yr athrawon a'r disgyblion. Byddwch yn gweithio gyda staff sydd yn eich adnabod yn dda ac sy'n gwybod beth yw eich anghenion.
4. Bydd y dulliau dysgu a ddefnyddir yn yr ysgol yn gyfarwydd i chi.
5. Mae disgyblion y chweched yn ymddangos fel pobl ifainc i'r plant iau ac felly mae cyfle gwych i chi ymgymryd â rhagor o gyfrifoldebau a bod yn arweinwyr.
Beth sydd rhaid i mi wneud er mwyn sicrhau lle yn y Chweched Dosbarth ym Mro Teifi?
Croesewir pob disgybl sydd wedi penderfynu'n wirfoddol i ddychwelyd i'r ysgol i barhau â'i addysg. Rhaid cofio, fodd bynnag, fod gwir ddiddordeb yn y gwaith a'r ewyllys i weithio yn angenrheidiol.
Bydd eich dewis o yrfa yn dylanwadu ar y pynciau a ddewisir gennych a doeth fyddai cysylltu â'r Swyddog Gyrfaoedd er mwyn gwybod am y cymwysterau angenrheidiol.
Os nad ydych wedi penderfynu pa yrfa yr ydych yn mynd i ddilyn, byddwch yn dewis amrywiaeth o bynciau er mwyn cadw'r drws yn agored i sawl maes gyrfaol.
Yn y diwedd, eich penderfyniad chi ac nid unrhyw un arall sydd yn bwysig.
Wrth benderfynu, cofiwch ystyried y tri ffactor yma:
1 Dewiswch y pynciau yr ydych yn eu mwynhau fwyaf.
2 Dewiswch y pynciau yr ydych orau ynddynt.
3. Dewiswch y pynciau sy'n hanfodol ar gyfer eich gyrfa / Cwrs Addysg Uwch.
Bydd hi’n bosibl i fyfyrwyr ddilyn amryw gyfuniadau ym mlwyddyn 12.
Dyma rai enghreifftiau:
Myfyriwr 1: 3 pwnc Uwch Gyfrannol + Y Bac Cymreig Lefel 3.
Myfyriwr 2: 2 bwnc Uwch Gyfrannol + 1 cwrs Galwedigaethol + Y Bac Cymreig Lefel 3.
Myfyriwr 3: 2 Bwnc Galwedigaethol + 1 Pwnc Uwch Gyfrannol + Y Bac Cymreig Lefel 3.
Pwrpas y cwrs yw i alluogi dysgwyr i ddatblygu ac i arddangos gallu a dealltwriaeth o sgiliau hanfodol cyflogadwyedd. Mae’r sgiliau yma’n angenrheidiol ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa, a sgiliau hanfodol i ddysgu, gweithio a byw. Mae’r cwrs yn paratoi pobl ifanc i gyrraedd yn uwch, ac mae’n creu mwy o hyblygrwydd yn eu hastudiaethau. Mae’r cwrs yn helpu myfyrwyr i baratoi’n well erbyn addysg pellach ac uwch, yn ogystal â byd gwaith.
Rhaid cyflawni tair her a phrosiect unigol o fewn y cwrs
Mae’r pedwar cydran uchod yn adeiladu i greu’r Tystysgrif Her Sgiliau. Fel rhan o’r profiad sgiliau, bydd y myfyrwyr yn astudio’r sgiliau canlynol:
- Llythrennedd
- Rhifedd
- Llythrennedd Ddigidol
- Datrys Problemau a Meddwl yn Feirniadol
- Creadigedd a gwreiddioldeb
- Cynllunio a Threfnu
- Effeithiolrwydd Personol
Gwelwch hefyd fod yn rhaid llwyddo mewn Cymraeg /Saesneg, a Mathemateg Rhifedd, a rhai pynciau TGAU eraill, cyn llwyddo yn y Fagloriaeth ar y Lefel Uwch.
Mynd i Brifysgol neu Goleg
Ar gyfartaledd mae 90% o ddisgyblion Bro Teifi yn penderfynu mynd i Brifysgol neu goleg ar ôl gadael ysgol. Wrth feddwl am eich dewis o gyrsiau yn mhrifysgol neu goleg, mae’n bwysig ystyried pa bynciau sydd angen i chi astudio yn y Chweched Dosbarth.
Yn y wybodaeth ispod ceir y cyrsiau mwyaf poblogaidd yn y brifysgol gyda rhai syniadau o’r pynciau Lefel A/Galwedigaethol sydd angen er mwyn sicrhau cais UCAS llwyddiannus ym Mlwyddyn 13. Ewch i www.UCAS.com am fwy o wybodaeth
Cwrs Prifysgol a beth fydd rhan fwyaf o brifysgolion yn edrych am:
Gellir gwneud gradd mewn Addysg a bydd nifer o bynciau yn addas ar gyfer astudio’r pwnc. Mae’n bosib hefyd i astudio gradd mewn pwnc a gwneud cwrs ôl-raddedig mewn addysg. Yng Nghymru, bydda angen gradd B TGAU mewn Saesneg/Cymraeg a Mathemateg yn ogystal.
Does dim pynciau penodol ond bydd Bioleg a Daearyddiaeth yn rhoi sylfaen cryf i’ch astudiaethau.
Mae astudio Busnes yn ddefnyddiol. Mae cyrsiau busnes yn amrywio'n fawr yn ôl y brifysgol yr hoffech ei mynychu ac efallai bydd rhai yn gofyn am Fathemateg.
Cerdd - fel arfer bydd angen gwneud clyweliad.
Drama, Cerdd, Celf, Cymraeg, Saesneg. Os am astudio Celf mae llawer o ddisgyblion yn gwneud blwyddyn sylfaen yn gyntaf.
Bioleg ac efallai Chwaraeon (yn dibynnu ar y cwrs)
Chwaraeon. Mae Bioleg hefyd yn gallu bod yn ddefnyddiol yn ddibynol ar natur y cwrs.
Efallai bydd angen i chi roi cyflwyniad o'ch syniadau / portffolio o'ch gwaith.
Yn dibynnu ar y pwnc.
Bydd amrywiaeth o bynciau Ieithyddol, Dyniaethau a Gwyddorau yn darparu sylfaen gadarn a gwybodaeth gyffredinol dda.
Bydd angen dwy lefel A Gwyddoniaeth ar y mwyafrif o brifysgolion. Bydd Mathemateg yn ofynnol ar gyfer y rhan fwyaf o raddau Ffiseg.
Mathemateg a Mathemateg Bellach.
Ystyrir Cemeg fel arfer yn hanfodol ar gyfer meddygaeth, gydag o leiaf un pwnc gwyddoniaeth arall (Bioleg fel arfer).
Ieithoedd a’r Dyniaethau.
O leiaf un gwyddoniaeth - fel arfer Bioleg, Seicoleg neu Iechyd a Gofal.
Mathemateg ac o leiaf un gwyddoniaeth arall, fel arfer Ffiseg. Mae cwrs D&T hefyd yn ddefnyddiol er mwyn arddangos sgiliau angenrheidiol. Mae Mathemateg Bellach yn hynod o ddefnyddiol i lefel UG o leiaf.
Nid oes unrhyw enghreifftiau penodol ond mae pynciau lle mae angen ysgrifennu’n estynedig yn ddefnyddiol.
Cymraeg/Saesneg/Ffrangeg
Dim pynciau penodol ond mae Troseddeg yn ddefnyddiol.
Gweler isod y pynciau dewis sydd ar gynnig yn y man cyntaf ar gyfer Medi 2026. Rhennir y pynciau i mewn i dri categori sef cyrsiau Safon Uwch, cyrsiau Galwedigaethol a chyrsiau Partneriaeth / e-sgol.
NODER: Ni fydd pob un o'r pynciau isod yn rhedeg ym mis Medi 2026. Byddwn yn asesu y nifer o ddisgyblion sydd yn dymuno dilyn y cwrs cyn penderfynu ar yr arlwy terfynol.
Mae'r cyrsiau a nodir isod yn cael eu darparu mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill neu drwy gynllun e-sgol (gweler y linc hwn am fanylon pellach)